Joseph Heller
Joseph Heller | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mai 1923 Dinas Efrog Newydd, Coney Island |
Bu farw | 12 Rhagfyr 1999, 10 Rhagfyr 1999 East Hampton, Efrog Newydd |
Man preswyl | Brooklyn |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ysgrifennwr, sgriptiwr, nofelydd, dramodydd, newyddiadurwr, rhyddieithwr, hunangofiannydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Catch-22, God Knows, No Laughing Matter, Picture This, Closing Time, Portrait of an Artist, as an Old Man, Now and Then |
Arddull | dychan, comedi ddu |
Gwobr/au | Gwobr Médicis am lenyddiaeth dramor, Ysgoloriaethau Fulbright |
llofnod | |
Roedd Joseph Heller (1 Mai 1923 – 12 Rhagfyr 1999) yn awdur Americanaidd. Mae wedi cyhoeddi nifer o nofelau, straeon byrion a sgriptiau ffilm. Ei waith enwocaf yw'r llyfr Catch-22.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Heller yn Coney Island, Brooklyn, Efrog Newydd yn blentyn i Isaac Donald Heller a Leena ei wraig. Roedd ei rieni yn Iddewon tlawd a mewnfudodd o Rwsia. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Abraham Lincoln, gan ymadael a'r ysgol ym 1941.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar ôl gadael yr ysgol symudodd Heller o swydd i swydd. Rhoddodd gais ar fod yn brentis gof, yn gariwr negeseuon ac yn glerc swyddfa. Ymunodd yr Unol Daleithiau a'r Ail Ryfel Byd wedi'r ymosodiad ar Perl Harbor ar 7 Rhagfyr 1941. Ymunodd Heller a Chorfflu Awyr Byddin yr UD ym 1942. Hedfanodd mewn 60 o gyrchau ar y ffrynt Eidalaidd.[3]
Ar ôl i'r rhyfel darfod aeth Heller i'r brifysgol o dan gynllun i gyn milwyr bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol De California cyn trosglwyddo i Brifysgol Efrog Newydd gan raddio mewn Saesneg ym 1948. Ym 1949 graddiodd gyda MA yn Saesneg o Brifysgol Columbia. O Columbia aeth i Goleg y Santes Catrin, Rhydychen lle wariodd blwyddyn yn astudio o dan Ysgoloriaeth Fulbright.[4] Ym 1950 cafodd ei benodi yn athro ym Mhrifysgol Pennsylvania State gan aros yna hyd 1952. Wedyn bu'n gweithio fel ysgrifennwr copi hysbysebu ar gyfer y cwmni cyhoeddi Time Inc (1952-56) a'r cylchgrawn Look (1956-58) ac yna fel rheolwr hyrwyddo cwmni McCall’s (1958-61).
Dychwelodd i ddysgu yn y 1970au wedi iddo ennill enw da fel awdur. Bu'n dysgu fel Athro ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgolion Yale, Pennsylvania a City Collage, Efrog Newydd.
Gyrfa lenyddol
[golygu | golygu cod]Gwaith gyntaf Heller i gael ei gyhoeddi oedd stori fer a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn The Atlantic ym 1948. Dechreuodd ysgrifennu ei lyfr enwocaf Catch-22 ym 1953. Cafodd y bennod gyntaf ei gyhoeddi ym 1955 (fel Catch-18) yng Nghylchgrawn New World Writing. Wedi i tua threian o'r llyfr cael ei hysgrifennu fe'i cyflwynwyd i gwmni cyhoeddi Simon & Schustler. Rhoddodd y cwmni blaendal o $750 am yr hawl i gyhoeddi iddo gydag addewid o $750 arall wedi darfod y gwaith. Cymerodd Heller wyth mlynedd i gyflawni'r gwaith a chyhoeddwyd y llyfr ym 1961.[5] Ysgrifennodd pum nofel arall ar ôl Catch-22, er i bob un ohonynt werthu'n dda ni chafodd cystal llwyddiant eto a chafodd efo'i nofel gyntaf.[6]
Yn ogystal ag ysgrifennu straeon byrion a nofelau bu Heller hefyd yn ysgrifennu sgriptiau ffilm a theledu. Ei sgript ffilm gyntaf oedd addasiad i'r sgrin fawr o nofel Helen Gurley Brown Sex and the Single Girl ac ysgrifennodd penodau ar gyfer y gyfres comedi Americanaidd McHale's Navy. Ym 1967 cyhoeddodd drama lwyfan a oedd yn wrthwynebus i Ryfel Fietnam We Bombed in New Haven a berfformiwyd ar Broadway gyda Jason Robards yn serennu.
Teulu
[golygu | golygu cod]Priododd Shirley Held ym 1945 a chawsant fab a merch. Wedi ysgaru a'i wraig gyntaf ym 1984 priododd a Valerie Humphries ym 1987.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw o drawiad y galon yn ei gartref yn Long Island yn 76 mlwydd oed [7] ychydig ar ôl darfod ei nofel olaf Portrait of the Artist as an Old Man.
Geler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Fried, Lewis. "Heller, Joseph." Encyclopaedia Judaica, edited by Michael Berenbaum and Fred Skolnik, 2nd ed., vol. 8, Macmillan Reference USA, 2007, p. 795. Gale eBooks. Adalwyd 18 Ionawr. 2020.
- ↑ "Joseph Heller Biography". www.cliffsnotes.com. Cyrchwyd 2020-01-19.
- ↑ "Joseph Heller | American author". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-01-19.
- ↑ "Joseph Heller Biography - childhood, death, school, book, old, information, born, college, time, year". www.notablebiographies.com. Cyrchwyd 2020-01-19.
- ↑ "Joseph Heller". www.penguin.co.uk. Cyrchwyd 2020-01-19.
- ↑ Tanniru, Joseph. "A brief tribute to Joseph Heller, author of Catch-22". www.wsws.org. Cyrchwyd 2020-01-19.
- ↑ "Joseph Heller, Author of 'Catch-22,' Dies at 76". archive.nytimes.com. Cyrchwyd 2020-01-19.
- Genedigaethau 1923
- Marwolaethau 1999
- Academyddion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Academyddion Iddewig o'r Unol Daleithiau
- Cyn-fyfyrwyr Coleg y Santes Catrin, Rhydychen
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Columbia
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Efrog Newydd
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Dramodwyr Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Llenorion Iddewig o'r Unol Daleithiau
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Llenorion straeon byrion Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Milwyr Byddin yr Unol Daleithiau
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Nofelwyr Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Pobl o Brooklyn
- Pobl fu farw o drawiad ar y galon