John Williams (Ioan Madog)

Oddi ar Wicipedia
John Williams
FfugenwIoan Madog Edit this on Wikidata
Ganwyd3 Medi 1812 Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mai 1878 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, gof Edit this on Wikidata
TadRichard Williams Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg a gof oedd John Williams (3 Medi 18125 Mai 1878), a adnabyddid wrth ei enw barddol Ioan Madog.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Ioan Madog yn y Bontnewydd ger Rhiwabon, cartref ei rieni, Richard ac Elinor Williams, ar y pryd. Ymhen tua naw mlynedd, sef tua'r flwyddyn 1821, symudodd y teulu i'r cartref gwreiddiol yn Nhremadog. Gof oedd tad y bardd a dysgodd yntau y grefft ganddo wrth brifio.[1]

Bu mewn ysgol am dymor yn Nhremadog ac, yn ddiweddarach, mewn ysgolion yn Sir Ddinbych ac wedyn yn nhref Caernarfon; peth anghyffredin pryd hynny oedd i fab crefftwr gael addysg ffurfiol fel hyn. Glynnodd wrth grefft ei dad er hynny gan ennill enw am ei waith. Dywed y bardd Thomas Jones (Cynhaiarn) fod iddo gryn fedr yn gwneud offer haearn i'w defnyddio ar y llongau a adeiledid ym Mhorthmadog.[1]

Bu farw ar y 5ed o Fai 1878 a chafodd ei gladdu ym mynwent Ynyscynhaearn.

Barddoni[golygu | golygu cod]

Bu'n barddoni er yn gynnar yn ei oes. Pan dyfodd i fyny dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau. Fe'i urddwyd yn fardd yn eisteddfod y Bala, 1836. Cafodd ei wobrwyo am ei ymdrechion yn eisteddfodau Aberffraw, 1849, Rhuddlan, 1850, eisteddfod Madog, 1851, a sawl un arall. Cyhoeddwyd casgliad o'i gerddi gyda chofiant iddo yn 1881.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Gwaith Barddonol Ioan Madog ynghyd â Bywgraffiad o'r awdwr, a llythyrau oddi wrth rai o brif feirdd y genedl (Pwllheli, 1881 )

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: