John Roberts (Telynor Cymru)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o John Roberts (telynor))
John Roberts
FfugenwTelynor Cymru Edit this on Wikidata
Ganwyd1816 Edit this on Wikidata
Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mai 1894 Edit this on Wikidata
y Drenewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethtelynor Edit this on Wikidata

Sipsi a cherddor a arbenigai yn y delyn oedd John Roberts (181611 Mai 1894) a adnabyddid hefyd fel Telynor Cymru (ac ar ddechrau ei yrfa fel 'Alaw Elwy').[1] Roedd Eldra Jarman (1917 – 2000), yr olaf yn nhraddodiad y Sipsi Cymreig ac awdur Y Sipsiwn Cymreig, yn or-wyres iddo. Siaradai Romani yn rhugl.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Roedd yn fab i John Lewis Roberts (neu 'Jac yr Hors') o Gerrigydrudion, sydd yn ne-ddwyrain Sir Ddinbych a Sarah, merch Abraham Wood. Ganwyd John yn "Rhiwlas Isaf", Llanrhaeadr, ger Dinbych. Mae'n bosib fod ei dad yn gefnder i John Roberts (Sion Robert Lewis). Yn 1836 priododd Eleanor Wood Jones, merch Jeremiah Wood Jones.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Wedi gadael yr ysgol ymunodd gyda Chatrawd 23 yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a bu yno am bron i deg mlynedd. Pan adawodd, symudodd i'r Drefnewydd, ac yno y bu byw hyd at ei farwolaeth. Dysgwyd ef i ganu'r delyn gan frawd ei fam, Archelaus Wood.

Canwr a thelynor[golygu | golygu cod]

Bu'n ddisgybl i Richard Roberts, Caernarfon, a daeth yn delynor enwog ac yn ganwr penillion rhagorol. Enillodd y delyn deir-res yn Eisteddfod y Fenni yn 1842 a'r brif wobr yn 1848. Enillodd ar y delyn yn Eisteddfod Caerdydd yn 1850. Canodd y delyn o flaen brenhines Lloegr yn Portsmouth yn 1834, ac yn Winchester ddwywaith yn 1835; perfformiodd o flaen y dug Constantine o Rwsia yn Aberystwyth yn 1847, a brenin Gwlad Belg yn Abertawe yn 1848. Dysgodd naw o'i blant i ganu'r delyn, y ffidil, a'r ffliwt, a rhoesant gyngerdd o flaen y frenhines yn y Pale, Llandderfel, yn 1889 . Disodlwyd y llysenw 'Alaw Elwy' mewn arwest farddol yng Nglan Geirionydd ac urddwyd ef gan Gwilym Cowlyd yn 'Delynor Cymru' yn 1886.

Plant[golygu | golygu cod]

Merched
  • Mary Ann, yr hynaf: roedd yn arbennig o fedrus ar y delyn ac enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau. Priododd a'i chefnder Edward Wood, cafodd ddau o blant a bu farw yn 29 oed.
  • Sarah: wedi i'w chwaer Mary farw, priododd ei gweddw Edward a chawsant wyth o blant. Gwahanodd y ddau a bu hi farw yn 1919
  • Ann: hen ferch; di-blant
Meibion

Cawsant ddeg mab ac roedd naw yn aelodau o'r Cambrian Minstrels, cwmni o gerddorion teithiol.

  1. Lloyd Wynne, y mab hynaf. Enillodd ar ganu'r delyn yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1865. Roedd yn delynor i'r Fonesig Londonderry.
  2. Abraham: bu farw'n blentyn
  3. Madoc: enillydd ar y delyn yn Eisteddfod Llanymddyfri Priododd Mary Wood, perthynas iddo
  4. John: enillodd ar y delyn mewn nifer o Eisteddfodau
  5. Ruben France: efaill James. Priododd Ruben Ellen Wood a chawsant 14 o blant. Yn ôl Hafina Clwyd, roedd i'w weld ar brom y Rhyl yn canu'r delyn pan oedd yn 70 oed. Roedd yn hen-daid i Eldra Jarman.[2]
  6. James England: efaill Ruben. Y ffliwt oedd ei brif offeryn.
  7. Albert: ei enw barddol oedd 'Pencerdd y Delyn Deires'. Perfformiodd gyda'i dad yn 1888 i Ymerodres Ostria.
  8. Ernest: dysgodd y ffidil a'r delyn; priododd ferch ffermwr a symudodd i Wilmcote yn Swydd Warwick lle cadwodd y swyddfa bost leol a bu fyw'n gant oed.
  9. Charles: y soddgrwth a'r delyn.
  10. William: y mab ieuengaf. Canai'r delyn a'r ffidil gan chwarae yn y Palladium, Llundain yn 1932 fel aelod o fand Eugene Magyar.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 11 Mai 2017.
  2. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • M. O. Jones, Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig, Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890 ;

Alawon fy Ngwlad , 1896 ;