Eldra Jarman
Gwedd
| Eldra Jarman | |
|---|---|
| Ganwyd | 4 Medi 1917 Aberystwyth |
| Bu farw | 24 Medi 2000 Pontypridd Cottage Hospital |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | awdur, telynor |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
| Priod | A.O.H. Jarman |
Telynores ac awdures o Gymru oedd Eldra Jarman (1917 – 2000).
Ganed hi yn Eldra Roberts, yn or-wyres i John Roberts (Telynor Cymru), cynrychiolydd traddodiad y telynorion Roma Cymreig. Daeth hithau yn delynores adnabyddus, a ddysgodd donau gan ei thad, Ernest France Roberts, a thrwyddo ef efallai o'i thaid Reuben Roberts. Cyfansoddodd rai tonau ei hunan hefyd.
Roedd yn briod a'r ysgolhaig A.O.H. Jarman. Ychydig cyn ei marwolaeth, bu'n cydweithio ar sgript y ffilm deledu Eldra, a ddangoswyd ar S4C yn 2001, yn seiliedig ar ei bywyd cynnar ym Methesda.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Y Sipsiwn Cymreig (1979)
- The Welsh Gypsies: Children of Abram Wood (1991)