John Morgan (archesgob)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Morgan
Ganwyd 6 Mehefin 1886 Edit this on Wikidata
Llandudno Edit this on Wikidata
Bu farw 26 Mehefin 1957 Edit this on Wikidata (71 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaeth offeiriad Edit this on Wikidata
Swydd Bishop of Swansea and Brecon Edit this on Wikidata

Roedd John Morgan (6 Mehefin 188626 Mehefin 1957) yn Esgob Llandaf o 1939 hyd 1957 ac yn Archesgob Cymru o 1949 hyd 1957.

Ganed ef yn Llandudno, yn fab i John Morgan, yn ddiweddarach yn Archddiacon Bangor. Addysgwyd ef yn ysgol y gadeirlan, Llandaf, yng Ngholeg Llanymddyfri, Coleg Hertford, Rhydychen a Choleg Cuddesdon. Bu'n gurad Llanaber ac Abermaw o 1910 hyd 1912, yna'n gaplan i Esgob Truro. Rhwng 1916-19 roedd yn gaplan i'r lluoedd arfog. Daeth yn ficer Llanelwy yn 1917, yna'n offeiriad yn gyfrifol am blwyf Llanbeblig a Chaernarfon, ac yn 1920 yn ficer y plwyf. Tra'r oedd yno bu'n Ddeon Gwledig Arfon o 1928 hyd 1931. Yn 1931 daeth yn Ganon Eglwys Gadeiriol Bangor, ac yn 1933 yn rheithor Llandudno. Y flwyddyn wedyn etholwyd ef yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu, cyn symud i fod yn Esgob Llandaf yn 1939. Etholwyd ef yn Archesgob Cymru yn 1949. Bu farw yn Llundain, a chladdwyd ef yn Llanelwy.

Rhagflaenydd:
David Lewis Prosser
Archesgob Cymru
19491957
Olynydd:
Edwin Morris