Edwin Morris
| Edwin Morris | |
|---|---|
| Ganwyd | 8 Mai 1894 Gorllewin Canolbarth Lloegr |
| Bu farw | 19 Hydref 1971 Llanbedr Pont Steffan |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, offeiriad Anglicanaidd |
| Swydd | Archesgob Cymru, Esgob Mynwy |
| Cyflogwr | |
Roedd Alfred Edwin Morris (8 Mai 1894 – 19 Hydref 1971) yn Archesgob Cymru o 1957 hyd 1967.
Ganed ef yn Lye yng nghanolbarth Lloegr yn fab i Alfred Morris a Maria Lickert. Gadawodd yr ysgol yn ddeuddeg oed i fynd i weithio yng musnes genwaith ei dad. Pan benderfynodd yn ddiweddarach fod arno eisiau bod yn offeiriad, awgrymodd y ficer lleol, oedd yn Gymro, ei fod yn astudio yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr.
Wedi graddio o Lanbedr bu'n astudio ymhellach yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen. Dychwelodd i Lanbedr fel Athro Hebraeg a Diwinyddiaeth, ac yn 1942 bu'n faer y dref.
Yn 1945 etholwyd ef yn Esgob Mynwy, yna yn 1957 yn Archesgob Cymru. Yn ystod ei gyfnod fel Archesgob bu rhywfaint o ddadlau ynglŷn â'r iaith Gymraeg; ni ddysgodd Gymraeg ac roedd teimlad nad oedd ganddo lawer o gydymdeimlad a'r iaith. Ymddeolodd yn 1967, a bu farw yn Llanbedr yn 1971.[1]
Llyfrau
[golygu | golygu cod]- The Church in Wales and Nonconformity (1949)
- The Problem of Life and Death (1950)
- The Catholicity of the Book of Common Prayer (1952)
- The Christian Use of Alcoholic Beverages (1961)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Morris, Most Rev. (Alfred) Edwin, (8 May 1894–19 Oct. 1971), retired as Archbishop of Wales (1957–67) and Bishop of Monmouth (1945–67)". Who Was Who (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Rhydychen. 1 Rhagfyr 2007. Cyrchwyd 2 Mai 2023.
| Rhagflaenydd: John Morgan |
Archesgob Cymru 1957 – 1967 |
Olynydd: William Glyn Hughes Simon |