John Griffith (Y Gohebydd)
John Griffith | |
---|---|
Ganwyd | 6 Rhagfyr 1821 Abermaw |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1877 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Cyflogwr | |
Mam | Maria Roberts |
Newyddiadurwr Cymreig oedd John Griffith (16 Rhagfyr 1821 – 13 Rhagfyr 1877), sy'n adnabyddus wrth ei ffugenw "Y Gohebydd".
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Brodor o Abermaw, Meirionnydd oedd John Griffith. Ar ôl cychwyn ei yrfa fel groser, cynorthwyodd Hugh Owen yn y gwaith o sefydlu Ysgolion Frytanaidd. Dechreuodd gyfrannu erthyglau i'r newyddiadur misol Y Cronicl, a sefydlasid gan ei ewythr Samuel Roberts ("S.R." Llanbrynmair).[1]
Yn nes ymlaen ymunodd â staff Baner ac Amserau Cymru, newyddiadur arloesol Thomas Gee, a daeth yn ohebydd Llundain i'r papur. Daeth yn adnabyddus wrth y llysenw a fabwysiadwyd ganddo, sef "Y Gohebydd". Fel Thomas Gee, roedd yn Rhyddfrydwr brwd. Ymgyrchai o blaid cael addysg i bawb. Roedd yn un o sefydlwyr Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1873. Gwnaeth ei ran hefyd yn y gwaith o sefydlu Eisteddfod Genedlaethol Cymru.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Richard Griffiths, Y Gohebydd (1905). Bywgraffiad.