John Demjanjuk
John Demjanjuk | |
---|---|
Ganwyd | 3 Ebrill 1920 Dubovi Makharyntsi, Berdychiv |
Bu farw | 17 Mawrth 2012 Bad Feilnbach |
Dinasyddiaeth | Yr Undeb Sofietaidd, Unol Daleithiau America, di-wlad |
Galwedigaeth | torturer, person milwrol, concentration camp guard, mecanydd |
Wcreiniad oedd John Demjanjuk (ganwyd Ivan Mykolaiovych Demianiuk; Wcreineg: Іван Миколайович Дем'янюк; 3 Ebrill 1920 – 17 Mawrth 2012) a gafwyd yn euog o droseddau rhyfel tra'n cydweithio â'r Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ganwyd yng Ngweriniaeth Pobl Wcrain, yn ystod Rhyfel Gwlad Pwyl a Rwsia, ychydig cyn Ymosodiad Kiev. Ymunodd â'r Fyddin Goch ym 1941 a chafodd ei ddal gan yr Almaenwyr a'i anfon i wersyll carcharorion rhyfel.[1] Ymfudodd Demjanjuk i'r Unol Daleithiau ym 1952 gan dderbyn dinasyddiaeth ym 1958, a seisnigodd ei enw o "Ivan" i "John".[2][3] Tra'n byw yn y wlad honno cafodd swydd fel gweithiwr ceir. Cafodd ei anfon i Israel ym 1986 i sefyll prawf am droseddau rhyfel, wedi i oroeswyr yr Holocost ei adnabod fel "Ivan yr Ofnadwy",[4] carcharor/gwarchodwr (KAPO) yng ngwersylloedd difa Treblinka a Sobibor. Cyhuddwyd o lofruddiaeth a thrais eithriadol yn erbyn carcharorion y gwersylloedd o 1942 hyd 1943. Cafwyd yn euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth a dedfrydwyd i farwolaeth ym 1988, ond dymchwelwyd y dedfryd hwn gan Oruchaf Lys Israel ym 1993 o ganlyniad i ddarganfyddiad o amheuaeth resymol taw achos o gamadnabyddiaeth oedd hi, ac nid oedd Demjanjuk yn "Ivan yr Ofnadwy" ond yn warchodwr mewn gwersylloedd eraill.[5] Wedi'r achos llys, ym Medi 1993, dychwelodd i'w gartref yn Ohio.
Cyhuddwyd Demjanjuk eto yn 2001 o fod yn warchodwr yng ngwersylloedd Sobibor a Majdanek yng Nglwad Pwyl a gwersyll crynhoi Flossenbürg yn yr Almaen. Gorchymynwyd yn 2005 i'w alltudio, ond wedi iddo ddishysbyddu'i apeliadau yn 2008 arhosodd yn yr Unol Daleithiau gan nad oedd yr un wlad arall yn cytuno i'w dderbyn ar yr adeg honno. Ar 2 Ebrill 2009, datganwyd y bydd Demjanjuk yn cael ei anfon i'r Almaen i sefyll ei brawf. Ar 3 Ebrill, gorchmynnodd barnwr ataliad dros dro ar ei alltudiaeth, hyd nes gwneir penderfyniad barnwrol ar gais i ailagor gorchymyn alltudio Demjanjuk, ar y sail bydd ei alltudio yn gyfystyr ag artaith dan gyfraith ryngwladol.[6] Dymchwelwyd yr ataliad ar 6 Ebrill.[7]
Ar 14 Ebrill 2009, cychwynnodd alltudiaeth Demjanjuk a chafodd ei symud o'i gartref mewn cadair olwyn gan asiantau'r adran fewnfudo. Trefnwyd iddo hedfan i München o Cleveland, Ohio, ond dymchwelwyd y gorchymyn unwaith eto a rhoddwyd ataliad arall gan y llys.[8] Ar 7 Mai, gwrthododd Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau apêl Demjanjuk ac ar 8 Mai fe'i orchmynnwyd i ildio i asiantau mewnfudo er mwyn ei alltudio i'r Almaen. Ar 11 Mai, gadawodd Demjanjuk ei gartref yn Cleveland mewn ambiwlans ac fe'i alltudiwyd ar awyren, gan gyrraedd yr Almaen y bore trannoeth.[9][10] Ar 13 Gorffennaf, cyhuddwyd Demjanjuk yn ffurfiol o 27,900 o gyhuddiadau o ymddwyn fel affeithiwr i lofruddiaeth, un am bob person bu farw yn Sobibor yn ystod ei adeg fel gwarchodwr. Cychwynnodd achos llys Demjanjuk ym München ar 30 Tachwedd.[11] Daeth i ben ar 12 Mai 2011, a chafwyd yn euog fel affeithiwr i lofruddiaeth 27,900 o Iddewon a dedfrydwyd i'r carchar am bum mlynedd.[12] Cafodd ei ryddhau tra'n disgwyl ei apêl, a thrigodd mewn cartref nyrsio yn Bad Feilnbach nes ei farwolaeth yn oed 91 ar 17 Mawrth 2012.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Obituary: John Demjanjuk. BBC (17 Mawrth 2012). Adalwyd ar 17 Mawrth 2012.
- ↑ (Saesneg) John Demjanjuk's lawyers seek his return to the U.S.. Cleveland.com (20 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 17 Mawrth 2012.
- ↑ (Saesneg) James Sturcke (12 Mai 2009). Timeline: John Demjanjuk. The Guardian. Adalwyd ar 17 Mawrth 2012.
- ↑ Wagenaar, Willem A. Identifying Ivan: A Case Study in Legal Psychology (Gwasg Prifysgol Harvard, 1989). ISBN 978-0-674-44285-6
- ↑ (Saesneg) Chris Hedges (12 Awst 1993). Israel Recommends That Demjanjuk Be Released. The New York Times. Adalwyd ar 17 Mawrth 2012.
- ↑ (Saesneg) U.S. judge stays Demjanjuk deportation. Reuters (3 Ebrill 2009). Adalwyd ar 17 Mawrth 2012.
- ↑ (Saesneg) U.S. immigration judge in Virginia revokes Demjanjuk's stay of deportation to Germany. He is accused of being a Nazi death camp guard.. AP Breaking News. Twitter (6 Ebrill 2009). Adalwyd ar 17 Mawrth 2012.
- ↑ (Saesneg) Alleged Nazi guard released from custody. MSNBC (14 Ebrill 2009). Adalwyd ar 17 Mawrth 2012.
- ↑ (Saesneg) Demjanjuk en route to Germany. United Press International (11 Mai 2009). Adalwyd ar 17 Mawrth 2012.
- ↑ (Saesneg) Nicholas Kulish (12 Mai 2009). Accused Nazi Arrives in Munich. The New York Times. Adalwyd ar 17 Mawrth 2012.
- ↑ (Saesneg) John Demjanjuk war crimes trial begins in Munich. BBC (30 Tachwedd 2009). Adalwyd ar 17 Mawrth 2012.
- ↑ (Saesneg) Karin Matussek (12 Mai 2011). Demjanjuk Convicted of Helping Nazis to Murder Jews During the Holocaust. Bloomberg. Adalwyd ar 17 Mawrth 2012.