John Davies, Tahiti

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Davies, Tahiti
Ganwyd11 Gorffennaf 1772 Edit this on Wikidata
Llanfihangel-yng-Ngwynfa Edit this on Wikidata
Bu farw19 Awst 1855 Edit this on Wikidata
Papara Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethathro ysgol, cenhadwr, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Roedd John Davies (11 Gorffennaf, 177219 Awst, 1855) yn athro a chenhadwr Cymreig.[1][2]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymddengys i John Davies gael ei eni mewn bwthyn ar dir Dugwm Isaf, Meifod, Sir Drefaldwyn, yn blentyn i wehydd tlawd, ond symudodd y teulu yn ddiweddarach i Halfen Isaf ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Cafodd ond tri mis o addysg ffurfiol,[3] yn un o ysgolion teithiol Madam Bevan. Fe'i magwyd ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd, ac ymysg cyfeillion ei ieuenctid roedd John Thomas, Dolwar Fach, brawd Ann Thomas (Griffiths wedyn), a John Hughes, Pontrobert, y gweinidog a gofnododd emynau Ann.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Mynychai'r teulu seiat y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Wedi i Thomas Charles glywed bod John Davies yn aelod diwyd a defnyddiol o'r seiat gwahoddwyd ef i ddod yn athro yn ei ysgolion ef ym 1797.[4] Bu Davies yn athro yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Machynlleth a Llanwyddelan.

Wedi clywed bod Cymdeithas Genhadol Llundain yn chwilio am weithwyr ar gyfer eu cenhadaeth yn Tahiti, gwirfoddolodd i fod yn un ohonynt. Gadawodd am yr ynys ym mis Mai 1800, gan gyrraedd yno 10 Gorffennaf 1801. Oherwydd rhyfeloedd ymhlith y brodorion yno, gorfodwyd ef a'i gyd-genhadon i adael Tahiti. Treuliodd y cyfnod rhwng 1808 a 1820 yn Port Jackson (Sydney) ac yn ynysoedd Huahine a Mo'orea, ond dychwelodd i Tahiti yn niwedd 1820 a threulio weddill ei oes yno, heb byth dychwelyd i Gymru.[5]

Yn ogystal â phregethu ymysg y brodorion a chynnal ysgolion, bu Davies yn gyfrifol am gyhoeddi sawl llyfr yn y Tahitïeg. Cyfieithodd nifer o lyfrau'r Testament Newydd ar gyfer y Beibl Tahitïeg (ond rhoddwyd y clod am y Beibl i gyd i Sais o'r enw Henry Nott).[6] Cyhoeddodd eiriadur a gramadeg Tahitïeg, a'i lyfr sillafu yn 1810 oedd y llyfr cyntaf i'w argraffu yn iaith Tahiti. Ysgrifennodd hefyd nifer o emynau Tahitïeg, rhai ohonynt yn gyfieithiadau o emynau Cymraeg.[5] Chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o droi'r Dahitïeg yn iaith ysgrifenedig a gosod sylfeini ei llenyddiaeth ysgrifenedig, ac fe'i mawrygir yno hyd heddiw ar gyfrif hynny.

Cyhoeddwyd ei History of the Tahitian Mission, 1799-1830 ym 1962, ac mae'n ffynhonnell hanfodol ar gyfer astudio hanes y genhadaeth a hanes Tahiti yn y cyfnod hwnnw.

Gwelodd newidiadau mawr yn hanes cenhadaeth Cymdeithas Genhadol Llundain yn Tahiti tua diwedd ei fywyd. Bu rhyfel rhwng Ffrainc â Tahiti o 1844 i 1847. O ganlyniad daeth Tahiti a Tahuata yn diffynwledydd Ffrainc gan roi'r hawl i genhadu ynddynt i'r Eglwys Gatholig Rufeinig.[7] Gadawodd nifer o genhadon Cymdeithas Genhadol Llundain yr ynys yn sgil hynny, ond mynnodd John Davies aros yno.

Trwy gydol ei amser yn Tahiti ysgrifennai'n rheolaidd at John Hughes, Pontrobert, a chyhoeddwyd llawer o'r llythyrau yn y Drysorfa, cylchgrawn y Methodistiaid Calfinaidd.[8] Yn y Gymraeg y gohebent nes i John Davies golli ei olwg yng nghanol y 1840au.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Davies yn briod ddwywaith. Priododd ei wraig gyntaf yn 1810, ond bu hi farw yn 1812 yn sgil geni merch fach (a fu farw hefyd yr adeg honno). Priododd am yr ail waith yn 1824. Ni fu plant o'r ail briodas, ond llysferch o'r ail briodas honno fu'n gofalu amdano yn ei henaint.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn Papara, Tahiti yn 83 mlwydd oed a 55 mlynedd ar ôl iddo symud i'r ynys.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Evans, E. L., (1953). DAVIES, JOHN (1772 - 1855), cenhadwr ac athro ysgol. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 24 Gorffennaf 2020
  2. James, E. Wyn (2021). "“Montgomeryshire Worthies”: biographical dictionary entries for John Davies (Tahiti), Ann Griffiths, and the Hughes family of Pontrobert". Cylchgrawn Hanes (Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd/Historical Society of the Presbyterian Church of Wales) 45: 83-86.
  3. Cymru'r Plant; Cyf. XV rhif. 180 - Rhagfyr 1906: O Ddinodedd i Fri; VI John Davies Adferwyd 24 Gorffennaf 2020
  4. Cymru Cyfrol. 30, 1906, tudalen 26 Pontrobert Adferwyd 24 Gorffennaf 2020
  5. 5.0 5.1 Williams, Richard, Montgomeryshire worthies - erthygl Rev John Davies tudalen 40 Adferwyd 24 Gorffennaf 2020
  6. Y Cofiadur sef cylchgrawn Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru Rhif 59, (Mai 1995) tudalen 10 Tua Tahiti ac Ynysoedd Eraill Adferwyd 24 Gorffennaf 2020
  7. Yr Athraw Mehefin 1843 Tahiti Adferwyd 25 Gorffennaf 2020
  8. Dyma enghraifft: Y Drysorfa Rhif LXXXII - Hydref 1853 Lythyr oddiwrth Y Parch. John Davies, Tahiti, at Y Parch. John Hughes, Pont Rhobert Adferwyd 25 Gorffennaf 2020
  9. Y Dysgedydd Crefyddol Chwefror 1856; Marwolaeth Y Parch John Davies Tahiti Adferwyd 25 Gorffennaf 2020