Jim Nabors

Oddi ar Wicipedia
Jim Nabors
Jim Nabors yn portreadu ei gymeriad enwocaf, Gomer Pyle, ym 1968.
GanwydJames Thurston Nabors Edit this on Wikidata
12 Mehefin 1930 Edit this on Wikidata
Sylacauga, Alabama Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 2017 Edit this on Wikidata
Honolulu Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, canwr, cerddor, digrifwr, actor teledu, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth yr efengyl, sentimental ballad, canu gwlad Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.jimnabors.com Edit this on Wikidata

Actor digrif a chanwr Americanaidd oedd James Thurston "Jim" Nabors (12 Mehefin 193030 Tachwedd 2017) a ddaeth yn enwog am bortreadu'r cymeriad Gomer Pyle yn y rhaglenni teledu comedi The Andy Griffith Show (1962–64) a Gomer Pyle, U.S.M.C. (1964–69). Bu hefyd yn ganwr poblogaidd, gan amlaf baledi rhamantaidd, canu'r efengyl ac emynau, canu gwlad, a chaneuon o sioeau cerdd.

Ganed ef yn Sylacauga, Alabama, yn fab i blismon. Yn ystod ei ddyddiau ysgol, canai yn y clwb glee a chôr yr eglwys, a chanai'r clarinét yng ngherddorfa'r ysgol. Derbyniodd radd mewn busnes o Brifysgol Alabama, a symudodd i Efrog Newydd i geisio am swydd ym myd y theatr, tra'n gweithio fel teipydd ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig. Ni lwyddodd i gael ei gyfle ar y llwyfan, felly symudodd i Tennessee i weithio fel torrwr ffilm i sianel deledu yn Chattanooga. Erbyn diwedd y 1950au bu'n dorrwr ffilm i NBC yn Los Angeles.[1]

Yn Santa Monica, Califfornia, perfformiodd Nabors ei ymsonion digrif a'i unawdau operatig yn ddi-dâl mewn clwb cabaret o'r enw The Horn. Yno, cafodd ei wahodd gan yr actor comig Bill Dana i roi clyweliad i The Steve Allen Show, ac ymddangosodd Nabors sawl gwaith ar y sioe honno cyn iddi ddod i'w therfyn ym 1961.[1] Wedi hynny, cafodd ei recriwtio gan Andy Griffith i bortreadu cymeriad rheolaidd ar The Andy Griffith Show, a ddarlledwyd ar CBS ers 1960. Ymddangosodd Nabors yn y drydedd a'r bedwaredd gyfres o'r gomedi sefyllfa boblogaidd honno, o 1962 i 1964, yn rhan Gomer Pyle, gweithiwr gorsaf betrol yn nhref ffuglennol Mayberry, Gogledd Carolina. Byddai'n serennu mewn spin-off ei hun, Gomer Pyle, U.S.M.C., yn portreadu'r un cymeriad wedi iddo ymuno â Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau. Parhaodd y rhaglen honno am bum cyfres, o 1964 i 1969.

Canodd Nabors i gynulleidfa'r teledu am y tro cyntaf mewn pennod o The Andy Griffith Show a fel perfformiwr gwadd ar The Danny Kaye Show ym 1964, a byddai'n canu mewn ambell golygfa ar Gomer Pyle, U.S.M.C. Wedi diwedd y sioe honno, cyflwynodd ei sioe amrywiaethol ei hun, The Jim Nabors Hour, ar CBS o 1969 i 1971. Yn y 1970au, ymddangosodd yn aml ar The Carol Burnett Show, a chyd-serennodd â Ruth Buzzi ar y rhaglen deledu i blant The Lost Saucer (1975–76). Ymddangosodd hefyd yn y ffilmiau The Best Little Whorehouse in Texas (1982), Stroker Ace (1983), a Cannonball Run II (1984). Rhyddhaodd nifer o albymau o ganeuon, ac o 1972 i 2014 bu'n canu "Back Home Again in Indiana" yn aml cyn dechrau ras geir yr Indianapolis 500, a gynhaliwyd yn flynyddol ar benwythnos Diwrnod Coffa.

Yn 2013 priododd Nabors â Stan Cadwallader, ei bartner ers 38 mlynedd, yn Seattle ychydig wythnosau wedi i briodasau cyfunryw gael eu cyfreithloni yn nhalaith Washington.[2] Bu farw Jim Nabors yn ei gartref yn Honolulu, Hawaii, yn 87 oed.[1]

Ffilmiau / Teledu[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Richard Severo, "Jim Nabors, 87, TV’s Gomer Pyle, Is Dead", The New York Times (30 Tachwedd 2017). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Hydref 2021.
  2. (Saesneg) "EXCLUSIVE: Actor Jim Nabors marries his longtime male partner", Hawaii News Now (30 Ionawr 2013). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Hydref 2021.