James James (Iago Emlyn)

Oddi ar Wicipedia
James James
FfugenwIago Emlyn Edit this on Wikidata
Ganwyd1800 Edit this on Wikidata
Betws Ifan Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ionawr 1879 Edit this on Wikidata
Clifton, Bryste Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Roedd James James (Iago Emlyn) (1800 -5 Ionawr, 1879) yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn fardd.[1] Roedd yn ewyrth, brawd mam, i'r cerddor David Emlyn Evans a'r awdur Evan Keri Evans.[2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Iago Emlyn ym Metws Ifan, pentref bychan yng Ngheredigion, yn blentyn i David a Mary James. Bu farw ei rieni pan oedd yn ifanc a chafodd ei fagu gan ei fam gu yng Nghastell Newydd Emlyn.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Bu Iago Emlyn yn gweithio fel masnachwr am nifer o flynyddoedd cyn penderfynu mynd yn efrydydd i Goleg Diwinyddol Caerfyrddin ym 1840. Wedi dwy flynedd o astudio cafodd ei ordeinio'n weinidog gan yr Annibynwyr. Gwasanaethodd fel gweinidog mewn capeli yn Llanelli, Caerdydd, Casnewydd, a Portishead, Gwlad yr Haf. Ymneilltuodd o'r weinidogaeth tua 1844, ar adeg ei briodas a Jane Mince o Clifton, Bryste, oherwydd problemau iechyd. Bu'n fyw ym Mryste am weddill ei oes.[1]

Bardd a llenor[golygu | golygu cod]

Roedd yn fardd caeth a rhydd a oedd yn hynod boblogaidd yn ei ddydd. Cafodd ei urddo fel bardd ar brawf yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni ym 1839 a'i hurddo yn aelod o Orsedd y Beirdd flwyddyn a diwrnod yn ddiweddarach.[3]. Yn ogystal â chyfansoddi cerddi roedd hefyd yn feirniad rheolaidd mewn eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol lleol [4] a chenedlaethol.[5]

Cododd ei feirniadaeth ar Gerdd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1863, peth anghydfod. Cyd feirniad Iago Emlyn oedd Clwydfardd. Pe digwyddid bod anghydfod rhwng dau feirniad ar y pryd roedd y cerddi yn cael eu danfon i ddyfarnwr i ddewis rhwng y ddwy awdl rhoddwyd ar y brig gan y ddau feirniad. Gwilym Hiraethog oedd y dyfarnwr.

Anfonwyd y cyfansoddiadau gyntaf i Glwydfardd, a oedd o'r farn mai awdl gan Talhaiarn oedd y gorau. Wrth anfon y cyfansoddiadau i Iago Emlyn, rhoddodd Clwydfardd wybod iddo am ei benderfyniad. Roedd Iago Emlyn yn anghytuno, ei farn ef oedd mai cerdd gan Gwalchmai oedd yr enillydd. Doedd Iago Emlyn dim o'r farn mae awdl Talhaiarn oedd y gorau na hyd yn oed yr ail orau. Cyn dod i benderfyniad pendant ar y pwnc, anfonodd, yn amhriodol iawn, at y dyfarnwr y pum cyfansoddiad a ystyriodd y gorau yn y gystadleuaeth (nid oedd ymgais Talhaiarn yn un o'r pump). Gofynnodd i'r dyfarnwr ddewis o blith y pump, yr awdl a oedd, yn ei farn ef, y gorau. Cyhoeddodd Gwilym Hiraethog mai awdl gan Emrys oedd y gorau.[6] Penderfynodd Iago Emlyn cyd fynd a beirniadaeth Gwilym Hiraethog, a dyfarnwyd y Gadair i Emrys. Roedd y ffaith bod Talhaiarn yn Eglwyswr, a bod Iago Emlyn, Emrys a Gwilym Hiraethog yn weinidogion gyda'r Annibynwyr yn arwain llawer o bobl i honni bod yr Eisteddfod yn cael ei reoli gan clique o Annibynwyr, a bod y Gadair wedi'i dyfarnu i Emrys dim ond oherwydd ei fod yn weinidog gyda'r Annibynwyr! [7]

Bu Iago Emlyn yn fuddugol mewn eisteddfod yng Nghaerfyrddin ym 1867 am draethawd am ystyr enwau llefydd Cymru. Cafodd ei gyhoeddi fel llyfr ym 1869 (gweler isod), y llyfr cyntaf ar y pwnc i'w hargraffu gan wasg. Yn ei rhagarweiniad i'r llyfr mae hefyd yn un o'r cyntaf i nodi'r perygl i'r iaith a'i thraddodiadau o Seisnigeiddio, cyfieithu neu gyfnewid enwau llefydd Cymraeg sydd ag ystyr a hanes iddynt i enwau Saesneg diystyr.[8] Dadl sy'n parhau hyd heddiw.[9]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref yn Clifton yn 78 mlwydd oed [10] a chladdwyd ei weddillion ym Mryste.[1]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Cyfansoddiadau Buddygawl a Cherddi Ereill (1848) [11]
  • Gweithiau Barddonol Iago Emlyn, (1863)
  • The Philosophical Construction of Celtic Nomenclature (1869).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "JAMES, JAMES ('Iago Emlyn'; 1800 - 1879), gweinidog gyda'r Annibynwyr a bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-25.
  2. Evans, Evan Keri (1919). Cofiant D Emlyn Evans. Lerpwl: Gwasg y Brython. tt. 13–15.
  3. Y cyfaill o'r hen wlad yn America sef cylchgrawn o wybodaeth fuddiol i'r Cymry Cyf. II rhif. XIV - Chwefror 1839 tud:59 Hanesion tramor adalwyd 25 Tachwedd 2019
  4. "Advertising - The Merthyr Telegraph and General Advertiser for the Iron Districts of South Wales". Peter Williams. 1857-05-30. Cyrchwyd 2019-11-25.
  5. "THE NATIONAL EISTEDDFOD - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1863-09-04. Cyrchwyd 2019-11-25.
  6. "BEIRNIADAETH GADAIR ABERTAWE - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1863-09-30. Cyrchwyd 2019-11-25.
  7. The nationalist a non-political magazine for Wales Cyfrol 1, Rhif. 8 - hydref 1907, tud:9, Syr Marchant Williams, Our National Societies, - The Eisteddfod adalwyd 25 Tachwedd 2019
  8. Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion Cyfrol 1925-1926 tud:154 D Arthen Evans, Diogelu Enwau Lleoedd Cymru adalwyd 25 Tachwedd 2019
  9. "Colli pleidlais ar ddiogelu enwau". Cymru Fyw, BBC. 2017-03-15. Cyrchwyd 2019-11-25.
  10. "MARWOLAETH IAGO EMLYN - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1879-01-10. Cyrchwyd 2019-11-25.
  11. Y Bedyddiwr Cyf. VII Rhif. 84 - Rhagfyr 1848 tud:450. ADOLYGIAD Y WASG, CYFANSODDIADAU BUDDYGAWL, A CHERDDI EREILL, GAN IAGO EMLYN. Caerdydd: Argraffwyd gan Owen a Roberts, 1848 adalwyd 25 Tachwedd 2019