Iwgoslafia
Iwgoslafia Jugoslavija (Југославија) | |
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Beograd |
Poblogaeth | 23,271,000, 11,998,000 |
Sefydlwyd | 1 Rhagfyr 1918 (Ffurfiwyd) 27 ebrill 1992 (Daeth i ben) |
Anthem | Hey, Slavs |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Serbo-Croateg |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 255,804 km² |
Gerllaw | Môr Adria |
Yn ffinio gyda | yr Eidal, Gwlad Groeg, Hwngari, Rwmania, Albania, Bwlgaria, Awstria, yr Undeb Ewropeaidd, yr Almaen Natsïaidd |
Cyfesurynnau | 44.8206°N 20.4622°E |
Arian | Yugoslav dinar |
Gwlad ffederal ar lan Môr Adria yn y Balcanau, de-ddwyrain Ewrop, oedd Iwgoslafia (enw swyddogol: Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, Serbo-Croateg: Jugoslavija). Roedd yn cynnwys y gweriniaethau ffederal Slofenia, Croatia, Serbia, Bosnia-Hertsegofina, Montenegro a Macedonia, sy'n wledydd annibynnol erbyn heddiw. Serbiaid a Croatiaid oedd mwyafrif y boblogaeth. Beograd oedd y brifddinas.
Dechreuodd fel "Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid" trwy uno Serbia, Croatia, Slofenia a Bosnia-Hertsegofina yn 1918. Cymerodd y brenin Alecsander I o Iwgoslafia rym absoliwt iddo'i hun yn 1929 ond cafodd ei asasineiddio gan genedlaetholwyr Croataidd yn 1934. Yn yr Ail Ryfel Byd meddianwyd y wlad gan yr Almaenwyr a ffoes Pedr II o Iwgoslafia, olynydd Alecsander, i alltudiaeth yn Llundain.
Rhanwyd y gwrthsafiad yn erbyn yr Almaenwyr rhwng dwy blaid wrthwynebus, sef y Tsietniciaid a'r Partisaniaid. Enillodd yr olaf gefnogaeth y Cynghreiriaid yn 1943 ac ar ôl y rhyfel sefydlodd eu harweinydd Tito lywodraeth gomiwnyddol.
Roedd Tito yn anfodlon i Iwgoslafia fod dan ddylanwad yr Undeb Sofietaidd a daeth materion i ben yn 1948 pan dorrodd gysylltiadai diplomyddol â'r Sofietiaid. Meiriolwyd y sefyllfa rywfaint yn sgîl marwolaeth Stalin. Dilynodd Tito bolisi o niwtraliaeth mewn materion tramor ('non-alignment') a datblygodd ffurf o sosialaeth ddatganoliedig unigryw i'r hen Iwgoslafia. Serbo-Croateg oedd yr iaith ffederal swyddogol.
Torrodd Iwgoslafia i fyny yn y 1990au yn Rhyfeloedd Iwgoslafia.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Hall, Brian: The Impossible Country: A Journey Through the Last Days of Yugoslavia. Penguin. Efrog Newydd, 1994
- Allcock, John B.: Explaining Yugoslavia. Efrog Newydd: Columbia University Press, 2000
- Clark, Ramsey: NATO in the Balkans: Voices of Opposition. International Action Center, 1998
- Cohen, Lenard J.: Broken Bonds: The Disintegration of Yugoslavia. Westview Press, 1993
- Dragnich, Alex N.: Serbs and Croats. The Struggle in Yugoslavia. Efrog Newydd: Harcourt Brace Jovanovich, 1992
- Fisher, Sharon: Political Change in Post-Communist Slovakia and Croatia: From Nationalist to Europeanist. Efrog Newydd: Palgrave Macmillan, 2006
- Gutman, Roy.: A Witness to Genocide. The 1993 Pulitzer Prize-winning Dispatches on the "Ethnic Cleansing" of Bosnia. Efrog Newydd: Macmillan, 1993
- Jelavich, Barbara: History of the Balkans: Eighteenth and Nineteenth Centuries, Cyfrol 1. Efrog Newydd: American Council of Learned Societies, 1983 ED 236 093
- Jelavich, Barbara: History of the Balkans: Twentieth Century, Cyfrol 2. Efrog Newydd: American Council of Learned Societies, 1983. ED 236 094
- Silber, Laura and Allan Little: Yugoslavia: Death of a Nation. Penguin, 1997
- Owen, David: Balkan Odyssey Harcourt (Harvest Book), 1997
- Sacco, Joe: Safe Area Gorazde: The War in Eastern Bosnia 1992-1995. Fantagraphics Books, 2002
- West, Rebecca: Black Lamb and Gray Falcon: A Journey Through Yugoslavia. Viking, 1941
White T. Another fool in the Balkans - in the footsteps of Rebecca West. Cadogan Guides, Llundain , 2006
- Misha Glenny: The fall of Yugoslavia: The Third Balkan War, ISBN 0-14-026101-X