Rebecca West

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rebecca West
Rebecca West.jpg
Ganwyd 21 Rhagfyr 1892 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Mawrth 1983 Edit this on Wikidata (90 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Coleg George Watson Edit this on Wikidata
Galwedigaeth newyddiadurwr, Ysgrifennwr, beirniad llenyddol, awdur ysgrifau, Swffraget Edit this on Wikidata
Partner H. G. Wells Edit this on Wikidata
Plant Anthony West Edit this on Wikidata
Gwobr/au Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Cymrawd Academi Celf a gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata

Ffeminist o Loegr oedd Rebecca West (21 Rhagfyr 1892 - 15 Mawrth 1983) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, beirniad llenyddol, awdur ysgrifau a swffragét. Cyflwynwyd iddi Fedal Benson am ei gwaith.

Ysgrifennai mewn sawl genre gan gynnwys adolygu llyfrau i'r The Times, y New York Herald Tribune, y Sunday Telegraph, a'r The New Republic. Roedd hefyd yn ohebydd i The Bookman. Mae ei phrif weithiau'n cynnwys: Black Lamb and Grey Falcon (1941), ar hanes a diwylliant Iwgoslafia; A Train of Powder (1955), disgrifiad ganddi o Achosion Llys Nuremberg, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn The New Yorker; The Meaning of Treason, a newidiwyd i The New Meaning of Treason, sef astudiaeth o achos llys y ffasgydd Seisnig William Joyce ac eraill; The Return of the Soldier, nofel fodern am y Rhyfel Byd Cyntaf; a'r "Aubrey trilogy" o'r nofelau hunangofiannol The Fountain Overflows, This Real Night, a Cousin Rosamund.

Disgrifiwyd hi yn 1947 yn Time yn "yn bendant, dyma awdur benywaidd gorau'r byd".[1][2]. Defnyddiai'r ffugenw "Rebecca West" o enw arwres y nofel Rosmersholm gan Henrik Ibsen.

Fe'i ganed yn Llundain ar 21 Rhagfyr 1892 a bu farw yn Llundain ac fe'i claddwyd ym Mynwent Brookwood. Roedd Anthony West yn blentyn iddi. [3][4][5]

Y dyddiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Cicily Isabel Fairfield yn 1892 yn Llundain, y DU, a chafodd ei magu mewn cartref a oedd yn fwrlwm o thrafodaeth ysgogus deallusol, dadlau gwleidyddol, cwmni bywiog, llyfrau a cherddoriaeth.[6][7]

Roedd ei mam, Isabella, yn Albanes ac yn bianydd medrus ond ni ddilynodd yrfa gerddorol ar ôl ei phriodas â Charles Fairfield, cyn-filwr Eingl-Wyddelig a oedd wedi bod yn stretcher-bearer yng ngwarchae Richmond yn Rhyfel Cartref UDA. Dychwelyd i'r DU a dod yn newyddiadurwr llwydiannus, ond aeth i drafferthion ariannol. Gadawodd ei deulu pan oedd Cicily yn wyth mlwydd oed. Ni ail-ymunodd â nhw erioed, a bu farw'n dlawd ac ar ei ben ei hun mewn tŷ preswyl yn Lerpwl yn 1906, pan oedd Cicily yn 14 oed.[8][9]

Symudodd gweddill y teulu i Gaeredin, yr Alban, addysgwyd Cicily yng Ngholeg Merched George Watson. Bu'n rhaid iddi adael yr ysgol yn 1907 o ganlyniad i'r diciâu (tuberculosis). Dewisodd beidio â dychwelyd ar ôl gwella o'r salwch, gan ddisgrifio ysgol Watson yn ddiweddarach fel “carchar”.[10]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Hyfforddodd fel actores yn Llundain, lle cymerodd yr enw "Rebecca West". Gyda'i chwaer Lettie, cymerodd ran yn ymgyrch menywod dros etholfraint, hy yr hawl i ferched gael pleidleisio, yn enwedig mewn protestiadau stryd. Yn y cyfamser, gweithiai fel gohebydd i'r cylchgrawn wythnosol, ffeministaidd, Freewoman and the Clarion, a oedd yn llais i'r achos ffeministaidd yn Llundain.


Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Academi Celf a Gwyddoniaeth America am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. The London Gazette, 3 Mehefin 1949, Supplement: 38628, t. 2804.
  2. The London Gazette, 30 Rhagfyr 1958, Supplement: 41589, t. 10.
  3. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, GND 11880684X, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 14 Awst 2015Wikidata Q36578
  4. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  5. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  6. Encyclopedia Brittanica, 17 Rhagfyr 2018
  7. Glendinning 1987, t. 9
  8. Chambers, Whittaker (8 December 1947). "Circles of Perdition: The Meaning of Treason". Time. http://content.time.com/time/subscriber/article/0,33009,934181,00.html. Adalwyd 26 Mawrth 2017.
  9. Glendinning 1987, tt. 21–22
  10. Gordon N. Ray, H.G. Wells & Rebecca West (New Haven: Yale University Press, 1974), tt. 1–32.