Isabella Rossellini
Isabella Rossellini | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 18 Mehefin 1952 ![]() Rhufain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | model, cyfarwyddwr ffilm, hunangofiannydd, actor ffilm, actor teledu ![]() |
Tad | Roberto Rossellini ![]() |
Mam | Ingrid Bergman ![]() |
Priod | Martin Scorsese ![]() |
Partner | David Lynch, Gary Oldman, Daniel Toscan du Plantier ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Rachel Carson, Saturn Award for Best Supporting Actress ![]() |
Actores a model o'r Eidal yw Isabella Rossellini (ganwyd 18 Mehefin 1952) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfarwyddwr ffilm, hunangofiannydd ac awdur.[1][2][3]
Yn ferch i'r actores Swedaidd Ingrid Bergman a chyfarwyddwr ffilm Eidalaidd Roberto Rossellini, mae'n enwog am fod yn un o brif fodelau'r cwmni Lancôme, ac am ei rolau mewn ffilmiau fel Blue Velvet (1986) a Death Becomes Her (1992). Derbyniodd Rossellini enwebiad Gwobr Golden Globe am ei pherfformiad yn Crime of the Century (1996).
Fe'i ganed yn Rhufain a mynychodd Goleg Finch, Efrog Newydd. Priododd Martin Scorsese. [4][5][6][7]
Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae ganddi dri brawd a chwaer gan ei mam: ei chwaer efaill brawdol Isotta Rossellini, sy'n athro-prifysgol mewn llenyddiaeth Eidalaidd; brawd, Robertino Ingmar Rossellini; a hanner chwaer, Pia Lindström, a arferai weithio ar y teledu ac sydd o briodas gyntaf ei mam â Petter Lindström. Mae ganddi bedwar o frodyr a chwiorydd eraill o ddwy briodas arall ei thad: Romano (a fu farw yn naw oed), Renzo, Gil, a Raffaella.[8]
Magwyd Rossellini yn Rhufain, yn ogystal ag yn Santa Marinella a Paris. Derbyniodd lawdriniaeth, sy'n dal i'w gweld ar ei bach tra'n dal yn yr ysgol gynradd.
Yn 19 oed, aeth i Ddinas Efrog Newydd, lle mynychodd Goleg Finch, gan weithio fel cyfieithydd a gohebydd teledu i'r cwmni RAI.[9] Ymddangosodd hefyd yn ysbeidiol ar L'altra Domenica (Sul Arall), sioe deledu yn cynnwys Roberto Benigni. Fodd bynnag, ni phenderfynodd aros yn llawn amser yn Efrog Newydd nes iddi briodi â Martin Scorsese (1979–1982), y cyfarfu â ef i'w gyfweld ar gyfer RAI.[10]
Mae ganddi ferch, Elettra Rossellini Wiedemann (ganwyd 1983) a mab mabwysiedig, Roberto Rossellini (ganwyd 1993).
Modelu[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 28 oed, dechreuodd ei gyrfa fodelu, pan dynnwyd llun ohoni gan Bruce Weber ar gyfer Vogue Prydain a gan Bill King ar gyfer Vogue UDA. Gweithiodd gyda llawer o ffotograffwyr enwog eraill, gan gynnwys Richard Avedon, Steven Meisel, Helmut Newton, Peter Lindbergh, Norman Parkinson, Eve Arnold, Francesco Scavullo, Annie Leibovitz, Denis Piel, a Robert Mapplethorpe. Mae ei llun wedi ymddangos ar gylchgronau fel Marie Claire, Harper's Bazaar, Vanity Fair, ac ELLE. Ym Mawrth 1988, cynhaliwyd arddangosfa o ffotograffau ohoni, o'r enw Portrait of a Woman, yn y Musee d'Art Moderne ym Mharis.
Arweiniodd gyrfa fodelu Rossellini hi i fyd colur, pan ddaeth yn llefarydd ar gyfer brand colur Ffrainc Lancôme ym 1982, gan ddisodli Nancy Dutiel yn yr Unol Daleithiau a Carol Alt yn Ewrop.
Actio[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwnaeth Rossellini ei ffilm gyntaf gydag ymddangosiad byr fel lleian gyferbyn â'i mam yn A Matter of Time ym 1976. Ei rôl llawn gyntaf oedd y ffilm Il Prato yn 1979 , ac yna ym 1980 ymddangosodd yn y ffilm Il pap'occhio gyda Martin Scorsese.
Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]
- "Isabella Rossellini: Biography". Iconoclasts. Sundance Channel L.L.C. Archifwyd o'r gwreiddiol (Flash) ar 29 Ionawr 2007. Cyrchwyd 29 Ionawr 2007. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - Rossellini, Isabella (1997). Some of Me. New York: Random House. ISBN 0-679-45252-4.
- Rossellini, Isabella (2002). Looking at Me: On Pictures and Photographers. Munich: Schirmer Art. ISBN 3-8296-0057-7.
- Rossellini, Isabella (2006). In the Name of the Father, the Daughter and the Holy Spirits: Remembering Roberto Rossellini. London: Haus Publishing. ISBN 1-904950-91-4.
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Rachel Carson (2010), Saturn Award for Best Supporting Actress .
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Isabella Rossellini". The New York Times. Cyrchwyd 11 Chwefror 2014.
- ↑ "18 Mehefin Isabella Rossellini at 60 – The 60th birthday of Isabella Rossellini". Magnum Photos. Cyrchwyd 11 Chwefror 2014.
- ↑ "Isabella Rossellini". la Repubblica (yn Italian). Cyrchwyd 11 Chwefror 2014.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13523151r; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13523151r; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 Discogs; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Isabella Rossellini; dynodwr Discogs (artist): 301931.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014
- ↑ MacNab, Geoffrey (6 Medi 2004). "Like Father..." Guardian Unlimited. London: Guardian News and Media Limited. Cyrchwyd 29 Ionawr 2007.
- ↑ Martone, Eric (2016). Italian Americans: The History and Culture of a People (yn Saesneg). ABC-CLIO. t. 291. ISBN 9781610699952. Cyrchwyd 25 Ebrill 2017.
- ↑ Wolf, William (9 Awst 1982). "Heiress to Greatness". New York Magazine. New York Media, LLC. Cyrchwyd 25 Awst 2017.