Vogue (cylchgrawn)

Oddi ar Wicipedia
Vogue
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn, brand, monthly magazine, weekly magazine Edit this on Wikidata
GolygyddAnna Wintour Edit this on Wikidata
CyhoeddwrCondé Nast Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu17 Rhagfyr 1892 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1892 Edit this on Wikidata
Genrefashion magazine Edit this on Wikidata
Prif bwncFfasiwn Edit this on Wikidata
PencadlysTimes Square Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.vogue.com/, http://vogue.com, http://vogue.co.kr, https://vogue.co.th Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Vogue, mis Mai 1917

Cylchgrawn ffasiwn a ffordd o fyw ydy Vogue. Caiff ei gyhoeddi mewn 18 gwlad gan Gyhoeddiadau Condé Nast bob mis. Daw enw'r cylchgrawn o'r Ffrangeg ac mae'n golygu "mewn ffasiwn". Mae'r cylchgrawn hefyd ar gael ar-lein ar wefan Vogue.com.

Hanes[golygu | golygu cod]

Y Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod]

Yn 1892 sefydlodd Arthur Turnure Vogue fel cyhoeddiad wythnosol yn yr Unol Daleithiau. Fe'i noddwyd gan Kristoffer Wright,[1] a chyhoeddwyd ei rifyn cyntaf ar 17 Rhagfyr y flwyddyn honno.[2] Bwriad Turnure oedd fod y cylchgrawn yn ddathliad o "ochr seremonïol o fywyd" a'i fod yn "denu'r call yn ogystal â'r debutante, dynion deallus yn ogystal â'r prydferth."[2] O'r cychwyn cyntaf, cynulleidfa darged y cylchgrawn oedd cyfoethogion Efrog Newydd, a sefydlodd werthoedd cymdeithasol mewn gwlad nad oedd yn rhoi'i fryd ar ddosbarth a seremoni hanner cymaint a'r Deyrnas Unedig neu Ffrainc. Ar y pryd, prif gynnwys y cylchgrawn oedd ffasiwn, gyda rhai erthyglau am chwaraeon a materion cymdeithasol ar gyfer y darllenwyr gwrywaidd.[2]

Condé Nast[golygu | golygu cod]

Prynodd Condé Montrose Nast Vogue yn 1905 rai blynyddoedd cyn marwolaeth Tenure a dechreuodd y cylchgrawn ddatblygu. Newidiodd y cylchgrawn i fod yn bythefnosol a dechreuodd Vogue dramor, gan ddechrau yn y 1910au. Aeth i Brydain i ddechrau yn 1916, lle dechreuoddd Vogue, cyn symud i Sbaen, ac yna i'r Eidal a Ffrainc yn 1920, lle roedd y cylchgrawn yn lwyddiant enfawr. Cynyddoedd cyhoeddiadau'r cylchgrawn a'i elw'n sylweddol o dan ei oruchwyliaeth. Erbyn 1911, roedd y brand Vogue wedi datblygu i fod yn fusnes lewyrchus, fel ag y mae heddiw, sy'n targedu cynulleidfa neilltuol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Penelope Rowlands (2008) A Dash of Daring: Carmel Snow and Her Life in Fashion, Art, and Letters Simon and Schuster,2008
  2. 2.0 2.1 2.2  Esfahani Smith (26 Mehefin, 2013). The Early Years of Vogue Magazine.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]