Ibn Khaldun

Oddi ar Wicipedia
Ibn Khaldun
Ganwyd27 Mai 1332 Edit this on Wikidata
Tiwnis Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mawrth 1406 Edit this on Wikidata
Cairo Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ez-Zitouna Edit this on Wikidata
Galwedigaethanthropolegydd, hanesydd, barnwr, hunangofiannydd, cymdeithasegydd, economegydd, athronydd, gwleidydd, ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
Swyddbarnwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBook of Lessons Edit this on Wikidata
Cerflun o Ibn Khaldun yn Nhiwnis.

Hanesydd ac athronydd oedd Ibn Khaldun, enw llawn Arabeg: أبو زيد عبد الرحمن بن محمد بن خلدون, Abū Zayd ‘Abdu r-Rahman bin Muhammad bin Khaldūn Al-Hadrami (27 Mai 1332 - 19 Mawrth 1406)..

Ganed ef yn Nhiwnis, yn yr hyn sy’n awr yn Nhiwnisia, i deulu oedd yn deillio o Al-Ándalus, y rhan o Sbaen oedd dan reolaeth dilynwyr Islam. Bu raid i’r teulu adael Seville pan gipiwyd y ddinas gan y Cristnogion yn 1248. Wedi i’w uchelgais gwleidyddol fethu, ac iddo gael ei garcharu am gyfnod, symudodd i Cairo yn, 1388, lle bu’n dysgu mewn nifer o brifysgolion, yn cynnwys prifysgol enwog Al-Azhar.

Gweithredodd fel llysgennad nifer o weithiau, gan fynd i weld Timur pan oedd yn gwarchae ar ddinas Damascus yn 1401. Ei lyfr mwyaf adnabyddus yw Kitābu l-ʕibār wa Diwānu l-Mubtada' wa l-Ħabar fī Ayyāmu l-ʕarab wa l-Ājam wa l-Barbar wa man ʕĀsarahum min ĐawIu s-Sultānu l-Akbār (“Llyfr y dystiolaeth wedi ei gofnodi o’r dechreuad o’r digwyddiadau yn nyddiau yr Arabiaid, y Persiaid a’r Berberiaid a’u cyd-oeswyr pwerus”).