Neidio i'r cynnwys

Hugh Owen (cynllwynwr Catholig)

Oddi ar Wicipedia
Hugh Owen
Plas Du: cartref Huw Owen
Ganwyd1538 Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mai 1618 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
PerthnasauJohn Owen Edit this on Wikidata

Cynllwynwr Catholig yn erbyn llywodraeth Brotestannaidd Elisabeth I, brenhines Lloegr, ac yna Iago VI/ I oedd Hugh Owen (1538 - 30 Mai 1618).[1]

Roedd yn fab i Owen ap Gruffudd a'i wraig Margaret, Plas Du, Llanarmon, Sir Gaernarfon. Addysgwyd ef yn Lincoln's Inn, Llundain a bu yng ngwasanaeth Henry Fitzalan, 12fed iarll Arundel. Roedd gyda Fitzalan a Humphrey Llwyd yn Augsburg yn 1566.

Treuliodd tua 40 mlynedd yn yr Iseldiroedd, oedd yr adeg honno dan lywodraeth Sbaen, yn derbyn pensiwn gan frenin Sbaen. Bu ganddo ran mewn nifer o gynllwynion yn erbyn llywodraeth Elizabeth, ac wedi i Iago I ddod yn frenin Lloegr, bu ganddo ran yng Nghynllwyn y Powdwr Gwn.

Bu'n rhan mewn cynllwyn i ladd Mari I, brenhines yr Alban yn 1571, a bu'n rhaid iddo ffoi i Sbaen ac yna Brwsel.

Cynllwyn y Powdwr Gwn

[golygu | golygu cod]

Ar y cyfandir, cyflwynodd Guy Fawkes i'r syniad o ffrwydro Senedd Lloegr yn yr hyn yr ydym yn ei adnabod heddiw fel Cynllwyn y Powdwr Gwn; aeth Hugh Owen ati hefyd i gyflwyno Fawkes i Thomas Wintour. Roedd Wintour wedi cyfarfod criw arall o gynllwynwyr, bum gwaith yn Llundain, roedd Fawkes a Wintour yn ymfflamychol iawn ac yn Ebrill 1604 dychwelodd y ddau i Loegr.[2] Fis wedyn, gwyddus i Fawkes deithio at Hugh Owen yn unswydd i ddweud wrtho beth oedd y cynllwyn diweddaraf.[3]

Heb Huw Owen o Gaernarfon, byddai Guy Fawkes yn neb.
Dr Elin Jones (Prifysgol Bangor)[4]

Ef hefyd a ddaeth ag arweinydd y cynllwyn, Robert Catesby, i gysylltiad a Guy Fawkes. Mae hyn yn gwneud y cynllwyn, felly, yn rhannol yn gynllwyn Cymreig! Sylwer y methwyd pob ymgais i'w ladd am 13 blynedd.

Ceisiodd llywodraeth Lloegr i gael gafael arno sawl tro, ond heb lwyddiant. Cyhoeddodd James VI a I, brenin yr Alban a Lloegr broclomasiwn ar 8 Tachwedd 1605 daflen argraffedig, nawr yn y Llyfrgell Brydeinig – marc silff 21.h.2.(48). Mae'r 'Proclomasiwn' yn nodi:

Danfonwyd arbenigwyr cudd-wybodaeth ac ysbiwyr i'n tiroedd ac yn eu plith HUGH OWEN, Cymro sydd weithiau'n preswylio ym Mrwsel, un sy'n derbyn cyflog gan Frenin Sbaen...
Mynnwn fod pob barnwr, Maer, Sheriff, Cwnstabl ac eraill i chwilio gyda chrib mân a dal HUGH OWEN a'i ddwyn atom i'r Cyfrin Gyngor. Dyma eich gwarant i fynd ati i wneud hyn. 
Arwyddwyd ym Mhalas Westminster ar yr 8fed dydd o Dachwedd, yn nhrydedd flwyddyn o'm teyrnasiad. 
Hir Oes i'r Brenin
Gwobr: MIL O BUNNAU mewn aur.[5]

Personol

[golygu | golygu cod]

Yn 1610 ymddeolodd i'r Coleg Seisnig yn Rhufain, a bu farw'n dawel yno yn 1618. Roedd John Owen, yr epigramydd, yn nai iddo.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Honourable Society of Cymmrodorion (London, England) (2008). The Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (yn Saesneg). The Society. t. 37.
  2. Fraser, Antonia (2005) [1996], The Gunpowder Plot, Phoenix, ISBN 0-7538-1401-3
  3. Bengsten, Fiona (2005), Sir William Waad, Lieutenant of the Tower, and the Gunpowder Plot (illustrated ed.), Trafford Publishing, ISBN 1-4120-5541-5
  4. Cyfweliad Radio ar Good Morning Wales rhwng y cyflwynydd Oliver Hides a'r Dr Elin Jones (Prifysgol Bangor)
  5. Cyfieithwyd o'r Saesneg gwreiddiol:
    “Whereas divers secret intelligencers and spies have been sent into our realms … especially one HUGH OWEN, a Welshman, sometime dwelling at Brussels, a pensioner of the King of Spain … We do hereby straightly charge and command all Justices, Mayors, Sheriffs, Constables and others … to make diligent search and apprehend the said HUGH OWEN … and him so apprehended to bring before us or our Privy Council. And for your so doing this shall be your warrant. Given at our Palace of Westminster the 8th day of November, in the third year of our reign.
    God Save the King
    Reward: ONE THOUSAND POUNDS in gold.”