John Owen (The British Martial)

Oddi ar Wicipedia
John Owen
Ganwyd1564 Edit this on Wikidata
Plas Du Edit this on Wikidata
Bu farw1622 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
PerthnasauHugh Owen Edit this on Wikidata

Epigramydd o Gymro (1564?-1628?), yn enedigol o Lanarmon, Sir Gaernarfon oedd John Owen, a adnabyddid fel "The British Martial".[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Plas Du, Llanarmon (tua 1885)

Ganwyd John Owen ym Mhlas-du, Llanarmon, yn drydydd fab i Thomas Owen, ysgwier y plas. Roedd yn nai i'r cynllwynwr Catholig Hugh Owen. Cafodd ei addysg yn Ysgol Caer-wynt. Yn 1584 cafodd ei wneud yn gymrawd am oes yn y Coleg Newydd, Rhydychen. Enillodd radd fel Baglor Cyfraith Sifil yn 1590 a'r flwyddyn ar ôl hynny gadawodd Rydychen i gymryd swydd fel ysgolfeistr yn Nhre-lech, Sir Fynwy. Oddi yno aeth yn ei flaen i fod yn brifathro yn Ysgol Rad Warwick yn 1594 neu 1595.[2]

Yn Warwick gwnaeth enw iddo'i hun fel meistr ar yr iaith Ladin a'r clasuron a dechreuodd gyhoeddi epigramau Lladin dan yr enwau Audoenus ac Ovenus. Roedd ei lyfrau'n boblogaidd iawn am gyfnod ac enillodd iddo'i hun y llysenw "The British Martial" (sylwer bod British yn gyfeiriad at y ffaith ei fod yn Gymro yn hytrach na Phrydeiniwr). Cofier fod Lladin yn iaith ysgolheictod o hyd ac felly roedd cynulleidfa John Owen yn ehangach o lawer nac y buasai heddiw.[2]

Ond er gwaethaf ei lwyddiant llenyddol roedd yn byw bywyd digon tlawd a dibynnai ar gymorth perthnasau i glymu dau linyn ynghyd. Trodd pethau'n waeth pan gyhoeddodd gyfres o epigramau yn ymosod ar Eglwys Rufain. Collodd nifer o'i noddwyr a chafodd ei waith ei roi ar yr Index Expurgatorius (llyfrau a waharddwyd gan y Chwilys) gan y chwilyswyr yn Rhufain. Bu farw yn 1628, yn ôl pob tebyg.[2]

Dylanwad[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd sawl argraffiad o'i waith o 1606 ymlaen. Cyfieithwyd detholiadau o'i waith i'r Saesneg ac i'r Sbaeneg, yr Almaeneg a'r Ffrangeg yn ystod yr 17g. Ond ni chafwyd argraffiad Cymraeg o'i waith hyd y dwthwn hwn.[1]

Roedd y llenor adnabyddus Victor Hugo yn edmygu gwaith John Owen; cyhoeddoedd aralleiriad o un o'i gerddi yn 1820.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986).
  2. 2.0 2.1 2.2 Robert Williams, Eminent Welshmen (Llanymddyfri, 1852).