Cynllwyn y Powdwr Gwn
| Enghraifft o: | conspiracy, ymgais i lofruddio |
|---|---|
| Dyddiad | 5 Tachwedd 1605 (yn y Calendr Iwliaidd) |
| Lleoliad | Holbeche House |
![]() | |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03fyn |
| Thesawrws y BNCF | 23260 |
| Quora | Gunpowder-plot |

Cynllwyn y Powdwr Gwn (Saesneg: Gunpowder Plot) yw'r enw a roddir ar gynllwyn gan grŵp o Gatholigion Rhufeinig, Seisnig yn 1605. Eu bwriad oedd chwythu i fyny Senedd Lloegr a lladd y brenin Iago I o Loegr, a thrwy hynny ddinistrio'r llywodraeth Brotestannaidd trwy ladd y pendefigion Protestannaidd.
Roedd y Catholigion wedi dioddef cryn erlid o dan Elisabeth I, brenhines Lloegr. Roeddynt wedi gobeithio y byddai eu sefyllfa'n gwella wedi i Iago ddod i'r orsedd, ond er ei fod wedi lled-addo hynny cyn dod i'r orsedd, ni newidiodd bolisi Elisabeth. O ganlyniad, dechreuodd Robert Catesby a nifer o Gatholigion ieuanc eraill gynllwynio yn erbyn y brenin a'r llywodraeth. Cyflwynwyd Guto Ffowc, oedd yn filwr profiadol, i Catesby gan y Cymro Hugh Owen.
Gosodwyd nifer o farilau o bowdwr gwn mewn seler dan y Senedd, gyda'r bwriad o'u ffrwydro pan oedd y brenin yno. Fodd bynnag, cafwyd hyd i'r powdwr ar 5 Tachwedd 1605, a chymerwyd y cynllwynwyr i'r ddalfa. Dienyddiwyd nifer ohonynt dri mis yn ddiweddarach.
