Homs
Gwedd
| Math | dinas fawr, tell, populated place in Syria |
|---|---|
| Poblogaeth | 775,404 |
| Sefydlwyd |
|
| Cylchfa amser | UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Kayseri, Yazd, Belo Horizonte, Aksaray |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Syria, Homs Subdistrict |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 48,000,000 m² |
| Uwch y môr | 511 metr |
| Cyfesurynnau | 34.73°N 36.72°E |
![]() | |
Dinas yng nghanolbarth Syria yn agos i'r ffin â Libanus yw Homs (neu Hims). Saif ar lan Afon Orontes rhwng y brifddinas Damascus i'r de a dinas Aleppo i'r gogledd. Y ddinas agosaf iddi yw Hama. Mae'n ddinas hynafol gyda nifer o adeiladau hanesyddol ynddi. Mae Homs yn ganolfan fasnach a diwydiant pwysig yn economi'r wlad.
Hanes
[golygu | golygu cod]Emesa oedd enw'r ddinas yn y cyfnod Clasurol. Emesa oedd dinas enedigol y nofelydd Groeg Heliodorus (fl. 3g), awdur yr Aethiopica. Brodores o Emesa oedd gwraig yr ymerodr Rhufeinig Septimius Severus. Ganwyd yr ymerodr Rhufeinig Heliogabalus yn Emesa tua 204; bu'n ymerodr Rhufain o 218 hyd ei farwolaeth yn 222.
Cododd y Croesgadwyr gastell strategol anferth Krak des Chevaliers ar fryn ar gyrion y ddinas.
