Aleppo

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aleppo
Halepvikicizer.JPG
Math Dinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth 1,800,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 5 millennium CC Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+2, EET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Lyon, Gaziantep, Brest Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Northwestern Syria Edit this on Wikidata
Sir Mount Simeon District Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Syria Syria
Arwynebedd 190 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 379 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 36.2°N 37.15°E Edit this on Wikidata
Golygfa ar Aleppo
Caer Aleppo

Dinas hynafol yng ngogledd Syria yw Aleppo (Arabeg حلب ['ħalab]; Ffrangeg, Alep; hefyd Halep neu Haleb). Mae'n brifddinas talaith Aleppo sy'n ymestyn o gwmpas y ddinas am dros 16,000 km² gyda phoblogaeth o 4,393,000. Gall Aleppo hawlio fod yn un o'r dinasoedd hynaf yn y byd, gyda thystiolaeth fod pobl yn byw yno ers tua 11,000 CC. Roedd yn cael ei hadnabod yn yr Henfyd fel Khalpe, Khalibon, Beroea (Veroea) (i'r Groegiaid), a Halep (i'r Tyrciaid); Alep yw'r enw Ffrangeg. Gorwedd ar safle strategol ar groesffordd bwysig lle cwrdd hen lwybrau masnach rhwng India a'r Lefant, hanner ffordd rhwng Môr y Canoldir i'r gorllewin ac Afon Ewffrates i'r dwyrain; rhedai llwybr arall i Asia Leiaf i'r gogledd a Damascus i'r de. Rhed afon Quweiq (قويق) trwy'r ddinas.

Tyfodd y ddinas hynafol ar y bryniau isel o gwmpas y bryn dominyddol lle codwyd Caer Aleppo yn ddiweddarach. Yn yr Oesoedd Canol, roedd y gaer anferth honno yn ganolfan bwysig i'r Mwslimiaid yn ystod y Croesgadau ac fe'i defnyddiwyd gan Saladin ac eraill fel canolfan. Lleihaodd pwysigrwydd Aleppo fel canolfan fasnachol gyda datblygu llwybr arforol Penrhyn Gobaith Da ac agor Camlas Suez yn ddiweddarach, a effeithiodd ar y fasnach â'r Dwyrain, ac erbyn heddiw mae'n ganolfan allforio cynnyrch amaethyddol yr ardal amgylchynnol; gwenith, cotwm, cnau pistachios, ffrwyth olewydd, a defaid.

Ystyrir hen bazaar Aleppo yn un o ryfeddodau'r Dwyrain Canol, gyda rhwydwaith dan do o filltiroedd o strydoedd culion a souks o bob math. Mae Caer Aleppo yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO. Mae'r ddinas yn enwog yn y byd Arabaidd am ei byrth niferus hefyd ac fel canolfan ddiwylliannol unigryw.

Pyrth Aleppo[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Bab al-Hadid (Y Porth Haearn)
  • Bab al-Maqam (Porth y Gysegrfan)
  • Bab Antakeya (Porth Antioch)
  • Bab al-Nasr (Porth y Fuddugoliaeth)
  • Bab al-Faraj (Porth y Rhyddhad)
  • Bab Qinnasrin (Porth Qinnasrin)
  • Bab al-Jnean (Porth y Gerddi)
  • Bab al-Ahmar (Y Porth Coch)
Flag of Syria.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Syria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato