Afon Orontes
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Twrci, Syria, Libanus |
| Cyfesurynnau | 36.0453°N 35.9636°E |
| Aber | Y Môr Canoldir |
| Llednentydd | Afon Afrin |
| Dalgylch | 23,000 cilometr sgwâr |
| Hyd | 571 cilometr |
| Arllwysiad | 30 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
![]() | |
Afon fawr yn y Lefant yw Afon Orontes.
Cyfyd yr afon ym mhen dwyreiniol Dyffryn Beka'a yng ngogledd-ddwyrain Libanus. Am y rhan fwyaf o'i chwrs 370 km (230 milltir) rhed Afon Orontes drwy wastadeddau canolbarth a gogledd-orllewin Syria ar gwrs gogleddol cyn troi'n sydyn i'r de-orllewin i redeg i'r Môr Canoldir yn Antakya, Twrci (Antioch-ar-Orontes y Beibl).
Ar ei thaith trwy Syria mae'r afon yn llifo trwy neu heibio dinasoedd Homs, Hama (lle ceir olwynion anferth o gyfnod y Rhufeiniaid yn troi ei dŵr) a Jisr.
Er nad yw'n afon fawr mewn cymhariaeth ag afonydd mawr rhannau eraill o Asia neu Ewrop, mae'r Orontes yn holl-bwysig i economi Syria am ei bod yn gyflenwad dŵr dibyniadwy ar gyfer amaethyddiaeth rhan helaeth o ganolbarth y wlad a hefyd i ddinasoedd cyfagos.
