Hanes Grenada

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Darganfuwyd Grenada gan Christopher Columbus ym 1498, a alwodd yr ynys yn Concepción. Ymsefydlodd y Ffrancod yno yng nghanol yr 17g ond cafodd ei hildio i Brydain yn sgil Cytundeb Paris ym 1763, ei hailgipio gan Ffrainc ym 1779 a'i hildio unwaith eto i Brydain ym 1783. Crewyd Trefedigaeth y Goron ym 1877 ac enillodd Grenada ei hannibyniaeth ar Brydain ym 1974.

Bu ansefydlogrwydd gwleidyddol a milwrol yng Ngrenada ym 1983 a chafodd y Prif Weinidog Marcsaidd Maurice Bishop ei ladd. Goresgynwyd yr ynys gan yr Unol Daleithiau a'r OECS i geisio sefydlogi'r sefyllfa.

Flag of Grenada.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Grenada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
WikiHistory.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.