Gilbert Hunter Doble

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gilbert Hunter Doble
Ganwyd 26 Tachwedd 1880 Edit this on Wikidata
Penzance Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Ebrill 1945 Edit this on Wikidata (64 oed)
Alma mater Coleg Exeter Edit this on Wikidata
Gwaith Hanesydd, offeiriad eglwysig Edit this on Wikidata
Eglwys Wendron, lle bu Doble yn ficer.

Clerigwr Anglicanaidd o Gernyw oedd Gilbert Hunter Doble (26 Tachwedd 188015 Ebrill 1945). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei waith ysgolheigaidd ar saint Cernyw, Cymru a Llydaw.

Ganed ef yn Penzance, Cernyw, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Exeter, Rhydychen, a Choleg Diwinyddol Ely. Ordeiniwyd ef yn 1907. Bu'n gurad cynorthwyol mewn nifer o leoedd yng Nghernyw a Lloegr, yn gurad Redruth ac yna yn ficer Wendron yng Nghernyw. Yn 1935, gwnaed ef yn Ganon er anrhydedd yn Eglwys Gadeiriol Truro.

Ysgrifennodd lawer ar seintiau Cernyw, Cymru a LLydaw, gan ganolbwyntio ar ddadansoddi'r bucheddau o'r Canol Oesoedd. Cyhoeddoedd astudiaethau ar lawer o saint, ar wahan yn y lle cyntaf. Ail-gyhoeddwyd ei waith ar nifer o saint Cymreig, Dyfrig, Illtud, Paulinus Aurelianus, Teilo ac Oudoceus, yn gyfrol wedi ei golygu gan D. Simon Evans dan y teitl Lives of the Welsh Saints (1971).

Anhawsterau[golygu | golygu cod y dudalen]

Anhawster sy'n codi wrth defnyddio gwaith Noble oedd ei fethiant i credu fod menywod yn medru arwain cymynedau neu teithio yn rheolaidd. Credodd fod y mynaich a ysgrifennodd amdanynt wedi gwneud gangymeriad. Ceisiodd cywiro neu cysoni trwy troi ambell santes yn ddyn ac uno seintiau oedd yn gweithio yn agos at eu gilydd. E. e. Awgrymodd dod dau sant a elwid Non, un yn fenyw a esgorodd ar Ddewi a'r llall yn dyn oedd wedi teithio a sefydlu cymunedau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]