Daniel Simon Evans
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o D. Simon Evans)
| Daniel Simon Evans | |
|---|---|
| Ganwyd | 29 Mai 1921 Llanfynydd |
| Bu farw | 4 Mawrth 1998 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | ysgolhaig |
Ysgolhaig o Gymru oedd Daniel Simon Evans (1921 -1998), yn ysgrifennu fel D. Simon Evans. Mae D. Ellis Evans yn frawd iddo. Fe'i ganed yn Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin.
Arbenigodd mewn gramadeg Cymraeg Canol a thestunau rhyddiaith Cymraeg Canol. Bu'n ddalithydd ym Mhrifysgol Lerpwl yna'n Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Llanbedr Pont Steffan o 1974 hyd ei ymddeoliad.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- (gol.), Buched Dewi (Gwasg Prifysgol Cymru, 1959. Golygiad o destun Buchedd Dewi.
- Stori Dewi Sant (Llyfrau'r Dryw, 1959)
- Gramadeg Cymraeg Canol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960). Ymhelaethiad: A Grammar of Middle Welsh (Gwasg Prifysgol Cymru, 1964).
- (gol.), Historia Gruffudd vab Kenan (Gwasg Prifysgol Cymru, 1977). Golygiad o Hanes Gruffudd ap Cynan
- Llafar a llyfr yn yr hen gyfnod: darlith goffa G.J. Williams (Gwasg Prifysgol Cymru 1982)
- Medieval religious literature (Gwasg Prifysgol Cymru ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru, 1986)
- A mediaeval prince of Wales: the life of Gruffudd ap Cynan (Llanerch, 1990)
- O fanc y Spite : atgofion am Gapel y Methodistiaid yn Llanfynydd, a'r fro (Mellen, 1997)