D. Ellis Evans
Gwedd
| D. Ellis Evans | |
|---|---|
| Ganwyd | 23 Medi 1930 Sir Gaerfyrddin |
| Bu farw | 26 Medi 2013 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | Celtegwr, academydd |
| Swydd | Athro mewn Celteg yng Ngholeg yr Iesu |
| Cyflogwr | |
| Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig |
Ysgolhaig o Gymru oedd David Ellis Evans (23 Medi 1930 – 26 Medi 2013),[1] yn ysgrifennu fel D. Ellis Evans. Roedd D. Simon Evans yn frawd iddo.
Fe'i ganed yn Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin. Astudiodd yn Ysgol Ramadeg Llandeilo, Prifysgol Cymru, Abertawe, a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Bu'n ddalithydd ac yn ddiweddarach yn Athro ym Mhrifysgol Abertawe o 1957 hyd 1978, cyn dychwelyd i Goleg yr Iesu fel Athro Celteg. Ymddeolodd yn 1996.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Gaulish Personal Names, a study of some Continental Celtic formations (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967)
Cyhoeddodd nifer o erthyglau a chyfraniadau i gyfrolau safonol, yn cynnwys:
- Gorchest y Celtiaid yn yr hen fyd: darlith agoriadol Athro'r Gymraeg a draddodwyd yn y coleg ar Fawrth 4, 1975 (Prifysgol Abertawe, 1975)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Stephens, Meic (3 Tachwedd 2013). Obituary: Professor D Ellis Evans. The Independent. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2013.