Georgia (talaith UDA)
Arwyddair | Wisdom, Justice, Moderation |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
Enwyd ar ôl | Siôr II, brenin Prydain Fawr |
Prifddinas | Atlanta |
Poblogaeth | 10,711,908 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Georgia on My Mind |
Pennaeth llywodraeth | Brian Kemp |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, America/Efrog Newydd |
Gefeilldref/i | Kagoshima |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA, South Atlantic states |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 153,909 km² |
Uwch y môr | 180 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | De Carolina, Gogledd Carolina, Tennessee, Alabama, Florida |
Cyfesurynnau | 33°N 83.5°W |
US-GA | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Georgia |
Corff deddfwriaethol | Georgia General Assembly |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Georgia |
Pennaeth y Llywodraeth | Brian Kemp |
Mae Georgia yn dalaith ar arfordir de-ddwyreiniol yr Unol Daleithiau, sy'n ymrannu'n ddau ranbarth naturiol; Mynyddoedd Appalachia yn y gogledd a gwastadedd arfordirol yn y de. Cafodd ei sefydlu yn 1732 a'i henwi ar ôl y brenin Siôr II o Brydain Fawr, yr hynaf o'r 13 talaith gwreiddiol. Cefnogodd y De yn Rhyfel Cartref America a dioddefodd ddifrod sylweddol mewn canlyniad i ymgyrchoedd y Cadfridog Sherman yn 1864. Atlanta yw'r brifddinas.
Sefydlwyd Georgia yn wreiddiol i amddiffyn De Carolina a thaleithiau eraill rhag ymosodiadau gan y Sbaenwyr yn Florida. Llywodraethwyd y dalaith gan ymddiriodolwyr yn Llundain am ei 20 mlynedd gyntaf.
Erbyn canol 19g, roedd gan Georgia mwy o ystadau tobaco neu gotwm nac unrhyw dalaith arall efo defnydd eang o gaethwasanaeth.
Doedd gan ferched ddim hawl i bleidleisio yn Georgia tan 1922.
Ffurfiwyd Cynhadledd Arweinyddiaeth Cristion y De gan Martin Luther King ym 1957 yn Atlanta.
Mae’r dalaith yn nodweddiadol am gynhyrchu eirin gwlanol, cnau daear a cnau pecan. Dyfeiswyd Coca-Cola yn Atlanta ym 1886.[1]
Dinasoedd Georgia
[golygu | golygu cod]1 | Atlanta | 540,922 |
2 | Augusta | 250,000 |
3 | Columbus | 190,414 |
4 | Savannah | 134,669 |
5 | Athens | 114,983 |
6 | Macon | 92,582 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) georgia.gov
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Cors Okefenokee