Erwin Schrödinger
| Erwin Schrödinger | |
|---|---|
| Ganwyd | Erwin Rudolf Josef Alexander Schrödinger 12 Awst 1887 Fienna |
| Bu farw | 4 Ionawr 1961 Fienna |
| Man preswyl | Dulyn, Dulyn, Fienna |
| Dinasyddiaeth | Cisleithania, Yr Almaen, yr Almaen Natsïaidd |
| Alma mater |
|
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | ffisegydd, ffisegydd damcaniaethol, awdur ffeithiol, mathemategydd, academydd |
| Cyflogwr |
|
| Adnabyddus am | Schrödinger equation, Schrödinger's cat |
| Tad | Rudolf Schrödinger |
| Priod | Annemarie Schrödinger |
| Plant | Ruth Braunizer |
| Gwobr/au | Medal Matteucci, Medal Max Planck, Gwobr Ffiseg Nobel, Gwobr Erwin Schrödinger, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Gwobr Haitinger, Gwobr Paul Doistau-Émile Blutet am Wybodaeth Wyddonol, Cymrawd Cymdeithas Ffiseg America, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth, Gwobr Gwyddoniaeth Dinas Fienna, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol, Pour le Mérite |
| llofnod | |
Ffisegydd o Awstria, a ddaeth yn ddiweddarach yn ddinesydd o Iwerddon, oedd Erwin Rudolf Josef Alexander Schrödinger (12 Awst 1887 – 4 Ionawr 1961)[1]. Daeth yn enwog oherwydd ei gyfraniadau i fecaneg cwantwm, yn enwedig Hafaliad Schrödinger. Dyfarwnwyd Gwobr Ffiseg Nobel iddo yn 1933.[2]
Ganed Schrödinger yn Fienna, ac addysgwyd ef yno dan Franz S. Exner a Friedrich Hasenöhrl. Daeth yn gynorthwydd i Exner yn 1911. Yn 1920, priododd Annemarie Bertel a daeth yn gynorthwydd i Max Wien ym Mhrifysgol Jena, cyn dod yn Athro ychwanegol (Ausserordentlicher Professor) yn Stuttgart. Yn 1921, daeth yn Athro llawn yn Breslau (Wrocław, Gwlad Pwyl, yn awr). Yn 1922 aeth i Brifysgol Zürich.
Yn Ionawr 1926, cyhoeddodd ei bapur Quantisierung als Eigenwertproblem, a ystyrir yn un o gyfraniadau pwysicaf yr 20g i'r pwnc. Yn 1927, olynodd Max Planck ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm, Berlin, ond yn 1933 gadawodd yr Almaen i osgoi'r Natsïaid. Yn 1936 cafodd swydd ym Mhrifysgol Graz yn Awstria.
Wedi i'r Almaen feddiannu Awstria yn 1938, collodd ei swydd, a bu'n gweithio mewn nifer o wledydd cyn cael swydd yn Nulyn, lle bu am 17 mlynedd a dod yn ddinesydd Gwyddelig. Dychwelodd i Fienna yn 1956, gan gael cadair bersonol ym Mhrifysgol Fienna.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Heitler, W. (1961). "Erwin Schrodinger. 1887–1961". Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society 7: 221–226. doi:10.1098/rsbm.1961.0017. JSTOR 769408.
- ↑ Gribbin, John (2013). Erwin Schrodinger and the Quantum Revolution (yn Saesneg). Trade Paper Press. t. 259. ISBN 978-1118299265.
