Emlyn Williams (undebwr llafur)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Emlyn Williams
Emlyn williams.jpg
Ganwyd1921 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
Bu farw1995 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethundebwr llafur Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler Emlyn Williams.

Roedd Emlyn Williams (20 Chwefror 192114 Gorffennaf 1995) yn undebwr llafur Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn enedigol o Aberdâr, yn fab i William Charles Williams, glowr, a Sarah (née Enoch) ei wraig.[2] Mynychodd Williams Ysgol y Parc hyd ei fod yn bedair ar ddeg oed, pan aeth i weithio yn Lofa Nantmelyn gyda'i dad. Ym 1951 Priododd Elsie May David, bu iddynt un fab ac un ferch.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymunodd â'r Fyddin Brydeinig ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd a gwasanaethodd yng nghatrawd y Magnelau Ceffylau Brenhinol ac yna'r Corfflu Arfog Brenhinol. Arhosodd gyda'r fyddin hyd 1947, pan arweiniodd gwladoli'r diwydiant cloddio glo at obeithio am amodau gwell yn y pyllau glo.[1]

Ar ôl dychwelyd i Gymru, bu Williams yn gweithio eto yn Nantmelyn a daeth yn weithgar yn Ardal De Cymru o Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM). Etholwyd ef yn gadeirydd cyfrinfa'r Bwllfa; yn ddiweddarach symudodd i Lofa Maerdy gan wasanaethu fel cadeirydd y gyfrinfa leol. O 1957, bu’n gweithio llawn amser i Undeb y Glowyr fel asiant ar gyfer ardal Rhondda, Cynon a Merthyr Tudful,[3] ac erbyn iddo ymddeol, ef oedd y gweithiwr a wasanaethodd hiraf yr NUM.

Etholwyd Williams i bwyllgor gwaith ardal De Cymru ym 1955, yna fel is-lywydd ym 1966, a llywydd ym 1973 - yr ymgeisydd cyntaf i lywydd gael ei ethol yn ddiwrthwynebiad ers Mabon ym 1898. Cafodd ei amser fel llywydd ei nodi gan gyfres o streiciau: streic genedlaethol 1974, yna streic yn Ne Cymru yn erbyn cau pyllau ym 1981. Llwyddodd streic 1981 i atal cau ar unwaith, ond caeodd chwech o'r saith pwll o fewn tair blynedd, beth bynnag. Arweiniodd ei lowyr ar streic undydd ym 1982 i gefnogi gweithredu gan weithwyr y GIG, Williams oedd un o brif areithwyr mewn rali yng Nghaerdydd lle mynegodd undod y glowyr â'r gweithwyr iechyd.[4]

Pan gyhoeddwyd streic genedlaethol ym 1984, pleidleisiodd mwyafrif aelodau'r Undeb ym Mes Glo'r De yn erbyn streicio. Derbyniodd Williams y canlyniad hwn, ond serch hynny, gafaelodd y streic yn gyflym, ac ymhen wythnos, roedd bron pob golwr yn y rhanbarth ar streic; Arhosodd 94% ohonynt ar streic hyd ei ddiwedd, ym mis Mawrth 1985.

Ymddeolodd Williams ym 1986 i'w gartref yng Nghwmbach,[3] a bu farw o niwmoconiosis ym 1995.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "Williams, Emlyn (1921–1995), trade unionist | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-57941. Cyrchwyd 2019-10-18.
  2. Yr Archif Genedlaethol; Kew, Llundain, Lloegr; Cofrestr 1939; Cyfeirnod: RG 101 / 7309F
  3. 3.0 3.1 Tony Heath, "Obituary: Emlyn Williams", The Independent, 19 July 1995
  4. "1982: Welsh miners back health workers". BBC. 1982-06-16. Cyrchwyd 2019-10-18.