Neidio i'r cynnwys

Clefydau galwedigaethol yr ysgyfaint

Oddi ar Wicipedia
Clefydau galwedigaethol yr ysgyfaint
Enghraifft o:dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathoccupational disease, clefyd interstitaidd yr ysgyfaint, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Clefydau galwedigaethol yr ysgyfaint (niwmoconiosis) yn derm am grŵp o glefydau’r ysgyfaint sy’n cael eu hachosi drwy anadlu llwch penodol yn eich gweithle. Maent yn mynd yn sownd yn eich ysgyfaint ac yn achosi creithio. Y math mwyaf cyffredin yw niwmoconiosis y glöwr, a achosir drwy anadlu llwch glo. Math arall yw silicosis, a achosir drwy anadlu llwch silica ac asbestosis, a achosir drwy anadlu asbestos. Yn aml, bydd cyfnod hir (ugain mlynedd neu fwy) rhwng anadlu’r llwch a dangos symptomau, felly mae achosion newydd yn aml yn arwydd o amodau gweithio yn y gorffennol.

Symptomau

[golygu | golygu cod]
  • Diffyg anadl
  • Peswch di-baid
  • Blinder
  • Trafferth anadlu
  • Poen yn y frest
  • Pesychu fflem du (niwmoconiosis y glöwr yn unig)


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation.

Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!