Asbestos

Oddi ar Wicipedia
Asbestos
Mathsilicad, carsinogen yn y gwaith, carsinogen Edit this on Wikidata
Yn cynnwysocsigen, silicon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Asbestos Glas (Cricodolit)

Grŵp o chwech o fwynau naturiol yw asbestos. Mae'r chwech mwyn wedi eu gwneud o elfennau gwahanol ac yn amrywio'n sylweddol yn gemegol; fodd bynnag yr hyn sy'n eu cysylltu yw'r ffaith eu bod wedi'u ffurfio o grisialau ffibrog mân iawn. Adnabyddir y mathau mwy cyffredin gwahanol o asbestos gan eu lliwiau:

  • Crysotil - Asbestos gwyn
  • Amosit - Asbestos brown
  • Cricodolit - Asbestos glas

Defnydd a Hanes[golygu | golygu cod]

Mae mathau gwahanol o asbestos, yn enwedig asbestos gwyn, brown a glas, wedi cael eu defnyddio fel deunyddiau adeiladu ac fel ynysydd am filoedd o flynyddoedd, ond dechreuwyd eu defnyddio ar raddfa ddiwylliannol yn ystod y 19g. Roedd asbestos yn ddeniadol fel deunydd am nifer o resymau: mae'n gryf, yn gymharol rhad, yn anfflamadwy, yn wrth-ddŵr ac yn ynysu gwres a trydan. Roedd asbestos yn hyblyg hefyd: roedd modd cymysgu asbestos gyda deunyddiau eraill megis plaster neu sement, neu ei blethu i greu matiau. Oherwydd y nodweddion hyn defnyddiwd asbestos mewn ystod eang iawn o gynhyrchion gan gynnwys panelau adeiladu neu doeau; plaster addurniadol (er enghraifft Artex); i ynysu adeiladau a phibellau dŵr; mewn cynhyrchion megis blancedi, matiau, neu fenig ac mewn brêcs ceir ymysg eraill. Asbestos gwyn a ddefnyddiwyd gan amlaf.[1][2]

Peryglon Iechyd[golygu | golygu cod]

Mae crisialau bychain asbestos yn ffurfio llwch pan gaiff deunyddiau sy'n cynnwys asbestos eu symud neu eu torri. Pan gaiff y llwch hwn ei fewnanadlu, mae'r crisialau yn gallu ymsefydlu yn yr ysgyfaint, sy'n gallu arwain at ystod o broblemau iechyd gan gynnwys asbestosis, mesothelioma (cancr yn leinin yr organau mewnol) a chancr yr ysgyfaint. Mae'r perygl yn cynyddu pan fo rhagor o asbestos yn yr awyr, neu pan fo unigolion yn agored iddo am gyfnodau hir.[3] Yn gyffredinol, mae asbestos brown a glas yn fwy peryglus nag asebstos gwyn.

Oherwydd y peryglon hyn, mae defnyddio asbestos yn y D.U. wedi'i wahardd yn gyfan gwbl ers 1999 (gwaharddwyd asbestos brown a glas yn gynharach). Fodd bynnag gan y bu i'r deunydd gael ei ddefnyddio cymaint yn y gorffennol mae'n parhau'n hynod gyffredin mewn adeiladau a adeiladwyd cyn 1999. Fel arfer bydd nifer o flynyddoedd neu hyd yn oed ddegawdau yn mynd heibio ar ôl bod yn agored i'r asbestos cyn i gancr ddatblygu,[3] oherywdd hyn er gwaethaf y gwaharddiad mae'r defnydd helaeth o asbestos yn y gorffennol yn parhau i achosi problemau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Occupational Safety and Health Administration, U.S. Department of Labor (2007). 29 C.F.R. 1910.1001.
  2. Institut national de recherche sur la sécurité (1997). "Amiante Archifwyd 2008-06-25 yn y Peiriant Wayback.." Fiches toxicologiques. n° 167. (yn y Ffrangeg)
  3. 3.0 3.1 Robinson, BM (Tachwedd 2012). "Malignant pleural mesothelioma: an epidemiological perspective.". Annals of cardiothoracic surgery 1 (4): 491–6. doi:10.3978/j.issn.2225-319X.2012.11.04. PMC 3741803. PMID 23977542. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3741803.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]