Asbestos a'r ysgyfaint

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Asbestos a’ch ysgyfaint)
Asbestos a'r ysgyfaint
Mathmeddwdod Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae anadlu ffibrau asbestos yn gallu difrodi eich ysgyfaint. Mae pedwar prif glefyd yn gysylltiedig ag anadlu ffibrau asbestos, sef mesothelioma – math o ganser sy’n effeithio ar leinin yr ysgyfaint rhan fwyaf, canser yr ysgyfaint sy’n gysylltiedig ag asbestos, asbestosis – creithio ar feinwe’r ysgyfaint, sy’n anfalaen a chlefyd plewrol anfalaen.

Gall symptomau clefydau sy’n gysylltiedig ag asbestos gymryd amser hir i ddatblygu, efallai degawdau, o’r adeg y daethpwyd i gysylltiad ag asbestos am y tro cyntaf. Felly, efallai bod pobl sy’n cael symptomau rŵan wedi dod i gysylltiad ag asbestos flynyddoedd maith yn ôl.

Pobl sydd wedi dod i gysylltiad drwy eu gwaith sydd fwyaf mewn perygl o gael difrod i’w hysgyfaint. Mae hyn yn cynnwys seiri, plymwyr, trydanwyr, lapwyr, peintwyr ac adeiladwyr. Mae pobl sydd wedi bod yn gweithio yn y byd adeiladu llongau, peirianneg rheilffordd a ffatrïoedd oedd yn gwneud cynnyrch asbestos hefyd mewn mwy o berygl. Efallai eich bod chi hefyd mewn perygl os ydych chi wedi byw efo rhywun a ddaeth i gysylltiad ag asbestos.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffibrau Asbestos
Prif: asbestos

Mae asbestos yn derm am grŵp o fwynau sydd wedi’u gwneud o ffibrau microsgopig. Cyn i bawb ddod i wybod am ei beryglon, roedd yn arfer cael ei ddefnyddio tipyn mewn adeiladau i inswleiddio, mewn lloriau a thai ac yn cael ei chwistrellu ar nenfydau a waliau. Mae bellach wedi’i wahardd ym Mhrydain. Efallai bod asbestos yn dal mewn adeiladau a adeiladwyd cyn 2000.

Asbestosis[golygu | golygu cod]

Mae asbestosis yn gyflwr tymor hir ar yr ysgyfaint. Fel arfer, mae’n datblygu ryw 20 i 30 mlynedd ar ôl i rywun anadlu dipyn go lew o lwch asbestos yn ystod eu gwaith.

Symptomau[golygu | golygu cod]

Mae’r ffibrau asbestos rydych chi wedi’u hanadlu yn aros yn eich ysgyfaint ac yn achosi creithio. Mae’r creithio hwn yn gwneud i’ch ysgyfaint grebachu a chaledu, sy’n gwneud i chi fod yn fyr eich gwynt. Ar y dechrau, efallai bydd hyn ond yn digwydd ar ôl i chi fod yn gorfforol actif ond, yn y pendraw, gall fod yn broblem mwy cyson. Dyma rai symptomau eraill:

  • Peswch drwy’r adeg
  • Gwichian
  • Blinder neu flinder ofnadwy
  • Poen yn eich brest neu’ch ysgwydd
  • Mewn achosion sydd wedi datblygu mwy, blaenau’r bysedd wedi chwyddo

Diagnosis[golygu | golygu cod]

Nifer o achosion o gansyr yr ysgyfaint mewn merched yn 2006, yn ôl gwlad.

Os yw’n debygol bod gennych chi asbestosis, bydd eich meddyg yn eich anfon at arbenigwr yn yr ysbyty am ragor o brofion ar yr ysgyfaint a sgan CT o’ch brest. Peiriant pelydr-X arbennig yw hwn sy’n tynnu llun o drawstoriad o’ch corff.

Does dim gwella o asbestosis unwaith iddo ddatblygu gan nad yw’n bosib dadwneud y difrod i’ch ysgyfaint. Ond, gallwch chi geisio leihau eich symptomau a gwella ansawdd eich bywyd.

Placiau plewrol[golygu | golygu cod]

Mae’r pliwra yn bilen ddwy haen o gwmpas eich ysgyfaint sy’n leinio tu mewn i gawell yr ysgyfaint. Mae’n gyffredin iawn i rannau o’r bilen dewhau a hel sylwedd sialc os ydych chi wedi dod i gysylltiad ag asbestos. Mae’r rhain yn cael eu galw’n blaciau plewrol.

Os oes gennych chi blaciau plewrol, nid yw’n golygu bod gennych chi glefyd mwy difrifol ar hyn o bryd neu eich bod chi’n debygol o gael clefyd difrifol yn y dyfodol. Mae dod i gysylltiad ag asbestos yn cynyddu’r risg o ddatblygu cyflwr difrifol ar yr ysgyfaint fel asbestosis, mesothelioma neu canser yr ysgyfaint, ond nid oes tystiolaeth wyddonol bod placiau plewrol yn cynyddu’r risg wedyn. Felly, os ydych chi wedi dod i gysylltiad ag asbestos, peidiwch â phoeni os gewch chi wybod bod gennych chi blaciau plewrol. Nid yw placiau plewrol yr un fath ag asbestosis (darllenwch y rhan ar asbestosis). Ar ben hynny, nid yw placiau yn fath cyn-falaen (pre-malignant) o ganser.

Symptomau[golygu | golygu cod]

Ym mron pob achos o blaciau plewrol, ni fydd unrhyw symptomau a gallwch fyw heb unrhyw broblemau iechyd tymor hir. Gall pobl byw gyda nhw am flynyddoedd heb wybod eu bod nhw yno. Os gewch chi symptomau yn eich brest, fel diffyg anadl, peswch neu boen, peidiwch â chymryd mai placiau sy’n eu hachosi, ac anwybyddu’r symptomau. Mae’n fwy tebygol bod y symptomau yn cael eu hachosi gan gyflwr arall allai fod angen sylw.

Diagnosis[golygu | golygu cod]

Os ydych chi wedi dod i gysylltiad ag asbestos a ddim yn cael problemau efo’ch brest, ‘does dim angen i chi gael pelydr-X na sgan CT. Mae’r risg o ddod i gysylltiad â phelydrau-X neu sgan-CT lawer mwy na’r budd o wybod am blaciau plewrol.

Tewhau plewrol ymledol[golygu | golygu cod]

Tewhau plewrol ymledol yw pan fydd creithio mawr yn tewhau’r bilen blewrol sy’n leinio eich ysgyfaint a wal eich brest.

Symptomau[golygu | golygu cod]

Pan fydd eich pliwra yn tewhau ac yn caledu dros ran fawr, nid yw eich ysgyfaint yn gallu ehangu mor bell ac felly efallai fyddwch chi’n teimlo allan o wynt.

Diagnosis[golygu | golygu cod]

Bydd eich meddyg yn eich anfon at arbenigwr am brofion ar yr ysgyfaint a sgan CT. Peiriant pelydr-X arbennig yw hwn sy’n tynnu llun o drawstoriad o’ch corff. Weithiau, bydd angen cymryd sampl, neu fiopsi, o’r bilen blewrol sydd wedi tewhau er mwyn diys tyru diagnosis o mesothelioma. Yn y rhan fwyaf o achosion, ‘does dim angen unrhyw driniaeth arbennig gan nad yw’r tewhau plewrol fel arfer yn achosi symptomau difrifol iawn.

Canser yr ysgyfaint[golygu | golygu cod]

Canser yr ysgyfaint yw pan fydd celloedd canser yn tyfu yn eich ysgyfaint, gan ddechrau fel arfer yn nhiwbiau’r llwybr anadlu o’r enw bronci. Mae celloedd canser yn tyfu i ffurfio lwmp o’r enw tiwmor. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn deall bod ysmygu sigarennau yn cynyddu’r risg o ddatblygu canser yr ysgyfaint, ond mae dod i gysylltiad ag asbestos hefyd yn cynyddu’r risg. Mae’r risgiau hyn, gyda’i gilydd, yn golygu ei bod hi’n bwysicach fyth nad ydych chi’n ysmygu os ydych chi wedi dod i gysylltiad ag asbestos.

Symptomau[golygu | golygu cod]

  • Peswch sy’n para mwy na thair wythnos
  • Teimlo allan o wynt
  • Gwichian ar un ochr o’ch brest – gallai hyn wneud hi’n anodd i chi gysgu ar un ochr
  • Gwaed yn eich mwcws neu fflem
  • Poen yn eich brest neu’ch ysgwydd
  • Colli pwysau

Diagnosis[golygu | golygu cod]

  • Sgan CT – peiriant pelydr-X arbennig sy’n tynnu llun o drawstoriad o’ch corff
  • Biopsi – pan fydd sampl o feinwe yn cael ei gymryd o’r tiwmor
  • Broncosgopi – caiff telesgop bach, hyblyg ei basio i mewn i’ch ysgyfaint drwy eich trwyn a’ch pibell wynt fel bod y meddyg yn gallu edrych yn agosach ar y tiwmor.
  • Sgan PET – proses ddi-boen ble gewch chi chwistrelliad o sylwedd sydd ychydig yn ymbelydrol, y mae’r sganiwr yn gallu dod o hyd iddo a dangos a ydi’r canser wedi lledaenu i rannau eraill o’ch corff neu beidio.

Mesothelioma[golygu | golygu cod]

Mae Mesothelioma yn fath o ganser sy’n tyfu yn eich pilen blewrol o gwmpas eich ysgyfaint. Mae mesothelioma yn gallu effeithio ar leinin tebyg o gwmpas eich abdomen neu’ch calon, er bod hyn yn llai cyffredin.

Symptomau[golygu | golygu cod]

Gall symptomau mesothelioma ddod i’r amlwg lawer o flynyddoedd, fel arfer amryw o ddegawdau, ar ôl dod i gysylltiad ag asbestos. Mae’r cyflwr yn hir yn ymddangos ond yna’n datblygu’n sydyn. Dyma rai o’r prif symptomau:

  • Teimlo allan o wynt
  • Tagu
  • Poen yn eich brest neu’ch ysgwydd

Wrth i mesothelioma ddatblygu, mae’n aml yn achosi i hylif hel yn eich gofod plewrol. Yr enw ar hyn yw tywalltiad plewrol. Mae’n cymryd rhywfaint o le yn eich brest ac yn gwasgu’r ysgyfaint fel nad oes modd iddo ehangu wrth i chi anadlu, sy’n achosi i chi deimlo allan o wynt.

Diagnosis[golygu | golygu cod]

  • Sgan CT– peiriant pelydr-X arbennig sy’n cymryd llun o drawstoriad o’ch corff.
  • Allsugno plewrol – pan gaiff sampl o’r hylif yn eich gofod plewrol ei gymryd.
  • Biopsi drwy’r croen – caiff nodwedd denau ei rhoi yn leinin eich ysgyfaint i

gymryd sampl o feinwe.

  • Thoracosgopi – defnyddir teclyn o’r enw thoracosgop i edrych i mewn i’r gofod plewrol er mwyn gallu cymryd sampl o hylif neu feinwe. Efallai bydd talc sterilaidd yn cael ei chwythu i mewn i’r frest i geisio atal hylif rhag hel eto. Dyma’r prawf y mae’n well gan feddygon ei ddefnyddio i gael y canlyniadau gorau os oes gennych dywalltiad plewrol.[1]

Erthyglau meddygol clefyd Asbestos[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Cyhoeddiad
1898 Annual Report of the Chief Inspector of Factories and Workshops, Part II. H.M. Stationery Office. 1898. pp. 171–172. https://archive.org/details/factoriesandwor00deptgoog.
1912 "Effect of Asbestos Dust on Workers Health in Asbestos Mines and Factories". The Labour Gazette: 761–762. 1912.
1918 Hoffman, F.L. (1918). Mortality from Respiratory Diseases in Dusty Trades (Inorganic Dusts). U.S. Dept. of Labor, Bureau of Labor Statistics. tt. 35–47, 163–181.
1924 Cooke, W.E. (July 26, 1924). "Fibrosis of the Lungs due to the Inhalation of Asbestos Dust". British Medical Journal 2: 147. doi:10.1136/bmj.2.3317.147. PMC 2304688. PMID 20771679. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2304688.
1928 Editorial (1928). "Pulmonary Asbestosis". JAMA 90 (2): 119–120. doi:10.1001/jama.1928.02690290049014.
1928 Simpson, F.W. (1929). "Pulmonary Asbestosis in South Africa". British Medical Journal 1: 885–887. doi:10.1136/bmj.1.3516.885.
1929 Haddow, A.C. (August 3, 1929). "Asbestosis". The Lancet 214: 231. doi:10.1016/s0140-6736(01)04102-2.
1929 Wood, W.B. (May 10, 1929). Tubercle: 353–363.
1930 Correspondence, Foreign Letters (June 28, 1930). "Compensation Act to be Extended to Asbestosis". JAMA 94 (26): 2078. doi:10.1001/jama.1930.02710520044016. https://archive.org/details/sim_jama_1930-06-28_94_26/page/2078.
1930 Mills, R.G. (June 28, 1930). "Report of a Case". Minnesota Medicine: 495–499.
1930 Editorial (1930). "Current Comment, Pulmonary Asbestosis". JAMA 95 (19): 1431. doi:10.1001/jama.1930.02720190042014.
1930 Merewether, E.R.A. (May 1930). "The Occurrence of Pulmonary Fibrosis and Other Pulmonary Afflictions in Asbestos Workers". J.Indus.Hyg.. 5 12: 198–257.
1930 "Health and Industrial Hygiene - Pulmonary Asbestosis". Monthly Labor Review 31: 74–76. 1930. https://archive.org/details/sim_monthly-labor-review_1930-10_31_4/page/74.
1930 Encyclopedia of Hygiene, Pathology and Social Welfare: Occupation and Health, Vol. I, A-H. Geneva: International Labor Office. 1930. tt. 189–181.
1930 Gardner, L.U. (1931). "Studies on Experimental Pneumonoconiosis: VI. Inhalation of Asbestos Dust, Its Effect Upon Primary Tuberculosis Infection". J.Indus.Hyg.. 2 13: 65–114.
1930 Gordon, B (June 1931). "Pulmonary Asbestosis". Penn.Med.J. 35: 637–639.
1934 Woods, W.B.; Gloyne, S.R. (1934). "PULMONARY ASBESTOSIS". Lancet 2: 1383–1385. doi:10.1016/s0140-6736(00)43332-5.
1938 Dreesen (August 1938). "A Study of Asbestos in the Asbestos Textile Industry". U.S. Treasury Dept., Public Health Bulletin: 1–126.
1941 Dublin (1941). "Occupational Hazards and Diagnostic Signs, Bulletin". U.S. Dept. of Labor, Div. of Labor Standards 41: II, IV, V and 25.
1942 Holleb, H.B. (1942). "Bronchiogenic Carcinoma in Association with Pulmonary Asbestosis". American Journal of Pathology: 123–131.
1944 Wedler, H.W. (1944). "Asbestosis and Pulmonmary Carcinoma". Bulletin of Hygiene 19: 362.
1944 Editorial (November 25, 1944). "Environmental Cancer". JAMA 126 (13): 836. doi:10.1001/jama.1944.02850480036012. https://archive.org/details/sim_jama_1944-11-25_126_13/page/836.
1944 Hutchinson (1944). "Dust as an Industrial Health Hazard". Heating and Ventilating 41 (6): 57–61.
1946 Fleischer, W.F. (1946). "Health Survey of Pipe Covering Operations in Constructing Naval Vessels". Journal of Industrial Hygiene and Toxicology 1: 9–16.
1948 Lynch, K.M. (1948). Asbestosis IV: Analysis of Forty Necropsied Cases, Diseases of the Chest. pp. 79–81.
1949 Merewether (1949). Annual Report of the Chief Inspector of Factories for 1947. London: H.M. Stationary Ofc.. pp. 79–81.
1949 Wyers (1949). Asbestosis. Postgraduate Medical Journal. pp. 631–638.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation.

Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!