Emlyn Williams (undebwr llafur)
Emlyn Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1921 Aberdâr |
Bu farw | 1995 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | undebwr llafur |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler Emlyn Williams.
Roedd Emlyn Williams (20 Chwefror 1921 – 14 Gorffennaf 1995) yn undebwr llafur Cymreig.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Yn enedigol o Aberdâr, yn Gymro Cymraeg, ac yn fab i William Charles Williams, glowr, a Sarah (née Enoch) ei wraig.[2] Mynychodd Williams Ysgol y Parc hyd ei fod yn bedair ar ddeg oed, pan aeth i weithio yn Lofa Nantmelyn gyda'i dad. Ym 1951 Priododd Elsie May David, bu iddynt un fab ac un ferch.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ymunodd â'r Fyddin Brydeinig ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd a gwasanaethodd yng nghatrawd y Magnelau Ceffylau Brenhinol ac yna'r Corfflu Arfog Brenhinol. Arhosodd gyda'r fyddin hyd 1947, pan arweiniodd gwladoli'r diwydiant cloddio glo at obeithio am amodau gwell yn y pyllau glo.[1]
Ar ôl dychwelyd i Gymru, bu Williams yn gweithio eto yn Nantmelyn a daeth yn weithgar yn Ardal De Cymru o Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM). Etholwyd ef yn gadeirydd cyfrinfa'r Bwllfa; yn ddiweddarach symudodd i Lofa Maerdy gan wasanaethu fel cadeirydd y gyfrinfa leol. O 1957, bu’n gweithio llawn amser i Undeb y Glowyr fel asiant ar gyfer ardal Rhondda, Cynon a Merthyr Tudful,[3] ac erbyn iddo ymddeol, ef oedd y gweithiwr a wasanaethodd hiraf yr NUM.
Etholwyd Williams i bwyllgor gwaith ardal De Cymru ym 1955, yna fel is-lywydd ym 1966, a llywydd ym 1973 - yr ymgeisydd cyntaf i lywydd gael ei ethol yn ddiwrthwynebiad ers Mabon ym 1898. Cafodd ei amser fel llywydd ei nodi gan gyfres o streiciau: streic genedlaethol 1974, yna streic yn Ne Cymru yn erbyn cau pyllau ym 1981. Llwyddodd streic 1981 i atal cau ar unwaith, ond caeodd chwech o'r saith pwll o fewn tair blynedd, beth bynnag. Arweiniodd ei lowyr ar streic undydd ym 1982 i gefnogi gweithredu gan weithwyr y GIG, Williams oedd un o brif areithwyr mewn rali yng Nghaerdydd lle mynegodd undod y glowyr â'r gweithwyr iechyd.[4]
Pan gyhoeddwyd streic genedlaethol ym 1984, pleidleisiodd mwyafrif aelodau'r Undeb ym Maes Glo'r De yn erbyn streicio. Derbyniodd Williams y canlyniad hwn, ond serch hynny, gafaelodd y streic yn gyflym, ac ymhen wythnos, roedd bron pob glowr yn y rhanbarth ar streic; Arhosodd 94% ohonynt ar streic hyd ei ddiwedd, ym mis Mawrth 1985.
Ymddeolodd Williams ym 1986 i'w gartref yng Nghwmbach,[3] a bu farw o niwmoconiosis ym 1995.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Williams, Emlyn (1921–1995), trade unionist | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-57941. Cyrchwyd 2019-10-18.
- ↑ Yr Archif Genedlaethol; Kew, Llundain, Lloegr; Cofrestr 1939; Cyfeirnod: RG 101 / 7309F
- ↑ 3.0 3.1 Tony Heath, "Obituary: Emlyn Williams", The Independent, 19 July 1995
- ↑ "1982: Welsh miners back health workers". BBC. 1982-06-16. Cyrchwyd 2019-10-18.