Elin Jones
Elin Jones AS | |
---|---|
Llywydd Senedd Cymru | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 11 Mai 2016 | |
Dirprwy | Ann Jones |
Rhagflaenwyd gan | Rosemary Butler |
Comisiynwr y Senedd | |
Yn ei swydd 9 Mehefin 2007 – 18 Medi 2007 | |
Prif Weinidog | Rhodri Morgan |
Rhagflaenwyd gan | Creuwyd y swydd |
Aelod o Senedd Cymru dros Geredigion | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 1999 | |
Rhagflaenwyd gan | Creuwyd y swydd |
Mwyafrif | 2,408 (8.2%) |
Manylion personol | |
Ganwyd | Llanbedr Pont Steffan | 1 Medi 1966
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Alma mater | Prifysgol Caerdydd Prifysgol Aberystwyth |
Gwleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru yw Elin Jones (ganed 1 Medi 1966). Mae'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Ceredigion ers dyfodiad y Cynulliad yn 1999. Hi yw Llywydd y Senedd ers 11 Mai 2016.
Bywyd cynnar ac addysg
Magwyd Elin Jones ar fferm yn Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan. Mynychodd Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, aeth ymlaen i Brifysgol Cymru, Caerdydd gan raddio gyda BSc mewn Economeg cyn dychwelyd i Geredigion i fynychu Prifysgol Cymru, Aberystwyth a dilyn ôl-radd MSc mewn Economeg Amaethyddol. Roedd Elin yn aelod o'r grwp 'Cwlwm'.[1]
Gyrfa
Cyflogwyd hi am gyfnod fel Swyddog Datblygu Economaidd i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig a chyn-gyfarwyddwr Radio Ceredigion a chwmni cynhyrchu teledu Wes Glei Cyf..[2]
Rhwng 1992 a 1999, roedd yn aelod o Gyngor Tref Aberystwyth, gan ddod yn Maer ieuengaf Aberystwyth yn nhymor 1997–1998.
Y Cynulliad/Senedd
Etholwyd Elin yn Aelod Cynulliad Ceredigion yn etholiadau cyntaf y Cynulliad yn 1999, a bu'n Weinidog yr Wrthblaid dros Ddatblygu Economaidd yn ystod y tymor cyntaf. Aeth ymlaen i fod yn Gadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru rhwng 2000 a 2002. Deliodd yr un swyddi hyd 2006 pan benodwyd hi'n Weinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn gwlad. Apwyntiwyd Elin yn Weinidog dros Cefn gwlad ar 9 Gorffennaf 2007, pan ffurfiwyd Llywodraeth Cymru'n un.[2]
Yng nghyfarfod cyntaf y Pumed Cynulliad ar 11 Mai 2016 fe'i enwebwyd am swydd Llywydd y Cynulliad ynghyd â Dafydd Elis-Thomas. Yn dilyn pleidlais gudd, fe'i etholwyd yn Llywydd gyda 35 pleidlais i 25.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t. 79
- ↑ 2.0 2.1 Ychydig mwy am Elin. elinjones.com.
- ↑ Penodi Elin Jones yn Llywydd newydd y Cynulliad , BBC Cymru Fyw, 11 Mai 2016.
Dolenni allanol
- Gwefan swyddogol Archifwyd 2010-10-02 yn y Peiriant Wayback
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod o'r Senedd dros Geredigion 1999 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Seddi'r cynulliad | ||
Rhagflaenydd: Rosemary Butler |
Llywydd Senedd Cymru 2016 – presennol |
Olynydd: deiliad |
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999–2003
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2003–2007
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007–2011
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011–2016
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016–2021
- Aelodau Senedd Cymru 2021-2026
- Genedigaethau 1966
- Gwleidyddion Cymreig yr 20fed ganrif
- Gwleidyddion Cymreig yr 21ain ganrif
- Gwleidyddion Plaid Cymru
- Meiri lleoedd yng Nghymru
- Pobl o Geredigion
- Merched yr 20fed ganrif
- Merched yr 21ain ganrif
- Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan