Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan
Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan | |
---|---|
Ysgol Llambed | |
![]() | |
Arwyddair | A Fo Ben Bid Bont |
Sefydlwyd | 1946 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Dwyieithog naturiol, Cymraeg a Saesneg |
Pennaeth | Mr Dylan Wyn |
Lleoliad | Heol Peterwell, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7BX |
AALl | Cyngor Sir Ceredigion |
Disgyblion | 700[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Gwyrdd |
Gwefan | http://www.ysgol-llambed.org.uk |
Ysgol uwchradd yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion yw Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, neu Ysgol Llambed fel ei adnabyddir ar lafar. Newidiwyd enw'r ysgol, sydd bellach yn ysgol 3-16 oed, yn Ysgol Bro Pedr. Daw traean y disgyblion o Sir Gaerfyrddin oherwydd lleoliad yr ysgol yn agos i’r ffin rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.[1]
Mr Dylan Wyn yw prifathro presennol yr ysgol. Roedd 700 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006, yn ogystal â thua 120 yn y chweched ddosbarth.[1]
Mae'n ysgol gymunedol ddwyieithog naturiol, gan fod llai na hanner y disgyblion yn dod o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith, a siaradai tua hanner y disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf. Mae dau ddosbarth ym mhob grŵp oedran yn derbyn 60% o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae un dosbarth yn derbyn 40% o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd dau ddosbarth o ddysgwyr Cymraeg, sydd yn astudio’r Gymraeg ac addysg gorfforol trwy gyfrwng y Gymraeg (felly yn derbyn tua 20% o'u haddysg yn Gymraeg).[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Arolygiad: 2 Mai 2006. ESTYN (30 Mehefin 2006).
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwefan yr ysgol Archifwyd 2009-04-20 yn y Peiriant Wayback.