Eliezer Ben-Yehuda
Eliezer Ben-Yehuda | |
---|---|
Ganwyd | אליעזר יצחק פרלמן 7 Ionawr 1858 Lužki |
Bu farw | 16 Rhagfyr 1922 Jeriwsalem |
Man preswyl | Ymerodraeth Rwsia, Palesteina dan Fandad, Palesteina Otomanaidd |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, yr Ymerodraeth Otomanaidd, Palesteina dan Fandad |
Alma mater | |
Galwedigaeth | geiriadurwr, ieithydd, newyddiadurwr, gramadegydd, golygydd papur newydd |
Priod | Devora Ben-Yehuda, Hemda Ben-Yehuda |
Plant | Itamar Ben-Avi, Dola Ben-Yehuda Wittmann |
Perthnasau | Solomon Naphtali Hertz Jonas, Gil Hovav |
Roedd Eiezer Ben-Yehuda (Hebraeg: אליעזר בן-יהודה; ganed yn Eliezer Yitzhak Perlman, 7 Ionawr 1858 - 16 Rhagfyr 1922) yn eiriadurwr, ieithydd ac ymgyrchydd iaith a golygydd papur newydd Hebraeg. Er nad ef oedd yr unig ymgyrchydd dros adferiad yr iaith Hebraeg, Ben-Yehuda oedd y prif nerth a symbol o adfywiad yr iaith Hebraeg yn y cyfnod modern.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Blynyddoedd Cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Eliezer Yitzhak Perlman (Eliezer Ben-Yehuda yn ddiweddarach) yn Luzhki (Belarwseg: Lukki), Sir Vilna yn Ymerodraeth Rwsia (bellach, Oblast (sir) Vitebsk, Belarws). Iddeweg oedd ei iaith gyntaf.[1] Mynychodd cheder (ysgol elfennol, grefyddol Iddewig) lle bu'n astudio Hebraeg a'r Beibl o dair oed, fel yr oedd yn arferol ymhlith Iddewon Dwyrain Ewrop. Erbyn deuddeg oed, roedd wedi darllen darnau helaeth o'r Torah, Mishna a'r Talmud. Roedd ei fam a'i ewythr yn gobeithio y byddai'n dod yn rabbi, a danfonwyd ef at yeshiva (ysgol grefyddol Iddewig i fechgyn wedi iddynt dderbyn eu bar mitzva). Yno, daeth i gyswllt gydag ysgrifau o'r oleuedigaeth Hebraeg a rhai ysgrifau seciwlar, yr Haskalah.[2] Yn ddiweddarach, dysgodd Ffrangeg, Almaeneg a Rwsieg, ac fe'i hanfonwyd i Dünaburg (Daugavpils yn Latfia bellach) ar gyfer addysg bellach. Darllenodd y papur newydd Hebraeg HaShahar, daeth yn gyfarwydd â'r symudiad cynnar Seionaidd a daeth i'r casgliad y gallai adfywiad yr iaith Hebraeg yng Ngwlad Israel uno pob Iddew ledled y byd.
Ffrainc
[golygu | golygu cod]Ar ôl graddio, aeth i Baris i astudio ym Mhrifysgol Sorbonne. Ymhlith y pynciau a astudiodd oedd hanes a gwleidyddiaeth y Dwyrain Canol. Tra oedd ef ym Mharis, cyfarfu ag Iddew o Jerwsalem, a siaradodd Hebraeg gydag ef. Y defnydd hwn o Hebraeg ar ffurf lafar a argyhoeddodd ef fod adfywiad yr Hebraeg fel iaith genedlaethol, gyfoes yn ymarferol. Treuliodd Ben-Yehuda bedair blynedd ym Mharis.
Palesteina
[golygu | golygu cod]Ym 1881 ymfudodd Ben-Yehuda i Balesteina a oedd, ar y pryd, yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid Twrceg, ac ymgartrefodd yn Jerwsalem. Fe ddaeth o hyd i swydd yn dysgu yn ysgol yr Alliance Israelite Universelle.[3] Wedi'i symbylu gan ddelfrydau adnewyddu ysbryd yr Iddewon a gwrthod ffordd o fyw yr Iddew yn y Diaspora, aeth Ben-Yehuda ati i ddatblygu Hebraeg fel iaith newydd a allai ddisodli'r Iddeweg ac ieithoedd eraill y Disapora fel modd o gyfathrebu bob dydd rhwng Iddewon a ymfudodd o wahanol ranbarthau'r byd. Ystyriodd Ben-Yehuda yr Hebraeg a Seioniaeth fel peth symbiotig: "Ni all yr iaith Hebraeg fyw ond os ydym yn adfywio'r genedl a'i dychwelyd i'r wlad," meddai.[3] roedd Iddewon Jewsalem ar y pryd yn siarad amrywiaeth o ieithoedd, Iddeweg ymysg Iddewon Ashkenazi (Ewrop), Ladino (Sbaeneg Iddewig) ac Arabeg gan Iddewon Seffardi. Byddent hefyd yn siarad Ffrangeg.[4] Roeddynt weithiau'n cyfathrebu ymysg ei gilydd mewn Hebraeg syml.
Priododd Ben Yehuda ddwywaith, â dwy chwaer. Bu farw ei wraig gyntaf, Devora (gŵr Jonas) ym 1891 o dwbercwlosis, a'i adael gyda phump o blant bach. Ei dymuniad olaf oedd bod Eliezer yn priodi ei chwaer iau, Paula Beila. Yn fuan ar ôl marwolaeth ei wraig, Devora, bu farw tri o'i blant o ddifftheria o fewn 10 diwrnod. Chwe mis yn ddiweddarach, priododd Paula,[5] a gymerodd yr enw Hebraeg "Hemda."[6] Daeth Hemda Ben-Yehuda yn newyddiadurwraig ac yn awdur nodedig yn ei hawl ei hun, gan sicrhau cwblhau'r geiriadur Hebraeg yn y degawdau ar ôl i Eliezer farw, yn ogystal â hyrwyddo codi arian a chydlynu pwyllgorau ysgolheigion ym Mhalesteina a thramor.
Magodd Ben-Yehuda ei fab, Ben-Zion Ben-Yehuda (yr enw cyntaf yn golygu "mab Seion"), yn gyfan gwbl yn Hebraeg. Ni chaniataodd i'w fab glywed ieithoedd eraill yn ystod ei blentyndod. Cystwyodd ef ei wraig hyd yn ei wraig, hyd yn oed, am ganu hwiangerdd Rwsieg i'w mab.[7] Felly daeth Ben-Zion yn siaradwr Hebraeg brodorol cyntaf mewn dros ddwy fil o flynyddoedd.
Adfywio'r Hebraeg
[golygu | golygu cod]Dylid nodi nad oedd Hebraeg erioed yn hollol farw fel iaith. Roedd iddi statws debyg i Ladin yn Ewrop yr Oesoedd Canol, lle byddai dyn gydag addysg yn gyfarwydd â theithi'r iaith a geirfa syml, os nad yn rhugl, wrth ei siarad. Roedd Ben-Yehuda felly, wrth lanio yn Jaffa yn 1881 yn gallu cyfathrebu mewn Hebraeg syml gyda'r porthor yno. Byddai Iddewon Palesteina hefyd yn defnyddio bratiaith Hebraeg fel rhyw iaith gyswllt ymysg ei gilydd hefyd. Ond iaith mwyafrif trigolion Palesteina ar adeg honno oedd Arabeg,
Er mwyn cyflawni'r dasg o adfywio'r Hebraeg, nad oedd wedi cael ei siarad fel iaith bob-dydd ers dros ddwy fil o flynyddoedd, crëwyd Pwyllgor yr Iaith Hebraeg. Pwrpas y Pwyllgor, gan ddyfynnu cofnodion y Pwyllgor (mewn cyfieithiad) oedd: "Er mwyn gwneud yn iawn am ddiffygion yr iaith Hebraeg, mae'r Pwyllgor yn bathu geiriau yn ôl rheolau gramadeg a chyfatebiaeth ieithyddol gwreiddiau Semitig: Aramaeg ac yn enwedig gwreiddiau Arabeg" (Joshua Blau, tudalen 33). Datblygwyd nifer o eiriau Hebraeg newydd o'r Arabeg, gan gynnwys Sabra sef y gair am fath o gactws ond hefyd, bellach yn llys-enw ar Iddewon cynhenid o Israel, a ddaw o'r Arabeg, sabr.[4]
Roedd Ben-Yehuda yn olygydd ar nifer o bapurau newydd Hebraeg: HaZvi, Hashkafa, a HaOr. Caewyd HaZvi i lawr am flwyddyn yn sgil gwrthwynebiad cymuned uwch-uniongred Jerwsalem, a wrthwynebodd yn frwd y defnydd o'r Hebraeg, eu hiaith sanctaidd, at ddibenion sgyrsiau pob dydd.
Ieithydd
[golygu | golygu cod]Roedd Ben-Yehuda yn ffigwr pwysig yn y gwaith o sefydlu Pwyllgor yr Iaith Hebraeg (Va'ad HaLashon), yn ddiweddarach Academi yr Iaith Hebraeg, sefydliad sy'n dal i fodoli heddiw. Ef oedd awdur y geiriadur Hebraeg modern cyntaf ac fe'i gelwir yn "adfywiad" (המחיה) o'r iaith Hebraeg, er gwaethaf gwrthwynebiad i rai o'r geiriau a gasglwyd ganddo. Mae llawer o'r geiriau hyn wedi dod yn rhan o'r iaith ond mae eraill - rhyw 2,000 o eiriau - erioed wedi plwyfo. Ei air am "tomato," er enghraifft, oedd 'bandura', ond mae siaradwyr Hebraeg heddiw yn defnyddio'r gair 'agvania'.[3]
Roedd yr ieithoedd hynafol a'r Arabeg Safonol modern yn ffynonellau pwysig i Ben-Yehuda a'r Pwyllgor. Yn ôl Joshua Blau, gan ddyfynnu'r meini prawf a fwriadwyd gan Ben-Yehuda: "Er mwyn ategu diffygion yr iaith Hebraeg, mae'r Pwyllgor yn darlunio geiriau yn ôl y rheolau gramadeg ac ar gyfatebiaeth ieithyddol o wreiddiau Semitig: Aramaic, Canaanite, Egyptian [ sic] ac yn enwedig o wreiddiau Arabeg. " O ran Arabeg, fe gynhaliodd Ben-Yehuda, yn anghywir yn ôl Blau a thystiolaeth hanesyddol, fod gwreiddiau Arabeg yn "ein henaid": "roedd gwreiddiau Arabeg unwaith yn rhan o'r iaith Hebraeg ... a gollwyd, ac erbyn hyn rydym wedi eu canfod eto" ! (Blau, tudalen 32).
Marwolaeth a choffa
[golygu | golygu cod]Ym mis Rhagfyr 1922, bu farw Ben Yehuda, 64, o dwbercwlosis, y bu'n dioddef y rhan fwyaf o'i fywyd. Claddwyd ef ar Fynydd yr Olewydd yn Jerwsalem. Mynychodd 30,000 o bobl ei angladd.
Adeiladodd Ben Yehuda dŷ i'w deulu yng nghymdogaeth Talpiot yn Jerwsalem, ond bu farw dri mis cyn ei gwblhau. Roedd ei wraig, Hemda, yn byw yno am oddeutu 30 mlynedd. Ddeng mlynedd ar ôl ei marwolaeth, trosglwyddodd ei mab, Ehud, deitl y tŷ i fwrdeistref Jerwsalem er mwyn creu amgueddfa a chanolfan astudio. Yn y pen draw cafodd ei brydlesu i grŵp eglwysig o'r Almaen a sefydlodd ganolfan yno i wirfoddolwyr ifanc o'r Almaen. Mae'r ganolfan bellach yn ganolfan gynadledda a gwesty sy'n cael ei redeg gan Wasanaeth Gweithredu Cydgysylltu dros Heddwch (ARSP), sy'n trefnu gweithdai, seminarau a rhaglenni wlpan ieithyddol.[8]
Cân i Ben-Yehuda
[golygu | golygu cod]Ceir o leiaf un gân boblogaidd i Elizer Ben-Yehuda a'i ymdrech llwyddiannus i adfer yr iaith Hebraeg.[9]
Llyfrau
[golygu | golygu cod]Yn ei lyfr "Was Hebrew Ever a Dead Language", ceisiodd Cecil Roth gyfraniad Ben-Yehuda i'r iaith Hebraeg: "Cyn Ben-Yehuda, gallai Iddewon siarad Hebraeg; ar ôl iddo, fe wnaethant."
Mae llyfr Norman Berdichevsky, 'Modern Hebrew: The Past and Future of a Revitalized Language' (McFarland, 2014) yn olrhain datblygiad yr iaith a'r ffordd yr ymffurfiodd yn ieithyddol ac yn gymedeithasol. Mae'n ddarlleniad anhepgor i rhywun hoffai ddeall mwy am yr iaith Hebraeg gyfoes.
Ben-Yehuda a'r Gymraeg
[golygu | golygu cod]Bu llwyddiant di-gamsyniol yr Iddewon, a Ben-Yahuda yn brif ffigwr, i adfer yr iaith Hebraeg yn ysbrydoliaeth i garedigion y Gymraeg.[10] Darllenwyd rhaglen ar hanes Ben-Yehuda ac adferiad yr Hebraeg ar S4C. Bu Ben Yehuda yn ddylanwad ar feddylwyr ac arweinwyr Plaid Cymru fel Lewis Valentine a Gwynfor Evans wrth iddynt edrych ar sefyllfa Cymru o'r 1920au ymlaen ac yna, drwy lif hanes, yn sefydlu'r Ulpan Hebraeg a arweiniodd at sefydlu'r Wlpan Gymraeg gyntaf yn 1973.[11]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Archif Eliezer Ben-Yehuda yn y central Zionist Archives yn Jerwsalem. A43 yw rhif cofnodion Ben-Yehuda
- Rhaglen 'The Hope - Eliezer Ben-Yehuda, CBN ar Youtube
- 'Revival of the Hebrew Language' ar Youtube
- Rishon Lezion Museum gan Ami Braun - cyflwyniad ffilmig a thaith o amgueddfa am Eliezer Ben Yehuda yn cynnwys yr ysgol Hebraeg gyntaf
- WLPAN: O Israel i Gymru: Hanes cyrsiau Cymraeg i Oedolion erthygl ddwyieithog ar wefan Parallel.Cymru gan Lynda Pritchard Newcombe
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Coulmas, Florian (2016). "Eliezer Ben-Yehuda". Guardians of Language. Oxford: Oxford University Press. tt. 309–154. ISBN 978-0-19-873652-3. Check
|isbn=
value: invalid character (help). - ↑ https://www.youtube.com/watch?v=xuLqsQy1eZ8
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Balint, Benjamin. "Confessions of a polyglot". Haaretz.
- ↑ 4.0 4.1 https://www.haaretz.com/opinion/.premium-eliezer-ben-yehuda-is-turning-in-his-grave-over-israels-humiliation-of-arabic-1.5472510
- ↑ Naor, Mordechai. "Flesh-and-Blood Prophet". Haaretz. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-02. Cyrchwyd 2008-10-01.
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-22. Cyrchwyd 2007-11-06. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link) - ↑ https://www.youtube.com/watch?v=NQvB-djqMag
- ↑ "Beit Ben Yehuda - International Meeting Center in Jerusalem". beit-ben-yehuda.org.
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=HYGeOEziQtY
- ↑ https://parallel.cymru/hanes-wlpan/
- ↑ Pritchard Newcombe, Lynda (23 Awst 2018). "WLPAN: O Israel i Gymru: Hanes cyrsiau Cymraeg i Oedolion". Gwefan ddwyieithog Parallel Cymru.