Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gaerfyrddin 2023
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
---|---|
Dyddiad | 2023 |
Lleoliad | Llanymddyfri |
Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gaerfyrddin 2023 a gynhaliwyd ger tref Llanymddyfri rhwng 29 Mai - 3 Mehefin 2023.
Yn rhannol yn sgil llwyddiant mynediad am ddim i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych 2022 drwy gynnig mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel. Cafwyd hyn drwy gefnogaeth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru drwy eu Cytundeb Cydweithio.[1] Manteisiodd 9,000 o bobl ar hyn. Bu i lwyddiant yr ŵyl a'r tywydd braf i rai alw'r digwyddiad yn Eisteddfod Llanymlyfli.[2]
'Cwiar NaNog'
[golygu | golygu cod]Am y tro cyntaf, cafwyd ardal benodol ar y Maes i'r gymuned LHDTC+ a alwyd yn Cwiar Na Nog. Roedd yn "le saff" i aelodau o'r gymuned mwyn dathlu a chynnig cyfle i ddysgu mwy am y gymuned cwiar yng Nghymru. Cafwyd cefnogaeth a beirniadaeth o'r ardal.[3]
Carcharorion yn cystadlu yn yr Urdd
[golygu | golygu cod]Bu i ddau garcharor ifanc o Garchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr gipio dwy o wobrau Celf a Chrefft Eisteddfod yr Urdd eleni. Ym mis Chwefror, roedd un o swyddogion y Carchar wedi dod at yr Urdd a gofyn a fyddai’r carcharorion yn cael ymgeisio am gystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg yr Eisteddfod.
Mi gawson nhw, ac mae dau wedi cael llwyddiant yn enw ‘Aelwyd y Parc’.Cyhoeddwyd partneriaeth newydd gyda Charchar y Parc ar ddydd Mercher, Mai 31. Cafodd dau fachgen ifanc rhwng 18 a 25 oed wobrau cyntaf ac ail yn y gystadleuaeth ‘Gwaith 3D Blwyddyn 10 a dan 25 oed Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymedrol (unigol neu grŵp)’.[4]
Enillwyr
[golygu | golygu cod]- Y Goron - Owain Williams o Fetws-yn-Rhos ger Abergele. Roedd Owain, 23, yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel meddyg iau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.[5]
- Y Gadair - Tegwen Bruce-Deans oedd yn wreiddiol o Lewisham yn Llundain, symudodd ei theulu i Landrindod, Maesyfed pan roedd yn ddwy oed. Aeth i Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt - bellach Ysgol Calon Cymru - cyn graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor.[6]
- Y Fedal Ddrama - Elain Roberts, 22 o Bentre'r-bryn ger Ceinewydd yng Ngheredigion oedd ar fin gorffen ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bryste yn astudio Ffrangeg a Gwleidyddiaeth.[7]
- Tlws Cyfansoddwr - Gwydion Rhys, 20 oed o Rachub yn Nyffryn Ogwen oedd yn ei ail flwyddyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain yn astudio Cyfansoddi.[8]
- Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg - Lara Rees o Abertawe oedd yn astudio mathemateg, technoleg cerddoriaeth a chelfyddyd gain yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.[9]
- Y Fedal Lenyddiaeth -
- Medal y Dysgwr - Gwilym Morgan o Gaerdydd a ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn yr ysgol fel rhan o'i Lefel A, neu Safon Uwch, ond mae hefyd wedi ei ysbrydoli gan ei fam a ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2015.[10]
- Medal Bobi Jones - Yvon-Sebastien Landais, o Ddinbych y Pysgod Seb yw'r unig un yn ei deulu sydd yn siarad Cymraeg, er roedd ei hen, hen fam-gu a'i hen, hen dad-cu yn arfer ei siarad. Dechreuodd ddysgu Cymraeg ar-lein drwy ddefnyddio Duolingo.[10]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd - rhestr enillwyr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri 2023". Gwefan Cyngor Sir Gaerfyrddin. Cyrchwyd 13 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Urdd: 9,000 wedi manteisio ar gynllun tocynnau am ddim". BBC Cymru Fyw. 3 Mehefin 2023.
- ↑ "Beirniadaeth o ardal LHDTC+ yr Urdd yn 'warthus'". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 13 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Carcharorion yn cystadlu yn yr Urdd". Golwg360. Cyrchwyd 13 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Owain Williams yw enillydd Coron yr Urdd 2023". BBC Cymru Fyw. 3 Mehefin 2023.
- ↑ "Tegwen Bruce-Deans yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd 2023". BBC Cymru Fyw. 1 Mehefin 2023.
- ↑ "Urdd: Elain Roberts yw enillydd Medal Ddrama 2023". BBC Cymru Fyw. 31 Mai 2023.
- ↑ "Eisteddfod yr Urdd 2023: Gwydion Rhys yn cipio'r Fedal Gyfansoddi". BBC Cymru Fyw. 29 Mai 2023.
- ↑ "Enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf yr Urdd". BBC Cymru Fyw. 3 Mehefin 2023.
- ↑ 10.0 10.1 "Cyhoeddi enillwyr cystadlaethau dysgu Cymraeg yr Urdd". BBC Cymru Fyw. 31 Mai 2023.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- gwefan BBC Cymru peth o'r adroddiadau
- Defod y Fedal Ddrama - Eisteddfod yr Urdd 2023 sianel Youtube yr Urdd
- Rhestr cyn eisteddfodau (hyd 2023) tudalen 6