Coleg Gŵyr Abertawe

Oddi ar Wicipedia
Coleg Gŵyr Abertawe
Enghraifft o'r canlynolcoleg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2010 Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthAbertawe Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gcs.ac.uk/ Edit this on Wikidata

Coleg Gŵyr Abertawe ( Saesneg: Gower College Swansea) yn goleg addysg bellach yn Abertawe, Cymru . Fe'i ffurfiwyd yn 2010 trwy uno Coleg Gorseinon a Choleg Abertawe . [1] [2] Daeth Mark Jones, cyn brifathro Coleg Penybont, yn brifathro ym mis Gorffennaf 2013 [3] Goruchwylir y coleg gan ugain o lywodraethwyr sy'n ffurfio Bwrdd y Gorfforaeth. [4] Mae'r coleg yn rhan o rwydwaith y sector, ColegauCymru.

Campysau[golygu | golygu cod]

A man with white hair and beard, wearing a checked shirt, a jacket and a name badge speaks whilst standing in a classroom, in front of some windows half covered with blinds on a sunny day.
Sgwrs yng Ngholeg Gŵyr yn 2015

Mae Coleg Gŵyr yn darparu addysg bellach a chyrsiau hyfforddi eraill o sawl campws a lleoliad yn yr ardal. Mae gan y coleg pum campws:[5]

  • Gorseinon
  • Tycoch - sy'n cynnwys y Ganolfan Chwaraeon a bwyty Vanilla Pod
  • Llys Jiwbilî
  • Llwyn y Bryn
  • Neuadd Sgeti
  • Ffordd y Brenin (hyb cyflogaeth)

Canlyniadau arholiadau[golygu | golygu cod]

Yn 2021, adroddodd Coleg Gŵyr fod y gyfradd lwyddo Safon Uwch gyffredinol yn 99%, sy’n uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru. O'r rhain, roedd 43% ar y graddau uwch o A* i A, 70% ar A*-B, ac 88% ar raddau A*-C. [6]

Academïau Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Mae gan y coleg nifer o academïau chwaraeon sy'n galluogi myfyrwyr amser llawn i ddatblygu medrau mewn pêl-droed, rygbi, pêl-rwyd, hoci a chriced. Mae ysgoloriaethau chwaraeon ar gael. [7]

Cyrsiau addysg uwch[golygu | golygu cod]

Mae'r coleg yn cynnig y cyrsiau addysg uwch canlynol: [8]

Graddau Sylfaen[golygu | golygu cod]

  • Gwyddor Ddadansoddol a Fforensig
  • Gofal a Chymorth
  • Plentyndod Cynnar
  • Rheoli TG ar gyfer Busnes
  • Addysg, Dysgu a Datblygu
  • Saesneg a Hanes
  • Tai a Chymunedau Cynaliadwy
  • Datblygu a Rheoli Chwaraeon

Tystysgrifau a Diplomâu Cenedlaethol Uwch[golygu | golygu cod]

  • HNC a HND mewn Gwasanaethau Adeiladu
  • HND mewn Busnes a Chyfrifyddiaeth
  • HND mewn Systemau Cyfrifiadurol a Gwybodaeth
  • HNC a HND mewn Peirianneg Drydanol/Electronig
  • HND mewn Peirianneg Drydanol
  • HNC a HND mewn Peirianneg Fecanyddol

Arall[golygu | golygu cod]

  • Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion
  • Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol Tystysgrif
  • Diploma mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Arfer Uwch)

Coleg Gŵyr Abertawe a'r Gymraeg[golygu | golygu cod]

Myfyrwyr yn y Coleg (2015)

Saesneg yw prif iaith cyfrwng dysgu y Coleg ond ceir ymrywiad yn unol gyda Safonau’r Gymraeg wyddfa Comisynydd y Gymraeg i roi mynediad cyfartal i wasanaethau a phrofiadau i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr sy’n siarad Cymraeg. Yn ôl ei gwefan, nod y Coleg yw "hybu dimensiwn Cymreig, meithrin ethos Cymreig a chefnogi addysg a diwylliant drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn ceisio gwneud y Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o’r Coleg". Mae Coleg Gŵyr Abertawe, gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, hefyd yn datblygu modiwlau a darpariaeth Cymraeg mewn rhai meysydd.[9] Dylid nodi bod ysgolion cyfrwng Cymraeg Sir Dinas Abertawe yn cydweithio i gynnig addysg Lefel A yn y Gymraeg ar draws y gwahanol ysgolion.

Cyrsiau yn y Gymraeg[golygu | golygu cod]

Ceir amrywiaeth o gyrsiau yn y Gymraeg y rhan fwyaf yn alwedigaethol ac yn brentisiaethau.

Maent yn cynnwys: [10]

Arholiadau

  • Addysg Gorfforol
  • Coginio
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Y Blynyddoedd Cynnar / Gofal Plant
  • Chwaraeon, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
  • Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
  • Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
  • Mynediad i Nyrsio a’r Proffesiynau Iechyd
  • Technegau Arbenigol Harddwch

Prentisiaethau:

  • Prentisiaeth Sylfaen Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
  • Gosod Systemau ac Offer Electrodechnegol ​
  • Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
  • Systemau Diogelwch ac Argyfwng Electronig
  • Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion
  • Technegwyr Labordy a Gwyddoniaeth
  • Gwaith Coed a Saernïaeth
  • Gorffennu Addurniadol a Pheintio Diwydiannol
  • Gorffennu Addurniadol – Peintio ac Addurno
  • Galwedigaethau Trywel (Gwaith Briciau)
  • Prentisiaeth Sylfaen Gwaith Coed Safle
  • Galwedigaethau Trywel (Gwaith Briciau)
  • Uwch Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Gweithrediadau Cynnal a Chadw (Adeiladu)

Elusen y coleg[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Prosiect Addysg Gymunedol Kenya [11] yn 2003 ac fe'i rhedir gan fyfyrwyr y coleg. Nod y prosiect hwn yw codi arian i gynnal rhaglen fwydo ar gyfer dros 120 o ddisgyblion tlotaf Ysgol Gynradd Madungu yn Cenia. Yn ogystal, mae'n anelu at dalu cyflogau dau athro a chyflenwi deunyddiau addysgol amrywiol iddynt. Mae'r coleg yn cynnal Diwrnod Prosiect Kenya yn flynyddol ond mae codi arian yn parhau trwy gydol y flwyddyn.

Mae myfyrwyr yn cymryd rhan yn y Cannock Chase Walk flynyddol [12] i godi arian yn ogystal â digwyddiadau amrywiol trwy gydol y flwyddyn. Er enghraifft, Dip Walrws. [13]

Mae aelodau'r prosiect yn cael cyfle i fynd i ysgol Kenya bob yn ail flwyddyn.

Mae Cymdeithas Islamaidd y coleg wedi ffurfio elusen ar gyfer Islamic Relief, sy'n codi arian am wythnos bob mis Tachwedd. 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Swansea College - News - 5 February 2010". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 February 2010. Cyrchwyd 8 February 2010.
  2. New name for merged Gorseinon and Swansea colleges - News report 5 February 2010
  3. "Bay | Gower College Swansea".
  4. "Governance". Gower College Swansea.
  5. "Ein campysau a'n cyfleusterau". Gwefan Coleg Gŵyr Abertaew. Cyrchwyd 31 Mai 2023.
  6. "Students celebrate fantastic exam results for 2021 | Gower College Swansea". www.gcs.ac.uk. Cyrchwyd 2023-01-24.
  7. "College Sports Academies". Gower College Swansea. Cyrchwyd 18 September 2016.
  8. Gower College Swansea, HE Options
  9. "Defnyddio'r Gymraeg yn y Coleg | Gower College Swansea". www.gcs.ac.uk. Cyrchwyd 2023-05-31.
  10. "Cyrsiau sydd ar gael yn Gymraeg | Gower College Swansea". www.gcs.ac.uk. Cyrchwyd 2023-05-31.
  11. "Kenya Community Education Project".
  12. "Swansea: The latest news, sport, what's on and business from Swansea and Gower".
  13. "Swansea: The latest news, sport, what's on and business from Swansea and Gower".

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]