Eginog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Roedd cantref Eginog yn un o dri chantref Ystrad Tywi yn nheyrnas Deheubarth. Ar wahanol adegau yn ei hanes cyn dyfodiad y Normaniaid bu dan reolaeth arglwyddi Ystrad Tywi, Seisyllwg a Deheubarth.

Gorweddai rhwng afon Tywi a phenrhyn Gŵyr yn ne-orllewin Cymru, ar lan Bae Caerfyrddin. I'r gorllewin ffiniai â Chantref Gwarthaf, i'r gogledd â'r Cantref Mawr a'r Cantref Bychan, ac i'r dwyrain â Nedd. Ymestynnai felly o Benfro hyd y Mynydd Du, gan gynnwys llawer o diroedd brasaf y rhan honno o Gymru.

Ymddengys i Eginog ymrannu'n fuan yn dri chwmwd a ddaeth i gymryd lle'r hen gantref fel uned weinyddol, i bob pwrpas, sef :

Yn wreiddiol nid oedd ond dau gwmwd yn Eginog, sef Cydweli a Gŵyr, ond rhannwyd Cydweli yn ddwy ran a rhoddwyd yr enw Carnwyllion ar hanner ddwyreiniol yr hen gantref tra chadwyd yr enw Cydweli ar y cwmwd newydd i'r gorllewin.

Roedd canolfannau pwysicaf y cantref yn cynnwys Llangyfelach a'i eglwys gysegredig i Ddewi Sant, Ystum Llwynarth (cartref Sant Illtud) a chlas Llandeilo Ferwallt. Mae lleoliad canolfan wleidyddol y cantref yn ansicr: Llwchwr efallai.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • John Edward Lloyd, A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co, 1911 ; 3ydd arg. 1937)