Draenen Pen-y-Graig
Math |
cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Cymru ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.5386°N 3.1911°W ![]() |
Cod SYG |
W04001006 ![]() |
Cod OS |
ST17478283 ![]() |
![]() | |
Ardal yng Nghaerdydd yw Y Ddraenen (Saesneg: Thornhill), sy'n gorwedd ar gyrion gogleddol y ddinas ar y ffordd i Gaerffili.
Tai sydd yn yr ardal yn bennaf, a'r rhan fwyaf yn dyddio o'r 1980au neu'n ddiweddarach. Mae hefyd sawl tafarn ac archfarchnad Sainsbury's.
Ychydig iawn o safleoedd hanesyddol sydd yn Nraenen Pen-y-graig. Mae gweddillion castell ar y ffin rhwng Caerffili a Draenen Pen-y-graig, sef Castell Morgraig.
Lleolir Draenen Pen-y-graig yn ward Llanisien Cyngor Dinas Caerdydd.
Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]
Dim ond Ysgol Gynradd y Ddraenen sydd wedi ei lleoli yn yr ardal ei hun. Darperir addysg gynradd Gymraeg gan Ysgol y Wern yn Llanisien.
Bydd plant o'r ardal naill ai yn mynychu ysgol gyfrwng Saesneg, Ysgol Uwchradd Llanisien, neu Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn Ystum Taf.