Dinas 15 Munud

Oddi ar Wicipedia
Dinas 15 Munud
Enghraifft o'r canlynolcysyniad Edit this on Wikidata
CrëwrCarlos Moreno Edit this on Wikidata

Mae'r dinas 15 munud yn gysyniad cynllunio trefol a ddyfeisiwyd gan y pensaer Colombia-Ffrengig, Carlos Moreno. Arddelir hefyd y term cymuned 20 munud [1] neu amrywiaedau tebyg.

Yn ôl y cysyniad, dylai pob preswylydd dinas gael mynediad i siopau, cyflogaeth, addysg, gofal iechyd, gwyrddni, cyfleusterau chwaraeon a diwylliannol o fewn uchafswm o bymtheg munud o bellter beicio neu gerdded. Mae'r cysyniad bellach yn cael ei alw'n ddinas X-munud hefyd oherwydd y llu o amrywiadau sydd wedi'u dyfeisio. Arweiniodd mesurau a gymerwyd yn ystod y pandemig corona a phryderon am newid hinsawdd at ddiddordeb cynyddol yn y cysyniad ledled y byd.[2]

Mae nifer o'r pwyntiau gweithredu a syniadol yn plethu fewn i bolisïau cydgrynhoi trefol (dwyseddi trefol).

Cyd-destun[golygu | golygu cod]

Paris - dinas sy'n cael ei weld fel esiampl o'r ddinas 15 munud
Gwelir dinas Amsterdam a chynllunio trefo yr Iseldiroedd fel anghraifft o ddinasoedd 15 munud nodweddiadol

Mae dinas 15 munud neu ddinas chwarter awr yn gysyniad cynllunio trefol sy’n cynnig y dylai’r rhan fwyaf o anghenion a gwasanaethau dinasyddion (fel gwaith, siopa, addysg, canolfannau iechyd neu hamdden) fod o fewn pellter cerdded neu feicio o lai na 15 munud o unrhyw bwynt yn y ddinas. Crëwyd y term gan Carlos Moreno a'i boblogeiddio gan faer Paris, Anne Hidalgo.[3] ​ O fewn taith gerdded neu seiclo 15 munud o gartref, gall trigolion y ddinas gael mynediad i'r rhan fwyaf o'u hanghenion hanfodol.[4][5] ac fe’i disgrifiwyd fel “dychwelyd i ffordd leol o fyw.”[6]

Mae’r cysyniad dinas 15 munud yn seiliedig ar waith cynharach y cynllunydd Americanaidd, Clarence Perry, yn y 1900au ar rôl y gymdogaeth. Cynigydd mwy adnabyddus oedd Jane Jacobs, sy'n ei hadrodd yn ei llyfr The Death and Life of Great American Cities.[7] Mae’r gwyddonydd Franco-Colombiaidd, Carlos Moreno, wedi rhoi ysgogiad a chynnwys newydd i’r cysyniad.[8]

Bu i argyfwng pandemig COVID-19 gyflymu’r awydd i fyw mewn dinasoedd, trefi a chymdogaethau swyddogaethol, maint dynol. Mabwysiadwyd y cynnig trefol hwn, ym mis Mai 2020, gan Grŵp Arwain Hinsawdd y C40, mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd ac effeithiau trefol argyfwng pandemig COVID-19.[9]

Mae'r ddinas 15 munud yn weledigaeth o ddinas amlganolog (polycentric city), lle mae dwysedd yn caniatáu màs critigol ac yn rhoi ystyr i agosrwydd bywyd a'i ddwyster cymdeithasol.[10][11][12] Mae’n ddinas lle gall trigolion ymateb i’w hanghenion wedi’u trefnu’n chwe chategori: byw, gweithio, cyflenwi eu hunain, gofalu amdanynt eu hunain, addysgu eu hunain, gorffwys. Fe'i harweinir gan dri phrif syniad:

  • Crono-drefoli - i roi rhythm newydd i'r ddinas
  • Chronotopia - i roi swyddogaethau gwahanol i le sy'n dibynnu ar amseroldeb
  • Topophilia - yn llythrennol "cariad at le", i atgyfnerthu ymlyniad pobl at eu cymdogaeth. O ran y syniad olaf hwn, mae Yi-Fu Tuan yn ystyried bod dwy ffordd o ddeall y berthynas rhwng gofodau a'u trigolion, sef topophilia a civitio. Y cyntaf yw'r teimlad o berthyn i le neu diriogaeth' a'r ail yw'r teimlad o hunaniaeth gymunedol'. Mae'r ddau gysyniad fel arfer yn cael eu cyflwyno mor agos at ei gilydd fel y gellir eu drysu, ond mae un yn ddaearyddol a'r llall yn gymdeithasol. Gellir ystyried 'cynefin', y cysyniad Gymraeg yn air amrywiad neu'n gyfuniad o'r ddau gysyniad yma.

Manteision posib[golygu | golygu cod]

Mae'r angen am opsiynau trafnidiaeth yn lleihau. Mae hynny'n well i'r hinsawdd a'r amgylchedd byw. Mae mynd o gwmpas ar droed neu ar feic yn dda ar gyfer iechyd a lles corfforol. Mae cael popeth yn agos wrth law yn arbed llawer o amser ac arian.[13]

Anfanteision posibl[golygu | golygu cod]

Ni fyddai arwahanu ac anghydraddoldeb yn lleihau ond yn cynyddu yn y ddinas 15 munud.[14] Gall fforddiadwyedd tai trefol ddod o dan hyd yn oed mwy o bwysau. Oherwydd cynlluniau cylchrediad traffig, gwahardd trafnidiaeth fodurol a'r pwysau mawr ar ofod ac adnoddau'r llywodraeth, er enghraifft, gallai canoli ysbytai beryglu hygyrchedd rhai gwasanaethau i bobl lai symudol.[15]

Damcaniaethau cynllwyn[golygu | golygu cod]

Ffordd Merthyr, prif stryd maestref Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, ardal y gellid ei hystyried fel cydymffurfio â'r gymuned 20 munud gydag amrywiaeth o siopau, bwytai, tafarndai, addoldai ac ysgolion o fewn 15 neu 20 munud cerdded i'w thrigolion

Yn 2023, dechreuodd damcaniaethau gydgynllwyniol di-sail am y cysyniad 15 munud ffynnu, a ddisgrifiodd y model fel offeryn "gormes y llywodraeth".[16][17][18] Mae'r honiadau hyn yn aml yn rhan o neu'n gysylltiedig â damcaniaethau cynllwyn eraill sy'n haeru bod llywodraethau'r Gorllewin yn ceisio gormesu eu poblogaethau, megis QAnon, damcaniaethau gwrth-frechlyn neu gamwybodaeth gwrth-5G.[16] Mae cynigwyr y cysyniad 15 munud, gan gynnwys Carlos Moreno, wedi derbyn bygythiadau marwolaeth.[16][19]

Mae rhai damcaniaethwyr cynllwyn yn cyfuno'r cysyniad 15 munud â dull cymdogaeth traffig isel Prydain, sy'n cynnwys sganwyr plât trwydded mewn rhai gweithrediadau.[16][17] Mae hyn wedi arwain damcaniaethwyr cynllwyn i haeru y byddai’r model 15 munud yn dirwyo trigolion am adael eu hardaloedd cartref,[20][21] neu y byddai’n cyfyngu pobl mewn “carchardai awyr agored”.[16] Mae cefnogwyr y cynllwyn yn credu y bydd Fforwm Economaidd y Byd (WEF) yn cael gwared ar ryddid pobl ac yn eu cloi yn eu cartrefi gan ddefnyddio esgus newid hinsawdd.[19] Mae credoau o'r fath yn dod o fewn rhwydwaith mwy o ddamcaniaethau cynllwyn yn ymwneud â'r cysyniad o'r "Ailosod Mawr" - "Great Reset".[18][22]

Gwrthwynebiad a Theoriau Cynllwyn i'r Ddinas 15 munud yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Arwydd Parth 20mya, Bangor. Bu gwrthwynebiad i'r Ddeddf yn rannol ar ddadleuon gwrth Dinas 15 Munud

Gwelwyd rhai o'r trôps yn erbyn y cynllun (gwir, neu honedig) ym maes y Ddinas 15 Munud wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddf uwchafwm cyflymdra 20 milltir yr awr ar 17 Medi 2023. Yn ôl rhai gwrthwynebwyr, gan gynnwys y grŵp Asgell Dde Brydeinig eithafol, y Patriotic Front roedd y ddeddf yn "end game" ar gyfer "... to make it as least desirable as possible to drive your own personal vehicle and being forced to use public transport. Eventually we’ll see climate lockdowns and then finally the implementation of the 15 Minute Cities where you will not be allowed to leave your Zone."[23] Gwnaeth Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak haeriad tebyg wrth ymateb yn erbyn y Ddeddf 20mya wrth iddo godi "amheuaeth" am ddinasoedd 15 munud.[24]

Cymru[golygu | golygu cod]

Ym mis Gorffennaf 2023 cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu bwriad i wneud tref Pen-y-bont ar Ogwr yn "ddinas 15 munud". Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode bod y symudiad er mwyn, "rhoi dewis i bobl - a rhoi mynediad iddynt i adnoddau da ar eu stepen drws".[25] Yn 2023 bu i Cyngor Dinas Caerdydd ystyried mabwysiadu arferion da dinasoedd eraill sydd wedi mabwysiadu model dinas 15 munud, gan nodi gwersi allweddol sy'n berthnasol i'r ddinas yn eu Cynllun Adferiad Economaidd wedi pandemig Covid -19.[26]

Cafwyd trafodaeth ar y gysyniad o Ddinasoedd 15 Munud gyda Phlaid Cymru yn dweud yn eu maniffesto ar gyfer Etholiad Senedd Cymru yn 2021 eu bod o blaid "Teithio llesol a chymdogaethau 20 munud".[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Teithio llesol a chymdogaethau 20 munud". Plaid Cymru. Cyrchwyd 13 Hydref 2023.
  2. "A composite X-minute city cycling accessibility metric and its role in assessing spatial and socioeconomic inequalities – A case study in Utrecht, the Netherlands". Journal of Urban Mobility. Rhagfyr 2023. Cyrchwyd 2023-08-04.
  3. "Paris mayor unveils '15-minute city' plan in re-election campaign". the Guardian. 2020-02-07. Cyrchwyd 2021-03-12.
  4. C40 cities: Coronavirus recovery plan: What is '15-minute city' concept?. https://timesofindia.indiatimes.com/india/coronavirus-recovery-plan-what-is-15-minute-city-concept/articleshow/76991001.cms.
  5. Every Street In Paris To Be Cycle-Friendly By 2024, Promises Mayor. https://www.forbes.com/sites/carltonreid/2020/01/21/phasing-out-cars-key-to-paris-mayors-plans-for-15-minute-city/.
  6. The 15-Minute City—No Cars Required—Is Urban Planning’s New Utopia. 2020-11-12. https://www.bloomberg.com/news/features/2020-11-12/paris-s-15-minute-city-could-be-coming-to-an-urban-area-near-you. Adalwyd 2021-03-12.
  7. Moreno, Carlos. "Transcript of "La ville d'un quart d'heure"". www.ted.com. Cyrchwyd 2021-03-27.
  8. Sobre el concepto "cysyniad dinas 15 munud"
  9. "C40 Knowledge Community". www.c40knowledgehub.org. Cyrchwyd 2021-03-27.
  10. "Subscribe to read | Financial Times". www.ft.com. Cyrchwyd 2021-03-27.
  11. "What is a 15-minute city?". City Monitor. 2020-09-21. Cyrchwyd 2021-03-27.
  12. Yeung, Peter. "How '15-minute cities' will change the way we socialise". www.bbc.com. Cyrchwyd 2021-03-27.
  13. Andres Duany, Robert Steuteville (8 Chwefror 2021). "Defining the 15-minute city". Public Square. Cyrchwyd 2023-08-04.CS1 maint: uses authors parameter (link)
  14. Jasper Monster (10 Mawrth 2021). "Wat betekent het 15-minuten-principe nu echt voor de stad (en wat is het gevaar)?". gebiedsontwikkeling.nu. Cyrchwyd 2023-08-04.
  15. "De 15-minutenstad: een model voor een duurzame stad" (yn Dutch). Vlaamse ouderenraad. Cyrchwyd 2023-08-04.CS1 maint: unrecognized language (link)
  16. 16.0 16.1 16.2 16.3 16.4 Hsu, Tiffany (28 March 2023). "He Wanted to Unclog Cities. Now He's 'Public Enemy No. 1.'". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 29 March 2023.
  17. 17.0 17.1 Marcelo, Philip (2 March 2023). "FACT FOCUS: Conspiracies misconstrue '15-minute city' idea". APNews.com. Associated Press. Cyrchwyd 22 July 2023.
  18. 18.0 18.1 Guest, Peter (28 February 2023). "Conspiracy Theorists Are Coming for the 15-Minute City". Wired. Cyrchwyd 22 July 2023.
  19. 19.0 19.1 Sethi, Pallavi (17 April 2023). "How 15-minute cities became a conspiratorial talking point". Logically Facts (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 July 2023.
  20. "Conspiracy theories on '15-minute cities' flourish". France 24 (yn Saesneg). Agence France-Presse. 15 February 2023. Cyrchwyd 15 February 2023.
  21. Elledge, John (February 2023). "How have 15-minute cities become a conspiracy theory?". New Statesman.
  22. Venkataramakrishnan, Siddarth (8 March 2023). "The '15-minute city' backlash is part of the great climate change conspiracy theory". Financial Times. (OpEd)
  23. [20mph_the_slow_march_to_15_minute_cities "20mph – The Slow March to 15 Minute Cities"] Check |url= value (help). Patriotic Front. 11 Medi 2023.
  24. {[cite web |url=https://www.forbes.com/sites/carltonreid/2023/09/29/20mph-zones-against-british-values-rishi-sunak-says-prior-to-unveiling-pro-motorist-policies/ |title=20mph Zones ‘against British Values’ Rishi Sunak Says Prior To Unveiling Pro-Motorist Policies |publisher=Forbes |date=29 Medi 2023}}
  25. "Welsh town's move to become a '15 minute city'". North Wales News. 12 July 2023.
  26. "Rheolwr Datblygu (Adfywio)". Cyngor Dinas Caerdydd. 20 Ebrill 2023.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.