Defnyddiwr:Rhyswynne/Scranton, Pennsylvania

Oddi ar Wicipedia

Scranton yw'r chweched ddinas fwyaf yng Nghymanwlad Pennsylvania. Dyma sedd sir a dinas fwyaf Sir Lackawanna yn Nyffryn Wyoming ac mae'n gartref i adeilad llys ffederal ar gyfer Llys Dosbarth yr Unol Daleithiau ar gyfer Ardal Ganolog Pennsylvania. Gyda phoblogaeth a amcangyfrifir yn 2019 o 76,653, hi yw'r ddinas fwyaf yng ngogledd-ddwyrain Pennsylvania ac Ardal Ystadegol Metropolitan Scranton-Wilkes-Barre - Hazleton, sydd â phoblogaeth o tua 570,000. [1] Mae'r ddinas wedi'i rhannu'n naw rhanbarth: Gogledd Scranton, Southside, Westside, Adran y Bryniau, Canol y Ddinas, Minooka, East Mountain, Providence, a Green Ridge, er nad oes gan yr ardaloedd hyn statws cyfreithiol.

Scranton yw canolfan ddaearyddol a diwylliannol dyffryn Afon Lackawanna a gogledd-ddwyrain Pennsylvania, a'r mwyaf o'r hen gymuedau cloddio glo carreg mewn clytwiath o gymunedau cyffiniol sydd hefyd yn cynnwys Wilkes-Barre, Nanticoke, Pittston, a Carbondale. Ymgorfforwyd Scranton ar 14 Chwefror 1856, fel bwrdeistref yn Sir Luzerne ac fel dinas ar 23 Ebrill 1866. Daeth yn ddinas ddiwydiannol fawr, yn ganolfan mwyngloddio a rheilffyrdd, a denodd filoedd o fewnfudwyr newydd. Dyma oedd safle Streic Gyffredinol Scranton ym 1877.

Ceisiodd pobl yng ngogledd Sir Luzerne sir newydd ym 1839, ond gwrthwynebodd ardal Wilkes-Barre golli ei hasedau. Ni enillodd Sir Lackawanna statws annibynnol tan 1878. O dan ddeddfwriaeth a oedd yn caniatáu i drigolion y diriogaeth arfaethedig bleidleisio ar y mater, roedd pleidleiswyr yn ffafrio'r sir newydd o 6 i 1, gyda thrigolion Scranton yn darparu'r gefnogaeth fawr. Dynodwyd y ddinas yn sedd y sir pan sefydlwyd Sir Lackawanna ym 1878, ac awdurdodwyd ardal farnwrol ym mis Gorffennaf 1879.

Dechreuodd llysenw'r ddinas "y Ddinas Drydan" pan gyflwynwyd goleuadau trydan ym 1880 yn y Dickson Manufacturing Company. Chwe blynedd yn ddiweddarach, dechreuodd tramffordd gyntaf yr Unol Daleithiau a bwerwyd gan drydan yn unig weithredu yn y ddinas.[2][3] Yn ddiweddarach, galwodd y Parchedig David Spencer, gweinidog gyda'r Bedyddwyr lleol, Scranton yr "Electric City".[4]

Cyrhaeddodd cynhyrchiad a phoblogaeth ddiwydiannol y ddinas uchafbwynt yn y 1930au a'r 1940au, yn sgil y galw am lo a thecstilau, yn enwedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ond er i'r economi genedlaethol ffynnu ar ôl y rhyfel, gostyngodd y galw am lo'r rhanbarth wrth i fathau eraill o ynni ddod yn fwy poblogaidd, a wnaeth hefyd niweidio'r diwydiant rheilffyrdd. Gan ragweld y dirywiad, lluniodd arweinwyr y ddinas Gynllun Scranton ym 1945 i arallgyfeirio'r economi leol y tu hwnt i lo, ond parhaodd economi'r ddinas ddirywio. Yn y bôn, daeth cloddio glo yn y rhanbarth i ben yn sgil trychineb Knox Mine ym 1959. Gostyngodd poblogaeth Scranton o'i anterth o 143,433 yng nghyfrifiad 1930 i 76,089 yng nghyfrifiad 2010. Bellach mae gan y ddinas sectorau gofal iechyd a gweithgynhyrchu mawr.

Mae Scranton 77 milltir (124 km) i'r gogledd o Allentown, 120 milltir (190 km) i'r gogledd o Philadelphia, a 120 milltir (190 km00 i'r gogledd-orllewin o Ddinas Efrog Newydd .

Hanes[golygu | golygu cod]

Cyn-ddiwydiannol (1776-1845)[golygu | golygu cod]

Roedd llwyth brodorol y Lenape wedi byw yn safle Scranton heddiw a'r ardal gyfagos ers amser maith, ac oddi yma y mae ei iaith "Lackawanna" (neu lac-a-wa-na, sy'n golygu "nant sy'n fforchio") yn deillio. Yn 1778, adeiladodd Isaac Tripp, gwladychwr gwyn cyntaf hysbys yr ardal, ei gartref yma; mae'n dal i sefyll yng Ngogledd Scranton, a oedd gynt yn dref ar wahân o'r enw Providence. Daeth mwy o ymsefydlwyr o Connecticut i’r ardal ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif ar ôl Rhyfel Chwyldroadol America, wrth i’w talaith hawlio’r ardal hon fel rhan o’u siarter drefedigaethol.

Yn raddol fe wnaethant sefydlu melinau a busnesau bach eraill mewn pentref a ddaeth i ddwyn yr enw Slocum Hollow. Roedd pobl y pentref yn ystod yr amser hwn yn cario nodweddion ac acen gwladfawyr Lloegr Newydd, a oedd ychydig yn wahanol i'r mwyafrif o Pennsylvania. Cymerodd rhai ymsefydlwyr ardal o Connecticut ran yn yr hyn a elwid yn Rhyfeloedd Pennamite, lle bu ymsefydlwyr yn cystadlu am reolaeth dros y diriogaeth a oedd wedi'i chynnwys mewn grantiau tir trefedigaethol brenhinol i'r ddwy dalaith. (Cafodd yr hawliad hwn rhwng Connecticut a Pennsylvania ei setlo drwy negodi gyda'r llywodraeth ffederal ar ôl annibyniaeth.)

Diwydiant yn cyrraedd (1846-1899)[golygu | golygu cod]

Er bod glo carreg yn cael ei gloddio yn Carbondale i'r gogledd a Wilkes-Barre i'r de, y diwydiannau a ysgogodd dwf cyflym cynnar y ddinas oedd haearn a dur. Yn y 1840au, sefydlodd y brodyr Selden T. a George W. Scranton, a oedd wedi gweithio yn Ffwrnais Oxford yn Oxford, New Jersey, yr hyn a ddaeth yn Lackawanna Iron & Coal, a ddatblygodd yn ddiweddarach yn Gwmni Dur Lackawanna. Dechreuodd gynhyrchu hoelion haearn i ddechrau, ond methodd y fenter honno oherwydd haearn o ansawdd isel. Gohiriwyd adeiladu Erie Railroad yn Nhalaith Efrog Newydd oherwydd iddo orfod caffael rheiliau haearn drwy fewnforio o Loegr. Penderfynodd cwmni'r Scrantons newid ei ffocws i gynhyrchu rheiliau-T ar gyfer yr Erie; a buan y daeth y cwmni'n brif gynhyrchydd rheiliau ar gyfer y rheilffyrdd a oedd yn ehangu'n gyflym.

Yn 1851, adeiladodd teuelu'r Scranton y Lackawanna a Western Railroad (L&W) tua'r gogledd, gyda mewnfudwyr diweddar o Iwerddon yn cyflenwi y rhan fwyaf o'r llafur, i gwrdd â'r Erie Railroad yn Great Bend, Pennsylvania. Felly, roeddent yn gallu cludo rheiliau wedi'u gweithgynhyrchu o Ddyffryn Lackawanna i Efrog Newydd a'r gorllewin canol. Gwnaethant hefyd fuddsoddi mewn gweithfeydd cloddio glo yn y ddinas i danio eu gweithfeydd dur, ac i'w werthu i fusnesau. Ym 1856, ehangwyd y rheilffordd i'r dwyrain fel y Delaware, Lackawanna and Western Railroad (DL&W), er mwyn manteisio ar farchnad fetropolitan Dinas Efrog Newydd. Y rheilffordd hon, gyda'i chanolbwynt yn Scranton, oedd cyflogwr mwyaf Scranton am bron i gan mlynedd.

Adeiladodd y Pennsylvania Coal Company reilffordd disgyrchiant yn y 1850au drwy'r ddinas at ddiben cludo glo. Disodlwyd y rheilffordd disgyrchiant gan reilffordd stêm a adeiladwyd ym 1886 gan yr Erie and Wyoming Valley Railroad (a amsugnwyd yn ddiweddarach gan yr Erie Railroad). Adeiladodd Cwmni Camlas Delaware and Hudson (D&H), a oedd â’i reilffordd disgyrchiant ei hun o Carbondale i Honesdale, reilffordd stêm a aeth i mewn i Scranton yn 1863.

Yn ystod y cyfnod byr hwn o amser, trawsnewidiodd y ddinas yn gyflym o fod yn bentref bach, amaethyddol o bobl o dras New England i fod yn ddinas ddiwydiannol amlddiwylliannol. O 1860 i 1900, cynyddodd poblogaeth y ddinas fwy na deg gwaith. Roedd y rhan fwyaf o'r mewnfudwyr newydd--fel Gwyddelod, Eidalwyr, de Almaenwyr a Phwyliaid--yn Gatholigion, yn wahanol i'r ymsefydlwyr cynnar Protestannaidd ac o dras trefedigaethol. Roedd gwahaniaethau cenedlaethol, ethnig, crefyddol a dosbarth yn rhan annatod o gysylltiadau gwleidyddol, gyda llawer o fewnfudwyr newydd yn ymuno â'r Blaid Ddemocrataidd (ac, am gyfnod yn y 1870au hwyr, Plaid Greenbacker-Llafur. )

Ym 1856, ymgorfforwyd Bwrdeistref Scranton yn swyddogol. Fe'i hymgorfforwyd fel dinas o 35,000 yn 1866 yn Sir Luzerne, pan unwyd bwrdeistrefi cyfagos Hyde Park (sydd bellach yn rhan o West Side y ddinas) a Providence (sydd bellach yn rhan o North Scranton) gyda Scranton. Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach ym 1878, pasiodd y dalaith ddeddf a oedd yn galluogi creu siroedd newydd lle roedd poblogaeth sir yn fwy na 150,000, fel y gwnaeth Luzerne. Roedd yn ymddangos bod y ddeddf yn galluogi creu Sir Lackawanna, a bu cryn gynnwrf gwleidyddol ynghylch y broses awdurdodi. Dynodwyd Scranton gan ddeddfwrfa’r dalaith fel sedd sirol y sir newydd, a sefydlwyd hefyd fel ardal farnwrol ar wahân, gyda barnwyr y dalaith yn symud drosodd o Sir Luzerne ar ôl i lysoedd gael eu trefnu ym mis Hydref 1878. Hon oedd y sir olaf yn y dalaeth i gael ei threfnu.

Cyfranodd creu’r sir newydd, a alluogodd fwy o reolaeth leol a nawdd gwleidyddol, at ddechrau Streic Gyffredinol Scranton ym 1877. Roedd hyn yn rhannol oherwydd Streic Fawr y Rheilffyrdd, lle dechreuodd gweithwyr y rheilffyrdd drefnu a cherdded allan ar ôl toriadau cyflog ym Martinsburg, Gorllewin Virginia. Roedd yr economi genedlaethol wedi llusgo ers Panig 1873, ac roedd gweithwyr mewn llawer o ddiwydiannau'n cael trafferth gyda chyflogau isel a gwaith ysbeidiol. Yn Scranton, roedd y glowyr yn dilyn dynion y rheilffyrdd i ffwrdd o'r gwaith, fel y gwnaeth eraill. Daeth protest o 5,000 o streicwyr i ben gyda thrais, gyda phedwar o ddynion wedi’u lladd, ac 20 i 50 wedi’u hanafu, gan gynnwys y maer. Roedd wedi sefydlu milisia, ond galwodd am gymorth gan y llywodraethwr a milisia'r dalaith. Yn y pen draw, daeth y Llywodraethwr John Hartranft â milwyr ffederal i mewn i dawelu'r streic. Nid oedd y gweithwyr wedi ennill dim mewn cyflogau, ond dechreuasant drefnu yn fwy pwrpasol yn undebau llafur a all fod â mwy o rym.

Sefydlwyd system car stryd drydanol (troli) lwyddiannus gyntaf y genedl yn y ddinas ym 1886, gan ysbrydoli'r llysenw "The Electric City". Ym 1896, cafodd gwahanol gwmnïau ceir stryd y ddinas eu cyfuno i ffurfio'r Scranton Railway Company, a oedd yn rhedeg trolïau tan 1954. Erbyn 1890, roedd tair rheilffordd arall wedi adeiladu llinellau i fanteisio ar y cyflenwad cyfoethog o lo yn y ddinas ac o'i chwmpas, gan gynnwys yr Erie Railroad, Central Railroad of New Jersey ac yn olaf y New York, Ontario and Western Railway (NYO&W).

Wrth i'r rhwydwaith rheilffyrdd helaeth ledaenu uwchben y ddaear, roedd rhwydwaith hyd yn oed yn fwy o reilffyrdd yn gwasanaethu'r system o wythiennau glo o dan y ddaear a oedd yn ehangu'n gyflym. Roedd glowyr, a oedd yn Gymy a Gwyddelod gan fwyaf yn y blynyddoedd cynnar, yn cael eu cyflogi mor rhad â phosibl gan y barwniaid glo. Dioddefodd y gweithwyr gyflog isel, oriau hir ac amodau gwaith anniogel. Roedd plant mor ifanc ag wyth neu naw yn gweithio diwrnodau 14 awr yn gwahanu llechi oddi wrth lo yn y torwyr. Yn aml, roedd y gweithwyr yn cael eu gorfodi i ddefnyddio tai a ddarperir gan y cwmni a phrynu bwyd a nwyddau eraill o storfeydd y cwmnïau glo. Gyda channoedd o filoedd o fewnfudwyr yn cyrraedd y dinasoedd diwydiannol, nid oedd yn rhaid i berchnogion mwyngloddiau chwilio am lafur ac roedd gweithwyr yn brwydro i gadw eu swyddi. Yn ddiweddarach daeth glowyr o'r Eidal a dwyrain Ewrop, a ffoi rhag tlodi a diffyg swyddi.

Roedd busnes yn ffynnu ar ddiwedd y 19eg ganrif. Cynyddodd y tunelli o lo a gloddiwyd bron bob blwyddyn, fel y gwnaeth y dur a gynhyrchwyd gan y Lackawanna Steel Company. Ar un adeg roedd gan y cwmni y gwaith dur mwyaf yn yr Unol Daleithiau, a dyma oedd yr ail gynhyrchydd mwyaf o hyd ar droad yr 20fed ganrif. Erbyn 1900, roedd gan y ddinas boblogaeth o fwy na 100,000.

Hanes Llafur[golygu | golygu cod]

O ystyried ei sail ddiwydiannol, mae hanes llafur nodedig gan Scranton; ymdrechodd amryw o undebau gweithwyr glo drwy gydol oes y diwydiant glo i wella amodau gwaith, codi cyflogau, a gwarantu triniaeth deg i weithwyr.[5] Arweinidd Panig 1873 ac anawsterau economaidd eraill ddirwasgiad cenedlaethol a cholli busnes. Wrth i'r economi grebachu, gostyngodd y cwmnïau rheilffyrdd gyflogau'r gweithwyr (tra'n cadw codiadau cyflog i'w huwch reolwyr o bryd i'w gilydd). Denodd streic fawr gan weithwyr rheilffyrdd ym mis Awst 1877, rhan o Streic Fawr y Rheilffyrdd, weithwyr o'r diwydiant dur a mwyngloddio hefyd, a datblygodd fel Streic Gyffredinol Scranton . Cafodd pedwar protestiwr eu lladd yn ystod aflonyddwch yn ystod y streic, ar ôl i’r maer ymgynnull milisia. Gyda thrais wedi'i atal gan filisia a milwyr ffederal, dychwelodd gweithwyr i'w swyddi o'r diwedd, heb allu ennill unrhyw ryddhad economaidd. William Walker Scranton, o'r teulu amlwg, oedd rheolwr cyffredinol Lackawanna Iron and Coal ar y pryd. Yn ddiweddarach sefydlodd y Scranton Steel Company .

Yn 1878 etholwyd yr arweinydd llafur Terence V. Powderly o'r Knights of Labour yn faer Scranton. Wedi hynny, daeth yn arweinydd cenedlaethol y KoL, sefydliad Catholig yn bennaf, a oedd gydag aelodaeth o 700,000 ar ei anterth tua 1880.[6] Er bod yr Eglwys Gatholig wedi gwahardd aelodaeth o fudiadau cudd ers canol y 18fed ganrif, erbyn diwedd y 1880au, gyda dylanwad yr Archesgob James Gibbons o Baltimore, Maryland, roedd yn cefnogi'r Knights of Labour fel cynrychiolwyr gweithwyr a threfnwyr undeb.

Twf, ffyniant ac effeithiau hyn (1900–1945)[golygu | golygu cod]

Ym 1902, arweindodd cyfyniad o leihad yng nghyflenwad mwyn haearn lleol, problemau llafur, a ffatri a oedd yn heneiddio at dirywiad y diwydiant y sefydlwydd y ddinas arno. Symudwyd y Lackawanna Steel Company a llawer o'i weithwyr i Lackawanna, Efrog Newydd, a ddatblygwyd ar Lyn Erie ychydig i'r de o Buffalo. Gyda phorthladd ar y llyn, gallai'r cwmni dderbyn mwyn haearn wedi'i gludo o'r Mesabi Range yn Minnesota, a oedd nawr yn cael ei gloddio yno.

Parhaodd Scranton fel prifddinas y diwydiant glo carreg. Gan ddenu'r miloedd o weithwyr oedd eu hangen i gloddio am lo, datblygodd y ddinas gymdogaethau newydd wedi'u dominyddu gan fewnfudwyr Eidalaidd ac o ddwyrain Ewrop, a ddaeth â'u bwydydd, eu diwylliannau, a'u crefyddau. Ymunodd llawer o'r mewnfudwyr â'r Blaid Ddemocrataidd. Roedd eu heglwysi cenedlaethol a'u cymdogaethau yn rhan o hanes y ddinas. Cafodd nifer o eglwysi Catholig ac Uniongred eu sefydlu a'u hadeiladu yn ystod y cyfnod hwn. Sefydlwyd cymuned Iddewig sylweddol hefyd, gyda'r rhan fwyaf o'r aelodau'n dod o Ymerodraeth Rwsia a dwyrain Ewrop. Cafwyd gwelliannau i amodau gwaith y glowyr o ganlyniad i ymdrechion arweinwyr llafur megis John Mitchell, a arweiniodd yr United Mine Workers.

Erbyn canol y 1930au, roedd poblogaeth y ddinas wedi chwyddo y tu hwnt i 140,000 [7] oherwydd twf yn y diwydiannau mwyngloddio a thecstilau sidan. Creodd yr Ail Ryfel Byd alw mawr am ynni, a arweiniodd at y cynhyrchiant uchaf o fwyngloddio yn yr ardal ers y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd (1946-1984)[golygu | golygu cod]

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, disodlwyd glo gan olew a nwy naturiol fel tanwydd gwresogi, yn bennaf oherwydd bod y rhain yn fwy cyfleus i'w defnyddio. Tra bod rhai o ddinasoedd yr Unol Daleithiau yn ffynnu ar ôl y rhyfel, dirywiodd Scranton (a gweddill siroedd Lackawanna a Luzerne). Gostyngodd cynhyrchiant glo a thraffig rheilffordd yn gyflym drwy gydol y 1950au, gan arwain at golli swyddi.

Bu bron i Drychineb Glofa Knox ym mis Ionawr 1959 ddod â diwydiant mwyngloddio gogledd-ddwyrain Pennsylvania i ben. Gorlifodd dyfroedd Afon Susquehanna y mwyngloddiau.[8][9]. Unodd Rheilffordd DL&W, a oedd bron â bod yn fethdalwr gyda'r gostyngiad mewn traffig glo ac effeithiau Corwynt Diane, gyda’r Erie Railroad yn 1960. Gostyngodd y galw am gludiant cyhoeddus hefyd wrth i briffyrdd newydd gael eu hadeiladu gan gymorthdaliadau ffederal ac wrth i bobl brynu ceir.

Sefydlogi ac adfer (1985-presennol)[golygu | golygu cod]

Ers canol y 1980au, mae'r ddinas wedi rhoi pwyslais ar adfywio. Mae llywodraeth leol a llawer o'r gymuned ehangach wedi magu diddordeb o'r newydd yn adeiladau a hanes y ddinas. Mae rhai eiddo hanesyddol wedi'u hadnewyddu a'u marchnata fel atyniadau i dwristiaid. Mae Safle Hanesyddol Cenedlaethol Steamtown yn esiampl dda o le blaenllaw yr ardal yn y diwydiant rheilffyrdd ar un adeg. Adferwyd hen orsaf drenau DL&W fel Gwesty Gorsaf Radisson Lackawanna. Crëwyd Amgueddfa Troli'r Ddinas Drydan wrth ymyl iardiau'r DL&W lle lleolir SHC Steamtown.

Yn ôl The Guardian, roedd y ddinas yn agos at fethdalu ym mis Gorffennaf 2012, gyda chyflogau holl swyddogion yr awdurdod, gan gynnwys y maer a’r pennaeth tân, yn cael eu gostwng i $7.25 yr awr.[10] Dyfynnwyd yr ymgynghorydd ariannol Gary Lewis, sy'n byw yn Scranton, a amcangyfrifodd "ar 5 Gorffennaf dim ond $5,000 o arian wrth law oedd gan y ddinas." [10]

Ers i'r adfywiad ddechrau, mae llawer o siopau coffi, bwytai a bariau wedi agor yn y ddinas, gan greu bywyd nos bywiog. Mae costau byw isel, canol y ddinas sy'n gyfeillgar i gerddwyr, ac adeiladu fflatiau ar ffurf llofft mewn adeiladau hŷn, o bwys pensaernïol wedi denu gweithwyr proffesiynol ifanc ac artistiaid. Mae llawer yn unigolion a fagwyd yn Scranton, a symudodd i ddinasoedd mawr ar ôl ysgol uwchradd a choleg, ac a benderfynodd ddychwelyd i'r ardal i fanteisio ar ei chyfleusterau. Mae llawer o adeiladau o amgylch y ddinas a oedd unwaith yn wag yn cael eu hadfer ar hyn o bryd. Bydd llawer o'r adeiladau sydd wedi'u hadfer yn cael eu defnyddio i ddenu busnesau newydd i'r ddinas. Mae rhai o'r adeiladau sydd newydd gael eu hadnewyddu eisoes yn cael eu defnyddio. [11]

 

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae cyfanswm arwynebedd Scranton o 25.4 milltir sgwar (66 km2) yn cynnwys 25.2 milltir sgwar (65 km2) o dir a 0.2 milltir sgwar (0.52 km2) o ddŵr, yn ôl Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau . Mae Scranton yn cael ei ddraenio gan Afon Lackawanna. [angen ffynhonnell]

Mae canol y ddinas tua 750 troedfedd (229 m) uwch lefel y môr, er bod rhannau o'r ddinas fryniog yn amrywio o tua 650 to 1,400 feet (200 to 430 m). Mae mynyddoedd o bobtu i'r ddinas i'r dwyrain a'r gorllewin y mae eu copaon yn amrywio o 1,900 to 2,100 feet (580 to 640 m). [12][13]

Demograffeg[golygu | golygu cod]

 

Pobl nodedig[golygu | golygu cod]

Llywodraeth[golygu | golygu cod]

  

Chwaer dinasoedd[golygu | golygu cod]

Mae gan Scranton y chwaer-ddinasoedd swyddogol a ganlyn:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Scranton, Wilkes, Barre Metro Area". Usa.com. Cyrchwyd 2015-10-26.
  2. http://explorepahistory.com/hmarker.php?markerId=1-A-39E
  3. "Pennsylvania Historical Marker Search". www.phmc.state.pa.us.
  4. Kashuba, Cheryl A (22 August 2010). "Scranton gained fame as the Electric City, thanks to the region's innovative spirit". Scranton Times-Tribune. Cyrchwyd 14 April 2015.
  5. Azzarelli, Margo L.; Marnie Azzarelli (2016). Labor Unrest in Scranton. Arcadia Publishing. ISBN 9781625856814. Cyrchwyd 2016-11-03.
  6. Vincent J. Falzone, "Terence V. Powderly: Politician and Progressive Mayor of Scranton, 1878-1884," Pennsylvania History 41.3 (1974): 289-309.
  7. "Scranton(city) QuickFacts". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-29. Cyrchwyd 2007-07-24.
  8. "The Citizens Voice – Knox mine disaster remains in our memory because it is a story of right and wrong". Zwire.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 7, 2009. Cyrchwyd 2011-08-29.
  9. "cover". Msha.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-07. Cyrchwyd 2011-08-29.
  10. 10.0 10.1 Harris, Paul (2012-07-14). "Scranton, Pennsylvania: Where even the mayor is on minimum wage". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-08. Cyrchwyd 2012-07-14.
  11. Rich, Megan (27 September 2012). ""From Coal To Cool": The Creative Class, Social Capital, And The Revitalization Of Scranton". Journal of Urban Affairs 35 (3): 365–384. doi:10.1111/j.1467-9906.2012.00639.x.
  12. "West Mountain in Lackawanna County PA (Scranton Area)". Mountain Zone.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 March 2021. Cyrchwyd 17 January 2020.
  13. "Moosic Mountains High Point". Peak Bagger. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 March 2021. Cyrchwyd 17 January 2020.

[[Categori:Dinasoedd Pennsylvania]] [[Categori:Dinasoedd Lackawanna County, Pennsylvania]] [[Categori:Coordinates on Wikidata]] [[Categori:Tudalennau gyda chyfieithiadau heb eu gwirio]]