Defnyddiwr:AlwynapHuw/Gemma Bellincioni

Oddi ar Wicipedia
Gemma Bellincioni
Gemma Bellincioni fel Santuzza, a'i phartner ar y llwyfan ac mewn bywyd preifat, Roberto Stagno, fel Turiddu, ar gyfer première Rhufain 1890 o Cavalleria rusticana.

Roedd Gemma Bellincioni (18 Awst 186423 Ebrill 1950) [1] (Ynganiad Eidaleg: [ˈdʒɛmma bellinˈtʃoːni]) yn Soprano Eidalaidd ac un o gantorion opera mwyaf adnabyddus diwedd y 19G. Roedd ganddi gysylltiad penodol â'r repertoire verismo ac roedd hi'n fenwocach am ei actio carismatig nag am ansawdd ei llais. Roedd hi hefyd yn un o arloeswyr menywod yn y diwydiant ffilmiau.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganed Matilda Cesira Bellincioni yn Monza, yr Eidal, ym 1864. [3] Roedd ei rhieni yn gantorion. Wedi derbyn hyfforddiant gan ei rhieni, gwnaeth ei ymddangosiad operatig cyntaf yn Napoli ym 1880. Aeth ymlaen i ganu’n helaeth yn Ewrop a De America yn ystod y ddau ddegawd nesaf, er mai dim ond unwaith y byddai’n ymddangos yn Llundain - yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden - ym 1895. Er gwaethaf ei enwogrwydd, ni pherfformiodd erioed yn lleoliad operatig amlycaf America, Yr Opera Metropolitan, Efrog Newydd.

Roedd prif gyfansoddwr opera yr Eidal, Giuseppe Verdi, yn edmygu gallu actio Bellincioni. Roedd Verdi wedi dod ar ei thraws ym 1886 pan berfformiodd Violetta yn ei opera La traviata yn La Scala, Milan. Fodd bynnag, ni wnaeth ei thechneg leisiol gymaint o argraff arno oherwydd na ddewisodd i ganu rhan Desdemona ym mhremière Otello y flwyddyn ganlynol. Ar y llaw arall, roedd dull histrionig Bellincioni, ynganiad acenedig a'i phresenoldeb ar lwyfan i brofi'n ddelfrydol ar gyfer arddull newydd felodramatig o opera Eidalaidd o'r enw verismo, a ddaeth yn boblogaidd yn ystod yr 1890au. Canodd y math hwn o gerddoriaeth gydag angerdd mawr. Er nad oedd ei llais yn wirioneddol arbennig o fawr o ran maint nac yn aeddfed ei naws, ac yn cael ei difetha gan fflutter amlwg. <ref>[nb 1] <ref>

Ar 17 Mai 1890, creodd rôl Santuzza yng ngwaith verismo nodedig Pietro Mascagni , Cavalleria Rusticana, yn Rhufain. Canodd ei phriod llwyn a pherth Roberto Stagno, tenor amlwg o Sisili, gyferbyn â hi yn rôl Turiddu yn yr un perfformiad. Roeddent wedi cyfarfod gyntaf ar daith o amgylch yr Ariannin ym 1886.

Bellincioni oedd hefyd y soprano gyntaf i gyflawni'r rôl deitl mewn opera verismo allweddol arall, Fedora gan Umberto Giordano, ar 17 Tachwedd 1898. (Yn chware gyferbyn y canwt ifanc addawol Enrico Caruso.) Wyth mlynedd yn ddiweddarach, bu’n serennu yn y première Eidalaidd o Salome gan Richard Strauss. Cyhoeddodd ei hymddeoliad o'r llwyfan ym 1911 er mwyn canolbwyntio ar fod yn athrawess canu, ond adferodd ei gyrfa perfformio i chware ran mewn ffilm fud o Cavalleria Rusticana a gyfarwyddwyd gan Ugo Falena .

Mor hwyr â dechrau'r 1920au, rhoddodd ychydig o berfformiadau yn yr Iseldiroedd, ond roedd ei llais mewn cyflwr gwan a thenau erbyn hynny.

Ysgrifennodd Bellincioni llawlyfr o gyfarwyddiadau ar gyfer cantorion, a gyhoeddwyd ym Merlin ym 1912 a hunangofiant, Io e il palcoscenico, a gyhoeddwyd ym Milan ym 1920. Treuliodd ei blynyddoedd olaf yn byw yn Napoli, lle bu farw yn 85 oed, goroesodd merch o'i pherthynas a Stagno. Bu farw Stagno 53 mlynedd ynghynt.

Gellir clywed llais Bellincioni o hyd ar ailgyhoeddiadau CD (yn fwyaf arbennig ar label Marston) o ychydig o recordiadau a wnaeth ar gyfer y Gramophone &amp; Typewriter Company a chwmni Pathé ar ddechrau'r 1900au Roedd hi wedi mynd heibio ei gorau pan recordiwyd ac maen nhw'n siomi yn artistig ac yn gerddorol; ond fe'u hystyrir o ddiddordeb hanesyddol mawr oherwydd bod ei gyrfa mor arwyddocaol <ref>.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gemma Bellincioni". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-08-31.
  2. "Gemma Bellincioni – Women Film Pioneers Project" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-08-31.
  3. "Gemma Bellincioni". Oxford Reference (yn Saesneg). doi:10.1093/oi/authority.20110803095457526. Cyrchwyd 2021-08-31.

Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; rhaid i dagiau 'ref' heb enw iddynt gynnwys testun

Ffynonellau

  • Ysgrif goffa yn il Mattino (Napoli), 24 Ebrill 1950.
  • Lanzona, Andrea, "Gemma Bellincioni si racconta" yn Étude rhif 33, Ionawr-Chwefror-Mawrth 2006, Association internationale de chant lyrique TITTA RUFFO. Safle: titta-ruffo-international.jimdo.com.
  • Scott, Michael (1977), The Record of Singing, cyfrol un, 243 tudalen,ISBN 0-7156-1030-9
  • Warrack, John and West, Ewan (1992), Geiriadur Opera Rhydychen, 782 tudalen,ISBN 0-19-869164-5

[[Categori:Marwolaethau 1950]] [[Categori:Genedigaethau 1864]]
Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "nb", ond ni ellir canfod y tag <references group="nb"/>