David Lewis (Jeswit)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Sant David Lewis
Saint David Lewis, engraving 1683.jpg
David Lewis, ysgythriad gan Alexander Voet; 1683
Merthyr, Offeiriad, Tad y Tlodion[1]
Ganwyd 1616
Y Fenni, Sir Fynwy
Bu farw 1679 (62–63 oed)
Brynbuga, Sir Fynwy
Mawrygwyd yn Yr Eglwys Babyddol
Gwynfydiad 15 Rhagfyr 1929[2] by Pab Pïws XI
Canoneiddiwyd yn 25 Hydref 1970[2], Y Fatican, by Pab Pawl VI
Gwyliau 27 Awst

Jeswit, sef aelod o Gymdeithas yr Iesu, a merthyr Pabyddol oedd David Lewis (1616 – 27 Awst 1679) a adnabyddwyd hefyd gyda'r enw Charles Baker ac yn ei fro enedigol fel "Tad y Tlodion". Fe'i gysegrwyd (neu ei 'ganoneiddio') gan Pab Pawl VI yn 1970 fel un o 'Ddeugain Merthyr Cymru a Lloegr' ac ystyrir ef yn sant gan yr Eglwys Babyddol.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Lewis yn 1616, yr ieuengaf o naw o blant y Parch Morgan Lewis (Protestant a phrifathro) a Margaret Pritchard, (Pabydd), a anwyd yn y Fenni, Sir Fynwy.[3]

Ymwelodd a Paris pan oedd yn 16 oed ac yno y trodd yn Babydd. Oherwydd y troedigaeth hwn, astudiodd mewn coleg yn Rhufain, gan ddefnyddio'r enw "Charles Baker", fel a oedd yn arferol yn y cyfnod rhag i ysbiwyr y Goron ei ganfod. Ordeiniwyd ef yn offeiriad Catholig ar 20 Gorffennaf 1642 ac ymunodd a'r Jeswitiaid.[2]

Fe'i danfonwyd i Gymru ar genhadaeth yn 1648; bu'n gweinidogaethu yno i'r llu o deuluoedd Catholig a oedd yn y cylch, gan fyw am flynyddoedd gyda Morganiaid Llantarnam, teulu yr oedd perthynas gwaed rhyngddo a nhw, a daeth yn bennaeth (neu Superior) Cenhadaeth Sant Francis Xavier (gyda'i ganolfan yn Cwm, Swydd Henffordd) o 1667 hyd 1672 ac o 1674 hyd 1679. Pregethai yn Saesneg ac yn Gymraeg, ac fe'i hadnabyddid, yn y cylch, yn gariadus, fel "Tad y Tlodion".

Arrest and execution[golygu | golygu cod y dudalen]

Geiriau olaf David Lewis

My religion is Roman Catholic; in it I have loved above these forty years; in it now I die, and so fixedly die, that if all the good things in the world were offered to me to renounce it, all should not remove me one hair’s breadth from the Roman Catholic faith. A Roman Catholic I am; a Roman Catholic priest I am; a Roman Catholic priest of that order known as the Society of Jesus, I am;"

Paentiad olew wedi'r ysythriad, Abaty Llantarnam

Fe'i arestiwyd ar 17 Tachwedd 1678 yn Eglwys Sant Mihangel, Llantarnam, Sir Fynwy. Condemniwyd ef ym [Mynwy ym Mawrth 1679 am fod yn offeiriad Pabyddol. Fe'i danfonwyd ef i Lundain i'w 'archwilio' gan Titus Oates, a gynlluniodd 'Gynllwyn y Pab'.

Ym Mynwy ar 16 Mawrth 1679 fe roddwyd ef ar brawf.[6]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dygwyd ef yn ôl i Frynbuga ac yno ar 27 Awst 1679 fe'i crogwyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Williams, Peter N. (2003). Presenting Wales from a to Y - The People, the Places, the Traditions. Trafford Publishing. p. 151. ISBN 9781553954828. Cyrchwyd 2014-07-12.
  2. 2.0 2.1 2.2 "St David Lewis, SJ". The Jesuit Singapore Website. Cyrchwyd 2014-07-12.
  3. Dodd, Arthur Herbert (1929-12-15). "Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Text "http://yba.llgc.org.uk/cy/c-LEWI-DAV-1617.html" ignored (help); Missing or empty |url= (help); |access-date= requires |url= (help)
  4. Challoner, Richard (1836). Modern British Martyrology: Commencing with the Reformation, A.D. 1535, 26th Henry VIII. to A.D. 1684, 24th Charles II. London: Keating, Brown, & Co. p. 240. Cyrchwyd 2014-07-12.
  5. Cambden, Burnet (1720). The dying speeches and behaviour of the several state prisoners that have been executed the last 300 years. London. p. 350. Cyrchwyd 2014-07-12.
  6. Roberts, Alun (2002). Welsh National Heroes. Y Lolfa. p. 40. ISBN 9780862436100. Cyrchwyd 2014-07-12.