Cywydd deuair fyrion
Gwedd
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Mae'r cywydd deuair fyrion yn un o'r pedwar mesur ar hugain ac yn cynnwys cyfres o linellau pedair sillaf o hyd ar gynghanedd. Mae pob cwpled yn diweddu gydag un llinell yn acennog a'r llall yn ddiacen a hynny mewn unrhyw drefn. Mae'r mesur hwn yn debyg iawn i'r cywydd deuair hirion ond yn llinellau 4 sill yn hytrach na 7 sill.
Mewn awdl, fel arfer y gwelir y cywydd deuair fyrion, yn hytrach nac ar ei ben ei hun.
Dyma enghraifft allan o "Salm i Famon" gan John Morris Jones:[1]
Ond Ef, mad oedd,
Oediog ydoedd,
Di lid ei law,
Hir cyn taraw.
Dwys bwys ei bai
Oll ni allai,
Na'i gwŷn na'i gwâd,
Oeri'i gariad.
O'i ged wedi
Ei thost waith hi,
Hwn anfonodd
Ei Fab o'i fodd,
I'w throi i'w thref -
Wiwdda addef.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Syr John Morris-Jones, Salm i Famon a Marwnad mewn Mynwent (Gray), Llyfrau'r Ford Gron 17 (Wrecsam: Hughes a'i Fab, [1931]), t.15