Dyffryn Sirhywi
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Cwm Sirhywi)
Golygfa yn Nyffryn Sirhywi ger Argoed | |
| Math | dyffryn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Blaenau Gwent, Bwrdeistref Sirol Caerffili |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.779°N 3.233°W |
![]() | |
Dyffryn yn ne Cymru sy'n cael ei ffurfio gan Afon Sirhywi yw Dyffryn Sirhywi.
Mae Afon Sirhywi yn tarddu ar lethrau Cefn Pyllau-duon uwchlaw Tredegar, ac yn llifo tua'r de trwy dref Tredegar ac yna Coed Duon a Pontllanfraith. Mae'n troi i'r dwyrain gerllaw Cwmfelinfach ac yn llifo i Afon Ebwy ger Crosskeys.
Roedd diwydiannau haearn a glo pwysig yma ar un adeg. Y diwydiant haearn a ddatblygodd gyntaf, gan arwain at gynnydd yn y galw am lo, a datblygiad nifer o lofeydd. Roedd y Tredegar Iron and Coal Company yn arbennig o bwysig, ond ceid glofeydd ar hyd y dyffryn, yn cynnwys Glofa Wyllie, Glofa Nine Mile Point a Glofa Oakdale.
