Nine Mile Point (Glofa)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Nine Mile Point)
Jump to navigation Jump to search

Pwll glo oedd Nine Mile Point (neu Glofa Nine Mile Point) ym mhentref Cwmfelinfach yn Nyffryn Sirhywi rhwng Caerffili a Chasnewydd yn yr hen Sir Fynwy ond sydd bellach yn ran o Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Gelwid y pwll yn wreiddiol yn "Glofa Coronation", ac a adeiladwyd rhwng 1902 a 1905. Roedd y siafft ddyfnaf yn 1,176 troedfedd o ddyfnder. Lladdwyd saith dyn ar 13 Awst 1904 wrth sefydlu'r pwll.

Ailenwyd y pwll yn Nine Point Point gan mai dyna oedd pellter y dramffordd o ymyl ffin Arglwydd Tredegar yng Nghasnewydd i'r pwll glo.

Ar ei anterth roedd yn cyflogi 2,105 o ddynion, a oedd yn byw yn bennaf ym mhentrefi cyfagos Cwmfelinfach a Wattsville.

Yn 1929 dechreuodd terfysgoedd yn y pwll glo. Roedd y rhesymau dros y terfysg i'w cael wrth gyflogi llafur du, gyda mwy na 700 o bentrefwyr a glowyr yn terfysg ar y pryd, gan gymryd sawl diwrnod i'r heddlu wasgaru a chynnal rheolaeth.

Yn 1935, "arhosodd 164 o ddynion" mewn protest "eistedd mewn", y cyntaf erioed ym maes glo De Cymru, dros ddefnyddio llafur 'sgab' - dynion oedd wedi torri'r streic.

Caeodd y pwll glo yn 1964.

Charles Edwards, Aelod Seneddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu i'r Aelod Seneddol dros etholaeth San Steffan Bedwellte, Charles Edwards weithio fel 'pwyswr' ym mhwll y Nine Mile Point am gyfnod. Swydd a olygau pwyso'r glo i sicrhau taliad i'w glowr oedd wedi cloddio.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfesurynnau: 51°36′53″N 3°10′06″W / 51.61472°N 3.16833°W / 51.61472; -3.16833