Charles Edwards (AS Bedwellte)

Oddi ar Wicipedia
Charles Edwards
Ganwyd19 Chwefror 1867 Edit this on Wikidata
Gravel Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mehefin 1954 Edit this on Wikidata
Dyffryn Sirhywi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Roedd y Gwir Anrhydeddus Syr Charles Edwards, 19 Chwefror, 186715 Gorffennaf 1954 yn undebwr llafur ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Llafur Bedwellte rhwng 1918 a 1950.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Edwards ym mhentrefan Gravel ger Llangynllo Sir Faesyfed, yn fab i John Edwards, gwas ffarm a Catherine (née Jones) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Genedlaethol, Llangynllo.[1]

Ym 1885 priododd Margaret Ann merch William a Jane Davies, Abercarn. Bu iddynt fab a merch.

Undebwr Llafur[golygu | golygu cod]

Ymadawodd Edwards a'r ysgol yn 12 mlwydd oed ac aeth i weithio fel gwas ffarm cyn symud i Sirhywi i weithio yn y pyllau glo ym 14 mlwydd oed. Aeth o Sirhywi i weithio mewn pwll yn Abercarn cyn setlo yn Rhisga ym 1890.

Bu'n trysorydd cyfrinfa'r glowyr yn Rhisga cyn cael ei ethol yn bwyswr (un oedd yn gwirio pwysau'r glo a gloddiwyd ar ran y gweithwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyflog teg am eu gwaith) ym Mhwll Nine Mile Point. Ym 1911 fe'i holynodd Vernon Hartshorn fel aelod o bwyllgor gweithredol Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Ym 1914 fe'i penodwyd yn Asiant Cynorthwyol Ffederasiwn Glowyr De Cymru ar gyfer ardal Tredegar, gan weithio fel dirprwy i Alfred Onions prif asiant yr ardal.[2]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd Edwards fel cynghorydd ar Gyngor Ardal Ddinesig Rhisga o 1903, gan gynnwys cyfnod yn cadeirio'r cyngor [2]. Ym 1915 fe'i hetholwyd yn aelod o Gyngor Sir Fynwy.[3] Cafodd ei ethol fel aelod cyntaf etholaeth newydd Bedwellte yn etholiad cyffredinol 1918, gan dal y sedd i'r Blaid Lafur hyd ei ymddiswyddiad o'r Senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1950. Yn y senedd bu'n gwasanaethu fel chwip i'w blaid o 1929 hyd 1942 gan gynnwys bod yn brif chwip o 1931 i 1942.[1]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Fe'i hurddwyd yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1931 ac yn Farchog Baglor ym 1935 [4]. Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1940.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref yn Rhisga yn 87 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Tan y graig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (2007, December 01). Edwards, Rt Hon. Sir Charles, (19 Feb. 1867–15 June 1954), JP; MP (Lab.) Bedwelty Division of Monmouthshire, December 1918–50; Miners’ Agent. WHO'S WHO & WHO WAS WHO adalwyd 7 Mawrth 2019
  2. 2.0 2.1 New Sub Agent - Mr Charles Edwards Western Mail - 04 Mehefin 1914
  3. Monmouthshire Council Vacancy Western Mail - 16 Chwefror 1915
  4. The Gazette Rhif:15180 Tud.:482
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol

Bedwellte
19181950

Olynydd:
Harold Finch