Nine Mile Point (Glofa)
Math | glofa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6147°N 3.1683°W |
Pwll glo oedd Nine Mile Point (neu Glofa Nine Mile Point) ym mhentref Cwmfelinfach yn Nyffryn Sirhywi rhwng Caerffili a Chasnewydd yn yr hen Sir Fynwy ond sydd bellach yn rhan o Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Hanes
[golygu | golygu cod]Gelwid y pwll yn wreiddiol yn "Glofa Coronation", ac a adeiladwyd rhwng 1902 a 1905. Roedd y siafft ddyfnaf yn 1,176 troedfedd o ddyfnder. Lladdwyd saith dyn ar 13 Awst 1904 wrth sefydlu'r pwll.
Ailenwyd y pwll yn Nine Point Point gan mai dyna oedd pellter y dramffordd o ymyl ffin Arglwydd Tredegar yng Nghasnewydd i'r pwll glo.
Ar ei anterth roedd yn cyflogi 2,105 o ddynion, a oedd yn byw yn bennaf ym mhentrefi cyfagos Cwmfelinfach a Wattsville.
Yn 1929 dechreuodd terfysgoedd yn y pwll glo. Roedd y rhesymau dros y terfysg i'w cael wrth gyflogi llafur du, gyda mwy na 700 o bentrefwyr a glowyr yn terfysg ar y pryd, gan gymryd sawl diwrnod i'r heddlu wasgaru a chynnal rheolaeth.
Yn 1935, "arhosodd 164 o ddynion" mewn protest "eistedd mewn", y cyntaf erioed ym maes glo De Cymru, dros ddefnyddio llafur 'sgab' - dynion oedd wedi torri'r streic.
Caeodd y pwll glo yn 1964.
Charles Edwards, Aelod Seneddol
[golygu | golygu cod]Bu i'r Aelod Seneddol dros etholaeth San Steffan Bedwellte, Charles Edwards weithio fel 'pwyswr' ym mhwll y Nine Mile Point am gyfnod. Swydd a olygau pwyso'r glo i sicrhau taliad i'w glowr oedd wedi cloddio.