Creirwy

Oddi ar Wicipedia

Yn y traddodiad chwedlonol Cymreig, Creirwy oedd merch y dduwies natur Ceridwen. Roedd hi'n ferch o harddwch diarhebol.

Yn ôl y chwedl ganoloesol Hanes Taliesin, sy'n adrodd hanes cynnar y Taliesin chwedlonol, roedd Ceridwen yn wraig i Degid Foel o Benllyn. Yn ogystal â Creirwy, roedd ganddi fab o'r enw Morfran a oedd mor hyll fel y cafodd y llysenw 'Afagddu'. Roedd Creirwy y gwrthwyneb i'w frawd ac yn yr Oesoedd Canol roedd hi'n cael ei hystyried yn batrwm o brydferthwch mewn merch. Gyda Arianrhod ferch Dôn a Gwen ferch Cywryd roedd hi'n un o 'Dair Gwenriain Ynys Prydain':

'Teir Gwenriein Ynys Prydain:
Creirwy merch Ceridwen,
Ac Arianrod ferch Dôn,
A Gwen ferch [C]ywryd mab Cryddon.'
(Trioedd Ynys Prydain 78, mewn orgraff ddiweddar)

Mae Ifor Williams yn dadlau fod yr enw Creirwy yn air cyfansawdd o crair "trysor, peth annwyl" a byw "bywiog." Yn fersiwn Elis Gruffydd o chwedl Taliesin, disgrifir Creirwy fel "tecaf forwyn o'r byd." Ceir ambell gyfeiriad ati yn yr un cywair yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr fel Madog Benfras a Tudur Aled.

Tyfodd chwedl amdani fel cariad yr arwr Garwy Hir, mewn awdl gan Hywel ab Einion i'w gariad Myfanwy o gastell Dinas Brân.

Yn ogystal ceir merch hardd o'r enw Chreirbia ym muchedd Ladin Sant Gwenole, o Gernyw gan Wrdisten. Ymddengys fod Chreirbia yn llygriad o'r enw Cymraeg Creirwy. Fe'i disgrifir fel puella pulcherrima ("morwyn ifanc deg iawn").

Y tu ôl i'r traddodiadau hyn mae'n bosibl fod Creirwy, fel ei mam, yn dduwies Gymreig/Geltaidd.

Cyfeiradau[golygu | golygu cod]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. newydd, 1991)
  • Ifor Williams, Chwedl Taliesin (Caerdydd, 1957)